Caiff ‘Arian yw amser’ ei ddyfynnu’n aml yn y byd busnes – ond gydag un o bob pedwar gweithiwr yn gweithio o leiaf 10 o oriau ychwanegol yr wythnos, ellwch chi roi pris ar dreulio amser gyda’ch teulu neu ar wella eich lles meddyliol?

Er mai technoleg sy’n cael y bai yn aml, gyda llawer o bobl yn darllen e-byst wrth y bwrdd bwyd neu’n tanio’r gliniadur ar ôl rhoi’r plant yn y gwely, mae platfformau digidol wedi helpu un ymgynghorydd Adnoddau Dynol hunangyflogedig i ennill y frwydr dros sicrhau cydbwysedd iachach rhwng bywyd a gwaith.

Sefydlodd Charlene Flynn Colman Kayman HR Services ac, yn y dyddiau cynnar, aberthodd amser gyda’i theulu i ddal i fyny efo gwaith papur. A hithau’n 34 oed, yr oedd yn astudio ar gyfer gradd meistr mewn Rheolaeth a Hyfforddiant Adnoddau Dynol ochr yn ochr â delio gyda’r heriau arferol sy’n wynebu busnesau newydd.

Colman Kayman HR Services founder, Charlene Flynn.

 

A hithau’n benderfynol o adennill ei hamser personol, heb gyfaddawdu ei thargedau busnes, anwesodd Charlene yr ochr ddigidol. Ers hynny, mae hi wedi ailddarganfod dwy awr o’i hamser fin nos i dreulio amser gwerthfawr efo’i phlant, yn ogystal â bwrw ymlaen â’i gradd meistr – gan wneud hyn oll wrth sicrhau cleientiaid newydd a gwneud elw yn ei blwyddyn gyntaf o fusnes.

Dyma a ddywedodd: “Mae’r buddion personol yn ogystal â’r enillion ar fuddsoddiad wedi bod yn anhygoel. Roeddwn i’n gwybod popeth am gyfraith cyflogaeth ond ychydig iawn a wyddwn am yr ochr ddigidol.”

Er mwyn helpu Charlene i ddeall sut i integreiddio datrysiadau yn ei gwaith bob dydd, cafodd sesiwn 1 i 1 gyda John Mills, un o ymgynghorwyr Cyflymu Cymru i Fusnes, a wnaeth ei chyflwyno i feddalwedd fel Microsoft Office 365 a OneDrive.

Ychwanegodd: “Mae fy ngwasanaethau yn ddibynnol iawn ar amser, felly mae’n hanfodol fy mod yn medru ymateb yn gyflym iawn i gleientiaid. Hefyd, o ganlyniad i’r newidiadau, rwyf wedi gallu cadw ar ben tasgau’r swyddfa gefn, wrth ddarparu fy ngwasanaethau.

“Gallaf ymateb i e-byst o bell, sy’n ddelfrydol gan fy mod yn treulio llawer o’m diwrnod yn ymweld â chleientiaid neu’n mynychu cyfarfodydd. Erbyn hyn hefyd, yr wyf yn storio popeth ar y cwmwl i gael mynediad at ddata perthnasol o unrhyw le. Mae hefyd yn creu copi wrth gefn o’m ffeiliau sy’n golygu nad oes raid i mi gario copïau caled o ddogfennau a phoeni am eu colli.

“Elfen arall sy’n gysur mawr i mi yw gwybod fod fy ffeiliau’n ddiogel, ac yn ddiogel o safbwynt y Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR), wrth i’m rhestr o gleientiaid dyfu.”

 

Colman Kayman HR Services founder, Charlene Flynn.

 

Gallai Charlene barhau i gadw golwg barcud ar dyfu ei chwmni ymgynghori ac mae’n enghraifft ddisglair i entrepreneuriaid fod llai yn gallu golygu mwy.

Ychwanegodd: “Roedd yna bryder y byddai peidio â gweithio bob awr o’r dydd yn golygu effaith negyddol ar y trosiant. Gobeithio fy mod yn dangos i eraill nad yw hynny’n wir o gwbl.

“Mynychais un o weithdai Cyflymu Cymru i Fusnesau ar Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) a oedd hefyd yn cynnwys cyfle i gael archwiliad. Ar ôl gwneud y newidiadau a awgrymwyd i mi, mae’r ymholiadau drwy’r wefan wedi hedfan i mewn. Yr wyf wedi dyblu fy nifer o gleientiaid sydd wedi fy helpu i wneud elw yn fy mlwyddyn gyntaf!”

Mae Charlene yn gobeithio am flwyddyn arall o dyfu ei busnes – gan gynnal, ar yr un pryd, y cydbwysedd delfrydol rhwng bywyd a gwaith.

“Rwyf eisiau ennill mwy o gleientiaid felly byddaf yn parhau â’n hymdrechion gyda SEO yn ogystal â chyflwyno cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol,” ychwanegodd. “Ac mae gennyf eisoes system CRM sy’n seiliedig ar gwmwl i’m helpu i reoli’r cwsmeriaid i gyd yn effeithlon ac yn effeithiol.

“Fel mae pethau’n sefyll, rydym yn rhagweld twf ar gyfer blwyddyn dau, a chwaraeodd Cyflymu Cymru i Fusnesau ran allweddol yn ein llwyddiannau yn ystod y flwyddyn gynta ac o ran y momentwm sydd gennym.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen