Ar ôl ennill y categori ‘saws crefftus orau’ yng nghystadleuaeth Top of the Shop ar BBC2 gyda Tom Kerridge, anogwyd Beatriz Albo i fynd ar-lein a gwneud y mwyaf o’r sylw hwn.

 

Yn dilyn cymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, mae Sabor de Amor yn gwneud y mwyaf o’r cyfryngau cymdeithasol, i ennill mwy o gwsmeriaid a symud i safle mwy.

 

 

Sefydlodd Beatriz Albo ei chwmni Sabor de Amor, sef Blas o Gariad, yn 2014. Mae’n creu amrywiaeth o sawsiau Sbaenaidd yn ei chegin yn ei chartref ym Mrymbo, ger Wrecsam.

 

Yn awyddus i ddod â blas Sbaenaidd i bobl sydd am ail-greu’r profiad o fwyta ar wyliau yn Sbaen, dechreuodd wneud a photelu pob saws ei hun a gwerthu ei chynnyrch mewn marchnadoedd ffermwyr a gwyliau bwyd.

 

Yna, cymerodd ran yng nghystadleuaeth ar raglen deledu BBC2, wedi’i chyflwyno gan Tom Kerridge, o’r enw Top of the Shop, a daeth yn fuddugol yn y categori Saws Crefftus Gorau. Roedd yn gyfle gwych i’w busnes.

 

Wrth i’r archebion lifo i mewn yn sgil y cyhoeddusrwydd, sylweddolodd fod angen help arni. Cysylltodd â Chyflymu Cymru i Fusnesau ac aeth i weithdy technoleg ar-lein i ddysgu sut i reoli data, creu anfonebau, gwneud y mwyaf o gyhoeddusrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, a defnyddio dadansoddeg gwefan i werthu mwy.

 

Daeth i ddeall bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhan bwysig iawn o unrhyw fusnes erbyn hyn, a chyrhaeddodd un o’r cystadlaethau llwyddiannus dros ben a lansiodd ar-lein dros 12,000 o bobl o fewn 24 awr.

 

Helpodd Cyflymu Cymru i Fusnesau Beatriz i ddeall hefyd fod angen dylunio gwefan y gellir ei gweld ar bob dyfais – ar gyfrifiadur bwrdd gwaith, llechen neu ffôn symudol – a bod angen i’r lled band gefnogi’r holl draffig yr oedd y busnes bellach yn ei gynhyrchu.

 

O ganlyniad i’r cyngor a gafodd Beatriz, mae wedi gallu manteisio’n llawn ar werthu ar-lein.

 

Mae hi nawr yn symud y busnes i uned ger ei chartref, lle bydd yn gallu cynhyrchu nifer y sawsiau sydd eu hangen arni erbyn hyn. Bydd yn gam enfawr iddi, rhywbeth nad oedd wedi gallu breuddwydio amdano tair blynedd yn ôl, ond mae’n edrych ymlaen at gael sefydlu ei hun, cyflogi pobl a chael mwy o syniadau ar gyfer cynnyrch newydd.

 

Fel busnes, rydych yn dechrau’n fach ac mae pawb yn breuddwydio am gael tyfu’n fawr, dywed Beatriz, ac rwyf bellach ar y ffordd. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth y rhaglen deledu yn ogystal â Chyflymu Cymru i Fusnesau.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen