Mae entrepreneur technoleg o Gymru yn ysgubo’r byd anafiadau chwaraeon drwy ddefnyddio ei arbenigedd marchnata ddigidol. Mae eisoes wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau clodfawr.

 

Deunaw mis yn ôl, ar ôl iddo fod yn rhwystredig yn ystod ei siwrnai adsefydlu ei hun, lansiwyd SpotsInjuryFix.com (SIF) gan Malcolm Sloan, sef gwefan ac ap sydd ar fin ymddangos ac sy’n galluogi defnyddwyr i chwilio am driniaeth gan bwy bynnag sy’n arbenigo yn eu camp a/neu anaf.

 

Man sat down wearing Sports Injury polo shirt

 

Mae 1,900 o therapyddion wedi arwyddo i gynnig eu gwasanaethau o gwmpas y DU ac mae mwy na 5,500 o bobl yn ymweld â’r wefan bob mis; ac oherwydd y diddordeb a lefel yr arbenigedd sydd ar gael, mae cylchgrawn ‘Men’s Running’ yn awr yn cynnwys sylwadau arbenigol rheolaidd gan SIF.

 

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu i mi ymgysylltu a chynnig gwerth

 

Mae Malcolm, sy’n driathletwr brwd wedi cystadlu yn IRONMAN Cymru, ac mae’n rhedeg y busnes ochr yn ochr â’i swydd llawn amser a bod yn dad i ddau o blant ifanc. Mae’i ffocws ar farchnata cynnwys a’r cyfryngau cymdeithasol i gael llwyddiant gyda SIF yn sicrhau cydbwysedd mor dda ag sy’n bosibl rhwng bywyd a gwaith.

 

Dywedodd: “Mae’r gymuned chwaraeon yn un agos iawn ac mae hyn yn amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n caniatáu i mi ymgysylltu a chynnig gwerth. Er enghraifft, rydym yn defnyddio hysbyseb drwy Facebook er mwyn targedu rhedwyr oherwydd bod ganddyn nhw gyfradd uchel o anafiadau.

 

“Mae ein gweithgaredd ar Twitter a LinkedIn yn denu therapyddion i arwyddo. Gallwn gyfathrebu â nhw yn uniongyrchol, yn ogystal ag yn anuniongyrchol drwy ddefnyddio hashnodau perthnasol i ymgysylltu mewn dadl, neu yn ystod ac ar ôl arddangosfeydd fel y Sioe Rhedeg Genedlaethol ym Mirmingham.

 

Mae archebion a thaliadau ar-lein yn rhoi mwy o amser inni drin cleifion

 

“Rydym hefyd yn rhagweithiol wrth bartneru â chrewyr cynnwys er mwyn lliniaru ein baich gwaith tra’n parhau i gynnig mewnwelediad ac arbenigedd i’n cynulleidfa. Er enghraifft, cawsom redwr marathon yn ysgrifennu postiadau blog ar gyfer gwefan Sports Injury Fix. Yna maen nhw’n rhannu’r erthyglau o fewn eu rhwydweithiau, gan wella cwmpas ein brand ymhellach.

 

Yn ogystal, mae SIF wedi datblygu ei system archebu, nodiadau cwsmer a meddalwedd talu ei hun sy’n integreiddio yn ddi-dor â systemau therapyddion unigol. “Mae’r meddalwedd yn gwneud gwahaniaeth anferth i therapyddion,” ychwanegodd.

 

“Nid oes unrhyw faich gweinyddol, mae argaeledd yn cydweddu yn awtomatig â chalendrau’r presennol, ac yn caniatáu i archebion gael eu gwneud, eu talu a’u cydweddu â chalendrau’r presennol mewn amser real. Mae’n golygu eu bod nhw’n osgoi archebion dwbl, yn cael eu talu am bobl nad ydyn nhw’n ymddangos a chael mwy o amser i drin cleifion.”

 

Mae cefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn anhygoel o fuddiol

 

Mynychodd Malcolm weithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau ynglŷn â gwneud y mwyaf o’ch gwefan, yn ogystal â derbyn 1-2-1 gan gynghorydd, ac mae’n dweud bod y gefnogaeth wedi bod yn anhygoel o fuddiol.

 

“Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn tynnu’r dirgelwch allan o dechnoleg ddigidol ac yn gwneud pethau yn bosibl. Ar ôl y gweithdy, cwblhawyd archwiliad o’m gwefan, a thrafodwyd y canlyniadau a’r newidiadau a argymhellwyd gyda mi yn fanwl,” meddai.

 

“Awgrymodd y cynghorydd hefyd i mi godi’r fy mhroffil drwy geisio am nifer o wobrau chwenychedig sy’n cefnogi entrepreneuriaid ac arloesedd o Gymru. Rydw i wedi bod yn eithaf llwyddiannus.

 

“Rydw i wedi cael fy rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Busnes Digidol y Flwyddyn yng Ngwobrau Cymru yr FSB (Ffederasiwn y Busnesau Bychain), Busnes Arloesi y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd, Busnesau Technoleg Newydd Gorau yng Ngwobrau Technoleg Cymru a Busnes Technoleg Newydd y Flwyddyn yng ngwobrau Busnesau Newydd Cymru.”

 

Yn awr, mae Malcolm yn chwilio am fuddsoddiad i ddatblygu SIF hyd yn oed ymhellach. Dywedodd, “Rydw i eisiau Sports Injury Fix nid yn unig fy narparu i gyda swydd llawn amser, ond iddo ddod y lle i fynd ar gyfer darganfod y cyngor a’r driniaeth gywir, a lleihau rhwystredigaeth a ddaw gydag anafiadau.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen