Ddechrau 2020, doedd y cwmni rheoli cadwyni cyflenwi Freight Logistics Solutions, ddim yn disgwyl gorfod gwneud rhwng 80-100 o siwrneiau bob dydd i ddanfon nwyddau i’r GIG. Ond wrth i Gymru wynebu’r cyfnod clo ym mis Mawrth, daeth llawer o'r diwydiant gweithgynhyrchu i stop. Golygai hyn bod angen i FLS addasu a dod o hyd i gwsmeriaid ac atebion newydd yn gyflym, neu gael eu gorfodi i gau dros-dro, sefyllfa a wynebai nifer o gwmnïau trafnidiaeth cludo nwyddau a chludwyr ar y pryd.

“O droi at ddigidol, roedden ni’n barod i weithio gartref o fewn yr awr”

Ond er bod cwmnïau gweithgynhyrchu naill ai'n cau neu'n lleihau oriau, roedd y galw am gludo nwyddau a chludwyr yn tyfu'n gyflym yn enwedig o fewn y diwydiannau gofal iechyd a fferyllol. Gyda gyrwyr ar ffyrlo, roedd nifer o’r cludwyr traddodiadol heb ddigon o adnoddau ac yn methu ymateb yn ddigon cyflym i ofynion y farchnad. Serch hynny, roedd FLS mewn sefyllfa dda i lenwi’r bwlch yn sgil y sylfeini digidol a osodwyd 18 mis yn gynharach i siglo’r sector trafnidiaeth cludo nwyddau, yn dilyn cyngor Cyflymu Cymru i Fusnesau.

An FLS van outside a hospital and two nurses.

“Mae ein porth olrhain nwyddau yn golygu y gallwn barhau i fod yn hyblyg, gweithredu’n gyflym a dal i gynnig ansawdd, cydymffurfiaeth a bod yn ddibynadwy”

Dywedodd Ieuan Rosser, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Fe wnaethom fuddsoddi’n sylweddol yn ein porth olrhain nwyddau deallus sy’n paru anghenion trafnidiaeth cleientiaid â’n cronfa ddata o 11,500 o gludwyr gyda 40,000 o yrwyr. Yn ogystal, argymhellodd ein hymgynghorydd y dylem newid i fand eang cyflym iawn, gweinydd cwmwl a system wrth gefn, a system ffôn ddigidol, a dyna wnaethom ni. Felly, pan anfonwyd ein staff gartref i weithio ar ddechrau’r cyfnod clo, roedden nhw’n gwbl weithredol o fewn yr awr ac yn defnyddio ein system VoIP a phorth cludydd i ddyrannu gyrwyr a cherbydau i wasanaethu'r GIG ac i gefnogi cwmnïau ar adeg o angen dybryd. Erbyn diwedd Mehefin, fe wnaethon ni 3600 o gyflenwadau o dros 1000 o linellau PPE ac offer allweddol i’r peiriant anadlu CTEX CPAP.

“Rydym wedi llwyddo i wneud 80-100 o siwrneiau bob dydd i ddanfon nwyddau i’r GIG”

“Roedd yn gynnydd anferthol. Aethpwyd o gyflenwi 6-8 fan yr wythnos i 8-10 y dydd, gyda’n tîm yn gweithio’n ddiflino 14 awr y dydd, gan gynnwys penwythnosau, i gefnogi’r GIG. Oherwydd cynnydd enfawr yn y galw, roedd angen i ni ddefnyddio atebion digidol ychwanegol i helpu. Felly, lansiwyd porth ar-lein pwrpasol i gleientiaid gyda chyfleuster archebu trafnidiaeth a storio dogfennau danfon i wasanaethu saith o ganolfannau dosbarthu rhanbarthol y GIG yn y DU. Ar ôl ei gyflwyno'n gyflym iawn, rydym wedi defnyddio'r system yn llwyddiannus i gyflenwi bron i fil o safleoedd y GIG ledled y DU, gan gynnwys ysbyty’r Excel Nightingale yn Llundain. Mae'n rhoi tawelwch meddwl i gleientiaid oherwydd gallan nhw gael gafael ar wybodaeth am y nwyddau sy’n cael eu hanfon ar unwaith, fel amser, gyrrwr, cerbyd, prawf danfon a chost. Nhw sydd mewn rheolaeth ac mae hynny’n ennyn ymddiriedaeth.

An FLS van outside a hospital.

“Mae’r systemau digidol sydd ar waith wedi rhoi mantais gystadleuol i ni”

“Ein sialens fwyaf ers y cyfnod clo yw gwneud yn siŵr bod yr adnoddau iawn yn y fusnes, er mwyn i ni allu cynnal y gwasanaeth o ansawdd uchel y mae cleientiaid fel y GIG yn ei ddisgwyl, a cheisio rhagweld pa waith fydd yn cyrraedd nesaf. Ac rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus ar ôl dilyn y cyngor wnaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau ei roi i ni 18 mis yn ôl ynglŷn â pha systemau digidol i'w rhoi ar waith. Mae wedi rhoi mantais gystadleuol i ni oherwydd gallwn weithio o bell. Yn ogystal, mae ein porth i gleientiaid a chludwyr yn rhoi data a mewnwelediad amhrisiadwy i ni sy’n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth cludo nwyddau ymatebol sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid, beth bynnag ydyn nhw.

“Fe wnaeth y cyfnod clo ein gorfodi ni i gofleidio digidol yn llawn ac mae’n gweithio”

“Gall gweithgynhyrchu fod yn sector traddodiadol iawn sy’n defnyddio cludwyr traddodiadol, ond fe welsom gyfle i siglo’r farchnad cludo nwyddau. Roedden ni wastad wedi bod yn gwmni lle roedd dulliau digidol yn ein llywio ni, ond fe wnaeth y cyfnod clo ein gwthio ymhellach oddi wrth swyddfa llawn papur i swyddfa gwbl ddigidol, ac mae hynny wedi newid popeth. Mae’r gwaith yn cael ei gwblhau’n gyflymach; mae lefelau straen yn is, ac mae pethau'n rhedeg yn llyfnach hyd yn oed. Mae dulliau digidol wedi ein rhoi chwe mis ar y blaen i ble roeddem ni'n disgwyl y byddem ni. Rydyn ni newydd agor canolfan newydd yng Nghanolbarth Lloegr, ac yn 2021, byddwn yn agor canolfannau yn Llundain ac Awstria. Wrth i’r galw droi nôl o ofal iechyd a fferyllol at weithgynhyrchu, byddwn ni’n barod.”

Mae prosiect porth cleientiaid a danfoniadau digidol FLS wedi sicrhau eu henwebiad i’r categori Cwmni Mwyaf Arloesol 2020 yn y National Logistics Awards. Mae’r cwmni hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y rhestr o 50 o Gwmnïau sydd wedi Tyfu Gyflymaf yng Nghymru yn 2020.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen