Mae dau frawd sy’n byrlymu o fentergarwch ac sydd wedi lansio safle e-fasnach sy’n gwerthu dillad ffitrwydd sy’n arddangos dyfyniadau i ysbrydoli wedi gweld eu gwerthiant rhyngwladol yn cynyddu 22 y cant, diolch i gymorth pwrpasol a ddarparwyd gan Gyflymu Cymru i Fusnesau.

Cafodd V3 Apparel ei sefydlu gan Nicholas a Michael Pinocci yn 2014, ac er nad oedd ganddynt ddim profiad o farchnata ar-lein maent wedi gweld eu brand yn ennill ei blwy mewn marchnad gystadleuol.

V3 Apparel's founders showing their products.

“Roedd ein cynnwys Facebook ac Instagram a oedd yn rhoi pwyslais ar femynnau a dyfyniadau ysbrydoledig yn cael llawer o sylw. Ein nod oedd troi’r diddordeb hwnnw’n werthiant.”

Meddai Michael: “Roedd ein cynnwys Facebook ac Instagram a oedd yn rhoi pwyslais ar femynnau a dyfyniadau ysbrydoledig yn cael llawer o sylw diolch i’r cynnydd yn y diddordeb mewn ffitrwydd, a bod llawer o bobl am gael eu hysbrydoli wrth edrych ar ein cynnwys. Ein nod oedd troi’r diddordeb hwnnw’n werthiant.”

 

Cysylltodd y ddau â Chyflymu Cymru i Fusnesau ac mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth ers iddynt weithredu’r newidiadau a awgrymwyd mewn gweithdy marchnata digidol a sesiynau un i un wedi hynny.

 

Meddai Michael: “Mae’r canlyniadau wedi bod yn rhyfeddol. Gan gymharu’r ystadegau cyn ac ar ôl y cyngor, rydym wedi cynyddu traffig organig drwy beiriannau chwilio i’n gwefan yn y DU 120 y cant a 140 y cant i’n safle yn yr UDA. O ran gwerthiant yn yr UDA o draffig peiriannau chwilio, tyfodd hyn o $194 yn y chwe mis blaenorol i $1,696 yn y chwe mis dilynol.

 

“Mae canolbwyntio ar siwrnai’r cwsmer i greu profiad siopa pwrpasol, lleol ar gyfer gwahanol farchnadoedd hefyd wedi bod yn allweddol. Roeddem wedi sylwi bod siopwyr yn yr UDA yn gadael y broses brynu yn y cam olaf am fod yr arian yn newid yn ôl i bunnoedd. Penderfynwyd cyflwyno safle Shopify lleol ar gyfer yr UDA ac arweiniodd hynny at gynnydd o 22 y cant yn ein gwerthiant.

“Penderfynwyd cyflwyno safle Shopify lleol ar gyfer yr UDA ac arweiniodd hynny at gynnydd o 22 y cant yn ein gwerthiant.”

“Mae’r farchnad ffitrwydd yn un eithriadol o gystadleuol ond mae cyfryngau cymdeithasol wedi ein galluogi i gryfhau’r brand drwy fod yn rhan o’r gymuned ffitrwydd ar-lein i ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid. Mae targedu platfformau y tu allan i’r prif rai wedi arwain at ganlyniadau anhygoel, gyda’n papur wal ar gyfer ffonau symudol sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim yn cael miliwn o ymwelwyr ar Pinterest bob mis.

 

“Ac rydym wedi cyflawni ein targed gwerthu ar gyfryngau cymdeithasol gyda chyfuniad o bost organig a hysbysebu: mae Instagram yn cyfrif am 70 y cant o’n trosiant, ac mae postio ar Facebook hefyd yn arwain at werthiannau.”

 

Yn ddiddorol, mae canlyniadau Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru ar gyfer 2018 yn cadarnhau hyn. Fel un o’r defnyddwyr amlycaf o gyfryngau cymdeithasol a gyda ¾ yn gwerthu ar-lein, mae manwerthwyr bychain fel V3 Apparel yn llwyddo i ddefnyddio cyfryngau digidol i droi ymgysylltiad cwsmeriaid yn werthiant ac atgyfeiriadau, yn ôl yr adroddiad.

“Nid bob dydd rydych yn cael cyfle i siarad ag arbenigwyr am ddim, ond dyna gewch chi gyda Chyflymu Cymru i Fusnesau. Rydym wedi dysgu llawer ond yn bwysicach na hynny mae wedi cynyddu ein gwerthiant.”

Yr her nesaf i’r busnes oedd delio â’r darpar gwsmeriaid a oedd yn gadael y safle ar ôl rhoi nwyddau yn y fasged siopa – mae’r cyfartaledd byd-eang ar gyfer hyn yn 75 y cant. Unwaith eto, roedd cyngor Cyflymu Cymru i Fusnesau’n gallu cynnig ateb i’r broblem hon, gan alluogi’r brodyr i ddilyn y broses brynu gyda chwsmeriaid a oedd yn gadael eu harcheb rhan o’r ffordd drwy’r broses.

 

Ychwanegodd Michael: “Mae sefydlu marchnata ac ail-farchnata e-bost wedi’i strwythuro sydd wedi’i seilio ar bobl nad ydynt yn cwblhau eu harcheb wedi arwaith at werthiannau gwerth $1,400. Nid bob dydd rydych yn cael cyfle i siarad ag arbenigwyr am ddim, ond dyna gewch chi gyda Chyflymu Cymru i Fusnesau. Rydym wedi dysgu llawer ond yn bwysicach na hynny mae wedi cynyddu ein gwerthiant.”

 

Ac mae eu cynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau Shawn hefyd wedi gweithio â Michael a Nicholas i integreiddio eu gweithgarwch all-lein â’u hymdrechion ar-lein i roi hwb i’w canlyniadau.

 

V3 Apparel's founders

 

“Rydym eisiau ategu ein gwerthiant ar y wefan gyda phresenoldeb all-lein, gan ddechrau gwerthu ein cynnyrch mewn campfeydd lleol,” meddai Michael. “Mae Shawn wedi awgrymu ein bod yn arddangos ein cynnyrch yn y Body Power Expo i weld sut mae pobl yn ymateb wrth weld yr eitemau o’u blaen ac roedd yr adborth yn dda iawn ac mae wedi rhoi’r hyder inni i fwrw ymlaen.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen