Mae oriel sy’n eiddo teuluol wedi’i lleoli mewn pentref pysgota eidylig yn Sir Benfro yn croesawu technoleg ddigidol er mwyn hybu gwerthiant a dangos celf o Gymru i gynulleidfa drwy’r byd.

Mae Oriel Harbour Lights ym Mhorthgain, wrth ymyl Tyddewi, yn gweithio gydag oddeutu 40 o artistiaid o Gymru i arddangos gwaith celf gwreiddiol, printiadau a cherfluniau mewn amrediad o wahanol arddulliau. Yn ychwanegol at le ffisegol i arddangos, mae’r oriel yn awr yn defnyddio ei gwefan, cyfryngau cymdeithasol a marchnata ar-lein er mwyn hyrwyddo gwaith ei hartistiaid, ymestyn nifer ei chwsmeriaid a darparu cwsmeriaid posibl gyda phrofiad mwy personoledig.

 

Cofrestrodd Katy Davies, Rheolwr yr Oriel â rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar. Ei cham cyntaf oedd mynychu gweithdy cyfryngau cymdeithasol yn Nhyddewi, wedi’i ddilyn gan gyngor un i un gan gynghorydd busnes arbenigol ynglŷn â sut i gynyddu effaith presenoldeb ar-lein yr oriel – cyngor a ddisgrifiwyd ganddi hi fel “un gwerthfawr”.

 

Woman standing in gallery

 

“Roeddem yn arfer edrych ar y wefan fel modd o gynhyrchu ychydig mwy o werthiant yn ystod cyfnodau distawach y tu allan i’r tymor, ond yn awr rydym yn ei gweld fel rhan o strategaeth ddigidol integredig sy’n ein helpu ni i gynhyrchu mwy o sylw ar gyfer ein hartistiaid a chynyddu ymgysylltiad â’n cwsmeriaid drwy’r flwyddyn,” esboniodd Ms Davies.

 

Mae’r drafnidiaeth i’r wefan wedi mwy na dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac ym mis Tachwedd 2018, cynhyrchodd yr oriel 90% o’i hincwm o werthiant ar-lein. Mae’r defnydd creadigol a chyson o gyfryngau cymdeithasol wedi bod yn ganlyniad cadarnhaol arall o’r rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau sydd, yn ôl Ms Davies, wedi cyflawni nifer o fuddion syfrdanol.

 

Mae cyfryngau cymdeithasol yn ein helpu ni i adeiladu cysylltiadau cryfach gyda chwsmeriaid

“Mae defnyddio platfformau fel Facebook ac, yn fwy diweddar, Instagram, wedi agor cyfleoedd anferth ar ein cyfer ni i ymgysylltu â chwsmeriaid. Nid yn unig y gallu i bostio delweddau neu fideos o weithiau newydd wrth iddyn nhw gyrraedd, rydym ni hefyd yn rhannu newyddion ynglŷn â’n hartistiaid, postio straeon a delweddau o’r ardal leol, yn ogystal â rhoi blas i bobl o’r hyn sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni. Mae mwyafrif o’n cwsmeriaid wedi bod yn yr ardal neu wedi ymweld â’r oriel ar ryw adeg, ac felly maen nhw’n hapus i glywed am beth sy’n mynd ymlaen.”

 

Mae’r oriel hefyd wedi darganfod bod pobl yn fwy cyfforddus yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ofyn cwestiynau ynglŷn â gweithiau celf unigol, yr ysbrydoliaeth y tu ôl iddyn nhw ac am yr artistiaid eu hunain.

 

“Mae pobl yn eu gweld fel cyfrwng sgyrsiol ac maen nhw’n awyddus i ymgysylltu â ni,” meddai Ms Davies. “Y mis diwethaf, cawsom bleidlais ar ein tudalen Facebook er mwyn helpu un o’n hartistiaid benderfynu pan un o’u peintiadau gwreiddiol y dylen nhw eu gwneud yn brintiadau a chawsom adborth ffantastig.”

 

Gwelodd Harbour Lights fod ymgysylltu yn fwy cyson drwy gyfryngau cymdeithasol nid yn unig wedi eu galluogi nhw i adeiladu cysylltiadau cryfach gyda’u cwsmeriaid a’u hartistiaid, ond roedd yn helpu i ffurfio partneriaethau newydd gyda busnesau lleol eraill hefyd.

 

Bu Cyflymu Cymru i Fusnesau yn help anferth

“Mae twristiaeth yn parhau yn farchnad anhygoel o bwysig i Sir Benfro ac mae ymgysylltu ar gyfryngau cymdeithasol wedi ein helpu ni ymgysylltu â busnesau o’r un meddylfryd yn yr ardal. Pan yr ydych chi’n byw mewn ardal gyhyd, mae’n hawdd anghofio beth sydd gennym ni ar ein stepen drws, ond rydym wedi gallu cysylltu â llawer o fusnesau lleol ynglŷn â hyrwyddiadau ar y cyd a dod yn llysgenhadon ar gyfer ein gilydd i bob diben,” ychwanega Ms Davies.

 

Dadorchuddiwyd Harbour Lights ei wefan gyntaf yn 1997, pan roedd yr oriel yn rhannu ei chartref gyda bwyty a oedd yn cael ei redeg gan rieni a modryb Katy. Erbyn 2000, roedd yr oriel yn gwneud yn well na’r bwyty fel y prif gynhyrchwr incwm a chafodd yr adeilad ei ailbwrpasu. Deunaw mlynedd yn ddiweddarach, gofod digidol yr oriel sy’n sbarduno’r busnes ymlaen.

 

“Mae gwerthu celf wreiddiol yn fusnes cystadleuol ac nid yw bob amser yn addas ar gyfer cyfryngau ar-lein, ac rydym felly wedi bod yn greadigol ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn defnyddio marchnata digidol”, meddai Ms Davies. Dyma le mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn help anferth. Mae cael rhywun gyda’r wybodaeth a llygaid ffres i edrych ar beth yr oeddem yn ei wneud a beth y gallem ni ei wneud i wella, wedi rhoi’r hyder inni ddefnyddio ein brwdfrydedd a’n syniadau a’u troi nhw yn weithgaredd sy’n gweithio inni yn fasnachol.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen