O brosiect hinsawdd lleol i gymuned ar-lein sy’n tyfu, mae Green Squirrel yn hyrwyddo dyfodol mwy gwyrdd i Gymru.
Lansiwyd Green Squirrel yn 2012, cyn dod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol – menter gymdeithasol a ariennir yn rhannol – tair blynedd yn ddiweddarach, ac mae wedi helpu pobl i ymwneud â phrosiectau hinsawdd ers degawd.
O fusnesau a sefydliadau i unigolion ac ysgolion, mae Green Squirrel yn darparu amrywiaeth o gymorth cynaliadwyedd yn cynnwys gweithdai, digwyddiadau creadigol, hyfforddiant, a chreu adnoddau wedi’u teilwra.
Wedi’i sefydlu gan Rebecca Clark, sy’n frwd dros yr amgylched, mae pob agwedd ar y cwmni sy’n cael ei yrru gan y gymuned yn nwylo tîm tri pherson. Mae’r tîm hefyd yn cynnwys Hannah Garcia, y cyd-reolwr ac addysgwr amgylcheddol, a Julia Forrester, y cydlynydd cymunedol.
Pan ddaeth y pandemig, roedd popeth yn y fantol i Green Squirrel. Gyda 100 y cant o’r gwasanaethau’n rhedeg all-lein, aeth y ddwy ati’n ddygn i newid, gan symud i gynnig popeth ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud.
Gyda help Cyflymu Cymru i Fusnesau, aeth Green Squirrel ati i wella ei phresenoldeb ar-lein drwy wefan newydd, strategaeth optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) a chynnwys newydd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Hannah: “Roedd yr help a gawsom gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn werthfawr ac yn drylwyr, ac rydyn ni eisoes wedi gweld canlyniadau gwych.”
Mae’r gwelliannau a wnaed gyda chymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnwys:
● Cynnydd o 24.8 y cant yn nifer yr ymwelwyr â’r wefan, gyda chynnydd o chwech y cant yn yr amser ymgysylltu cyfartalog dros y chwe mis diwethaf.
● Cyfradd ymgysylltu o 3.1 y cant ar Twitter, i fyny o 0.4 y cant dros y chwe mis diwethaf.
● Cynyddu cyrhaeddiad Instagram o chwech y cant i 14 y cant dros y chwe mis diwethaf.
● Mae ymholiadau newydd ar ffurflenni cyswllt drwy’r wefan wedi cynyddu 21 y cant o’i gymharu â mis Gorffennaf 2021.
Ychwanegodd Hannah: “Fe wnes i gymryd rhan mewn tair sesiwn gweminar gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau. Un ar optimeiddio peiriannau chwilio, un ar gyfryngau cymdeithasol, ac un a oedd yn drosolwg rhagarweiniol i farchnata digidol.
“Roeddent i gyd yn hynod o ddefnyddiol gan roi i mi nifer o gamau gweithredu a fyddai’n gwella ein presenoldeb ar-lein ar unwaith.”
Hyd yma, mae’r gwelliannau sydd wedi cael eu rhoi ar waith gan Green Squirrel wedi cynnwys golygu copi gwe i ganolbwyntio ar optimeiddio peiriannau chwilio, ailstrwythuro’r wefan fel ei bod yn haws ei defnyddio, a newid ffocws cynnwys Instagram i wella ymgysylltiad.
Eglurodd Hannah: “Cawsom sesiwn un-i-un gyda chynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau, a bu’n trafod y gwelliannau y gallem eu gwneud.
“Cawsom adroddiad manwl hefyd gyda rhestr o gamau gweithredu – o newidiadau bach i’r copi ar y wefan i ailfeddwl ein strategaeth o ran cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Roeddem hefyd wedi cael ein cyfeirio at adnoddau ar-lein am ddim a allai ein helpu, fel llwyfannau tracio dadansoddeg a dyluniadau templed ar gyfer negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Mae’n ddyddiau cynnar ac mae llawer mwy i’w wneud, ond rydyn ni’n gweithio drwy’r rhestr o gamau gweithredu, ac rydyn ni’n gwybod ein bod ni nawr ar y trywydd iawn i wella ein darpariaeth ddigidol.
““Fe wnaethon ni ddylunio ein gwefan ein hunain ac mae’r cyngor gan y cynghorydd busnes wedi ein helpu ni i roi diwyg proffesiynol iddi.” ”
Er mwyn pontio o weithdai wyneb yn wyneb i wasanaethau ar-lein, mae Green Squirrel wedi creu gwasanaeth tanysgrifio a oedd yn pecynnu eu sesiynau gyda’i gilydd. Dan yr enw The Something Club, roedd y gymuned gweithredu ar-lein ar yr hinsawdd yn boblogaidd iawn gyda thanysgrifwyr yn manteisio ar y cyfle i ymuno â gweithdai ar-lein, llwytho adnoddau i lawr, ac ymgysylltu â phobl eraill sy’n frwd dros yr amgylchedd mewn digwyddiadau digidol.
Mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth dros y 12 mis diwethaf drwy agor safle ffisegol cyntaf Green Squirrel yn Sblot, Caerdydd.
Mae’r safle, o’r enw Gerddi’r Rheilffordd, yn hen faes chwarae o eiddo’r cyngor a oedd wedi cael ei adael yn segur ers sawl blwyddyn.
Ar ôl sicrhau cyllid sylweddol i'r prosiect, mae Green Squirrel a’r tîm o wirfoddolwyr wedi gweddnewid y safle a oedd wedi mynd â’i ben iddo a’i droi’n ganolbwynt cymunedol i addysg hinsawdd.
Ychwanegodd Hannah: “Mae prosiect Gerddi’r Rheilffordd wedi cymryd chwe blynedd i’w wireddu ac, er yr hwyl, rydym wedi gorfod dysgu’n gyflym iawn.
“Mae llawer yn digwydd ar y safle, o lyfrgell adnoddau a gardd gymunedol, i gynwysyddion cludo sydd wedi cael eu troi’n ardaloedd gweithdai.”
Mae lansio’r safle ffisegol ynghyd ag ailwampio digidol yn golygu bod pethau bellach yn mynd yn dda i Green Squirrel ym mhob elfen – gydag ymwelwyr yn cael eu croesawu’n bersonol a chymuned ar-lein fwy yn ymgysylltu â’r wefan.
Dywedodd Hannah: “Rydyn ni nawr yn symud i ffordd hybrid o weithio, gyda thua 60-70 y cant o’n gwasanaethau’n aros ar-lein. Mae ein sesiynau’n rhyngweithiol iawn, felly rydyn ni’n gweld mwy o bobl yn gofyn am sesiynau wyneb yn wyneb eto.
“Bydd Rebecca, Julia, a minnau wedi’n lleoli ar safle Caerdydd yn rhan amser, a bydd yn wych cael bod yn rhan o’r gymuned yno – mae bwrlwm go iawn o gwmpas y safle.
“Rydyn ni mor ddiolchgar am yr help rydyn ni wedi’i gael gan Cyflymu Cymru i Fusnesau. Roedd yn gyfle gwych i gymryd cam yn ôl a gweld ein busnes o safbwynt arall.
“Pan ydych chi mor gyfarwydd â rhywbeth, mae’n anodd ei weld o safbwynt pobl eraill. Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gwneud y pethau iawn i ddatblygu ein presenoldeb ar-lein ymhellach, ac rydyn ni’n bwriadu cyflogi ymgynghorydd cyfryngau cymdeithasol rhan amser a fydd yn gallu sbarduno ymgysylltu a thwf i ni.”
Gweld rhagor o hanesion llwyddiant busnes