Dewch i weld sut mae CBM, cyfleuster ymchwil lefel uwch sy'n canolbwyntio ar elfennau masnachol, datblygu cynnyrch a gweithgynhyrchu swp, yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf a rhaglenni meddalwedd hygyrch i weithio ar draws y Deyrnas Unedig a'r byd o'i ganolfan yn Abertawe.

 

Dewch i gael gwybod sut mae cymorth busnes un-i-un gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi helpu CBM i ddod yn fwy effeithiol, effeithlon a chraff.

 

 

Cafodd CBM ei sefydlu yn Abertawe fel adnodd ymchwil, datblygu cynnyrch a gweithgynhyrchu uwch.

 

Mae’r cwmni'n troi ei ymchwil yn ystod o gynhyrchion a gwasanaethau, ac ar hyn o bryd mae'n cynnig adnoddau masnachol mewn tri phrif faes.

 

Mae’n datblygu cynhyrchion newydd, gan fynd â syniad oddi ar ddarn o bapur gwag yr holl ffordd drwodd i’r cam o'i weithgynhyrchu;

 

Mae'n cynnig prosesau gweithgynhyrchu uwch a gweithgynhyrchu mewn sypiau bach yn fewnol, gan arbenigo mewn argraffu 3D mewn polymerau a metelau, a gweithgynhyrchu mewn titaniwm mewnblanadwy llawfeddygol; ...ac mae ei adran feddygol yn datblygu dyfeisiau meddygol pwrpasol ar gyfer y farchnad ddynol a milfeddygol, gan ddefnyddio data wedi'i sganio a llunio modelau anatomaidd 3D mewn deunyddiau gradd meddygol, yn ogystal â chanllawiau ac impiadau llawfeddygol.

 

Mae CBM yn gweithio gydag unrhyw un o ddyfeisiwr unigol i fusnesau bach a chanolig a chorfforaethau, yn lleol, ledled Cymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol.

 

Mae cyflymder band eang yn bwysig iawn i CBM. Yn y dyddiau cynnar, roedd y cyflymder yn araf iawn, ond erbyn hyn mae cleientiaid yn disgwyl ymatebion cyflym. Mae creu prototeipiau'n gyflym yn un o wasanaethau'r cwmni a dim ond oherwydd band eang cyflym y gall gynnig y gwasanaeth hwn.

 

Mae staff yn defnyddio negeseuon e-bost a thaenlenni o ddydd i ddydd, ond mae gallu defnyddio band eang yn eu galluogi hefyd i rannu eu desgiau o bell â chleientiaid yn ogystal â defnyddio rhywfaint o feddalwedd 3D CAD lefel uchaf i ddylanwadu ar y cynhyrchion meddygol, gyda phopeth yn rhwydweithio gyda’i gilydd.

 

O ganlyniad, mae CBM yn gallu rhannu gwybodaeth â phobl o bob cwr o’r byd. Caiff y dyluniadau maent yn eu llunio yn eu systemau 3D CAD eu rhannu â gweithgynhyrchwyr ar gyfer cael eu troi - er enghraifft - yn offer i wneud rhannau plastig.

 

Cafodd CBM gymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau ar ôl mynd i ddigwyddiad marchnata ar-lein. Llwyddodd gwybodaeth y cyflwynydd i greu argraff ar Ashley Bryant, cyfarwyddwr dylunio CBM a gadawodd y digwyddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

Ar ôl y digwyddiad, aeth un o Gynghorwyr Busnes Cyflymu Cymru i Fusnesau i ymweld â CBM ac edrych ar yr hyn roedd yn ei wneud ar hyn o bryd. Lluniodd y gwasanaeth cymorth am ddim adroddiad cynhwysfawr ar sut i fod yn fwy effeithlon, gan dynnu sylw at feysydd i’w gwella ac awgrymu dulliau marchnata a meddalwedd y gallai eu defnyddio.

 

Dywed Ashley fod y cwmni wedi newid ei systemau yn sgil yr adroddiad hwnnw, a'i fod bellach yn fwy effeithlon, effeithiol a phendant.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen