Maen nhw’n dweud bod ysgubau newydd yn ysgubo’n lân ac mae hynny’n sicr yn wir am un busnes sydd wedi’i leoli ym Mhwllheli. Mae Gwynedd Disposables Cyf wedi ailwampio’i ddarpariaeth ddigidol yn llawn, gyda chymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau, gan arwain at gynnydd o 300 y cant yn y nifer sy’n ymweld â’r wefan. 

Man and woman stood in front of warehouse entrance holding laptops under their arms

 

Ar ôl 50 mlynedd o fasnachu o dan deulu Graham, mae teulu lleol arall wedi cymryd yr awenau, ac yn anelu at sicrhau twf ochr yn ochr ag ymrwymiad parhaus i wasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel mewn cyflenwi cynhyrchion glanhau, glanweithdra a diheintio. 

Fel rhan o’r caffael, mae’r busnes yn ailwampio’i wasanaethau digidol yn llwyr, gan gynnwys gwefan fodern yn canolbwyntio ar optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) a lansio ar y cyfryngau cymdeithasol gyda chynllun cynnwys teilwredig.  

Gan fod y perchnogion newydd yn hyrwyddo newid, cafodd y tri chyflogai presennol eu dyrchafu i rolau rheoli, yn ogystal â dod yn gyfarwyddwyr â chyfranddaliadau. Un o’r rheiny sy’n mwynhau’r rôl a’r her newydd yw Anwen Jones, sy’n arwain ar gyflwyno darpariaeth ddigidol yn Gwynedd Disposables, y mae ei gleientiaid yn gweithredu yn y sectorau arlwyo, hamdden, twristiaeth, nyrsio a chartrefi gofal ar hyd a lled Gogledd Cymru a’r Canolbarth. 

Dywedodd Anwen: “Gwelais fod cyfle i gael cymorth yn rhad ac am ddim gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, ac maen nhw wedi rhoi cymorth ardderchog. Mae’n ddyddiau cynnar ond mae canlyniadau arwyddocaol wedi digwydd yn barod. Mae nifer yr ymweliadau â’n gwefan wedi cynyddu mwy na 300 y cant o gymharu â’r adeg hon y llynedd, a’n tudalen Facebook newydd sydd i gyfrif am hynny, yn fy marn i.” 

Mae gwelliannau’n cynnwys ymarfer ailfrandio, fel logo cwmni newydd, yn ogystal â buddsoddiad sylweddol mewn TG, a oedd yn cynnwys cyflwyno set newydd o gyfrifiaduron a gweithredu gweinydd cwmwl, gan ddarparu diogelwch a phrosesau gweithredol mwy effeithlon. 

Wrth gydnabod manteision y dechnoleg newydd hon, dywedodd Anwen: “Roedd ein hen gyfrifiaduron yn araf a doedden nhw ddim yn gadael i ni ystyried dylunio graffeg a golygu ffotograffau yn fewnol. Ond erbyn hyn, rydyn ni’n gallu creu deunyddiau proffesiynol yn fewnol – gan arbed amser ac arian tra’n galluogi i ni gadw gwerthoedd a phrofiad ein cwmni hefyd.” 

Man and woman in warehouse surrounded by product shelving holding laptops and looking

 

Gyda’r dechnoleg i greu asedau wedi’u brandio, mae Gwynedd Disposables yn manteisio ar y cyngor i lansio strategaeth cyfryngau cymdeithasol a datblygu cynllun cynnwys difyr. 

Esboniodd Anwen: “Doedd y cyfryngau cymdeithasol ddim yn rhan o’r cymysgedd marchnata yn y gorffennol, mewn gwirionedd, felly rydyn ni wedi dechrau o’r dechrau a cheisio’i ddatblygu yn raddol. Erbyn hyn, gallwn ni greu cynnwys proffesiynol ei olwg, ac yn hanfodol, rydyn ni’n dechrau creu presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol. 

“Mae’n ddyddiau cynnar iawn o hyd o ran ein tudalen Facebook, ond rydyn ni’n ychwanegu’n gwefan fel yr alwad i weithredu ar ein postiadau, ac mae’r canlyniadau’n wych yn barod. Rydyn ni hefyd wedi dysgu defnyddio offer dadansoddi i fonitro’n twf ac adolygu pa gynnwys sy’n gweithio orau.”  

Trwy elwa ar sgiliau anhysbys un o’r tîm, mae Adrian Coles, un o gydweithwyr Anwen, wedi dechrau ymgyrch SEO ar draws y wefan. 

Trwy fynychu gweminarau wedi’u darparu yn rhad ac am ddim gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, SEO, a gwefannau, mae Adrian yn gwella’i wybodaeth ddigidol a’i nod yw gwella safle Google y busnes, cyrraedd cynulleidfa ehangach, a rhoi mwy o hwb i ymholiadau busnes.   

Ychwanegodd Anwen:

“Rydyn ni wedi dysgu llawer o’r cymorth ac mae’r gweminarau wedi bod yn adnodd rhagorol i ni. Mae’r cyfan yn newydd i ni o hyd, ond weithiau rydych chi’n sylweddoli bod rhywun yn meddu ar ddoniau heb eu gwireddu o fewn eich tîm, sy’n gallu cael eu rhoi ar waith.” 

Gyda chynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cyflwyno opsiynau e-Fasnach, mae Anwen yn gyffrous i weld i ble mae’r busnes yn mynd, gan ddweud: “Mae’n broses ddysgu fawr i bob un ohonon ni, i raddau helaeth. Wrth i ni ymgyfarwyddo â’n rolau a’n cyfrifoldebau newydd, yn ogystal ag addasu yn unol â’r prosesau newydd, byddwn ni’n parhau i edrych ar sut gallwn ni wella fel unigolion, fel tîm ac fel cwmni. 

“Rydyn ni’n dal i weithredu’r cyngor o’n cynllun gweithredu teilwredig gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, a oedd yn rhestr fanwl cam wrth gam o welliannau y gallen ni ddechrau eu rhoi ar waith ar unwaith.    

“Cafodd y tîm cyfan ei ryfeddu gan faint o gymorth a gawson ni – nid dim ond y gweminarau am ddim, ond hefyd yr ymgynghori un i un a’r adroddiad. Hwn ydy’r adroddiad mwyaf trylwyr i mi ei gael erioed.” 

Wrth ddefnyddio ymagwedd ragweithiol at adfywio’r cwmni, dywedodd Anwen: “Rydw i wedi derbyn negeseuon e-bost wythnosol Busnes Cymru ers tro, a dyna ble welais i’r cyfle am y tro cyntaf i gael cymorth digidol ‘Cyflymu Cymru i Fusnesau’.  

Anwen in the warehouse holding a laptop and smiling

 

“Mae’r negeseuon e-bost yn adnodd gwych, ac maen nhw wedi helpu tanio ysbrydoliaeth ar gyfer gwelliannau i’n busnes. 

“Byddwn i’n sicr yn argymell Cyflymu Cymru i Fusnesau i bobl eraill a fyddai’n elwa ar safbwynt rhywun o’r tu allan. Mae’n anhygoel o ystyried ei fod yn offeryn am ddim.    

“Gweithiodd yr ymgynghorydd gyda ni i ddysgu am ein sefydliad ac i ble rydyn ni eisiau mynd. Rhoddodd arweiniad angenrheidiol i ni, gan gynnig cyngor ar feysydd doedden ni ddim yn siŵr amdanyn nhw, a hyd yn oed esbonio ble doedd pethau ddim yn gweithio’n iawn. Mae wedi bod yn broses ddysgu fawr. 

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cymorth, ac er ei bod yn ddyddiau cynnar o ran canlyniadau, roedden ni’n gwybod ein bod wedi gosod y sylfeini a’n bod ar y trywydd cywir i dyfu’r busnes, yn ogystal â datblygu pob un ohonon ni fel unigolion.”  

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen