“Rydw i’n ei weld yn hwyl yn awr fy mod yn ei ddeall!” meddai Anouska Tarrant, sydd yng nghanol ei phedwardegau ac wedi manteisio ar farchnata digidol er mwyn helpu busnes y teulu i gychwyn yn rymus.

 

Lansiwyd Crochendy Penrhiw yn Aberystwyth, sy’n gwneud llestri bwrdd yn cynnwys tebotiau, cwpanau, bowlenni ffrwyth a jygiau, ym mis Mai 2018 ar ôl i’r teulu adleoli o Ynys Jersey. Gyda chyfuniad o sioeau llwyddiannus, gwneud cysylltiadau, orielau a siopau yn derbyn cyflenwadau o waith, a gwersi wedi’u harchebu, mae Anouska a’i phartner Dave yn ffynnu.

 

Couple stand in Pottery shop

 

“Mae’r cyngor wedi chwarae rhan hanfodol yn ein twf”

“Roedd yn heriol iawn ar y cychwyn,” cyfaddefa Anouska, sydd yn cymysgu gwydreddau o ddeunyddiau crai ac yn defnyddio’r gwydreddau hynny i wydro’r nwyddau sy’n cael ei gynhyrchu gan Dave yn ogystal ag edrych ar ôl y marchnata.

 

“Roeddem yn ceisio adeiladu ymwybyddiaeth brand ac enw da cryf mewn maes newydd drwy ddefnyddio marchnata digidol yn ogystal â chyflawni archebion. Ar ben hynny, mae gennym ni ddau fab, mae un yn 13 oed a’r llall yn 11 mis! Roedd yn llethol iawn.”

 

Y trobwynt i Anouska oedd gweld hysbyseb am weithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau.

 

Ychwanegodd hi: “Roedd y cynnig o gefnogaeth rad ac am ddim inni wrth gychwyn yn rhyfeddol. Roedd yn agoriad llygad ac mae’r holl gyngor wedi profi’n werthfawr ac wedi chwarae rhan hanfodol yn ein twf. Tynnwyd y rhwystrau o fod yn ddigidol gan Cyflymu Cymru i Fusnesau.

 

“Cefais wybodaeth dechnegol nad oedd gennyf o’r blaen”

“Gwnaethom ddefnyddio'r cwbl y gallem. O ganlyniad, bu cynnydd yn y nifer o ymwelwyr i’n gwefan a gwnaethom dderbyn archebion bloc ar archebion am nwyddau. Rydw i hefyd yn treulio llai o amser ar gyfryngau cymdeithasol ond rydw i’n cael mwy o ganlyniadau.

 

“Mae Paul, ein cynghorydd busnes, wedi dod yn hyfforddwr bywyd. Gwnaeth ef fy annog i ganolbwyntio. Dywedodd fod gwneud un neu ddau o bethau yn wych yn well na gwneud llawer o bethau ‘dim ond yn iawn’. Roedd ef yn hollol gywir.

 

“Gwneuthum dderbyn gwybodaeth dechnegol nad oedd gen i o’r blaen. Yn hanesyddol, roeddwn wedi anwybyddu hysbysebu ar Facebook. Yn awr, mae’n rhan hanfodol o’m cymysgfa farchnata. Dangosodd Cyflymu Cymru i Fusnesau i mi nid yn unig sut i redeg ymgyrchoedd sydd wedi’u targedu i gadw costau i lawr, ond gwnaeth ei ddatgyfrinio ac roedd yn gwneud synnwyr. Gwariais £25 yn unig ar hysbysebu a mynychodd 20 o bobl ein diwrnod agored cyntaf, gyda 40 arall yn cofrestru eu diddordeb.

 

“Deall marchnata digidol sy’n gyfrifol am ein llwyddiant”

“Defnyddiais ddau hysbyseb a gweithiodd un yn well na’r llall. Rydw i’n dysgu pa hysbysebion sy’n gweithio orau ar gyfer ein cynulleidfa sy’n tyfu, ac yn awr rydw i’n fwy hyderus i ddefnyddio hysbysebion ar gyfer ein digwyddiad nesaf er mwyn cynyddu’r diddordeb. Mae hyn yn dangos pa mor bell yr ydw i wedi dod yn ddigidol!

 

“Rydw i wedi defnyddio’r holl wybodaeth a ddysgais gan Cyflymu Cymru i Fusnesau i hyrwyddo pob sioe, digwyddiad, ac wrth lansio gwaith newydd, ac rydym yn teimlo bod llawer o’n llwyddiant wedi dod o fod yn deall marchnata digidol, sy’n ein galluogi ni i ymgysylltu â’n cynulleidfa yn gyflym, yn effeithlon ac yn effeithiol.”

 

Gyda’r bennod newydd i’r teulu wedi hen gychwyn, mae Anouska yn gyffrous ynglŷn â’r dyfodol ac mae hi’n cynllunio i gynyddu ei marchnata digidol yn ystod 2019.

 

“Y peth nesaf ar fy rhestr yw Instagram a marchnata trwy e-bost,” dywedodd. “Diolch i Cyflymu Cymru i Fusnesau, rydw i’n gwybod bod gwahaniaethau rhwng Instagram a Facebook, a bydd y cynnwys y byddaf yn ei gyhoeddi yn adlewyrchu hynny. Hefyd, maen nhw wedi ein cynghori ni i nodi cyfeiriadau e-bost gan gwsmeriaid, a bydd hyn yn helpu i gynyddu ailarchebion drwy ymgyrchoedd e-bost.

 

“Ein nod yw ennill rhai cadwyni gwestai a bwytai drwy Ewrop a buddsoddi mewn odyn fwy. Mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol am y deng mlynedd nesaf, sy’n cynnwys datblygu’r tir i gynnig llety fel rhan o weithdai crochenwaith preswyl.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen