Dywedodd Abraham Lincoln unwaith mai'r ffordd orau o ddarogan y dyfodol yw ei greu.

Yn sicr, mae hon yn ddamcaniaeth a rennir gan Anthony Luthersen Coaching, sy'n darparu gwasanaeth un-i-un pwrpasol, sy'n canolbwyntio ar ganllawiau a chefnogaeth gyfannol, i helpu pobl i gredu ynddynt eu hunain a gwneud penderfyniadau sy'n newid bywydau.

Gyda 25 mlynedd o brofiad fel seicig a darllenydd greddfol proffesiynol, gyda chymhwyster hyfforddi'r Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), mae Anthony eisiau helpu eraill i ddatgloi eu hangerdd a gwneud defnydd llawn o'r talentau sydd ganddynt o'i leoliad yng Nghastell-nedd.

Dywedodd: "Ers y cyfnod clo a'r pandemig, mae pobl wedi penderfynu eu bod nhw eisiau gwneud newid er gwell a gwneud rhywbeth mwy ystyrlon â'u bywydau.

"Mae pobl yn brwydro i ddod o hyd i'r hyn sydd wir yn eu hysgogi nhw a’m rôl i yw gwrando a rhoi'r hyder iddyn nhw wireddu eu breuddwydion. Mae'n ymwneud â dal drych i fyny a rhoi caniatâd i bobl ddilyn y llwybr sy'n iawn iddyn nhw, yn eu barn nhw.

"Rwy'n cynnal sesiynau unigol, ac yn ystod y rhain rwy'n gwneud yn siŵr fy mod i'n gofyn y cwestiynau cywir ac oddi yno gallaf eu helpu i ddarganfod beth yw'r cam nesaf, chwalu unrhyw rwystrau, a gadael iddyn nhw ddilyn eu calon.

"Mae'n ymwneud â gallu cysylltu â hemisffer de’r ymennydd, sy'n rheoli creadigrwydd, gallu gofodol, a sgiliau artistig a cherddorol."

Sefydlodd Anthony y busnes tua diwedd 2021, gan adeiladu portffolio o gleientiaid yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys yn Norwy a Sbaen, trwy amrywiaeth o alwadau fideo a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Ac yntau’n awyddus i gynnig ei wasanaethau i nifer mwy o bobl, sicrhaodd gymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau i ddatblygu'r busnes ymhellach, ac mae'r canlyniadau wedi helpu i gynyddu nifer ei gwsmeriaid 80 y cant.

Cyfarfod un i un gyda’r ymgynghorydd Catrin Davies-Harding oedd y cam cyntaf yn y broses i Anthony, a gofrestrodd hefyd ar gyrsiau y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol.

Dywedodd ef: "Roedd Catrin yn hollol anhygoel. Gan ganolbwyntio ar fy nghryfderau a beth oedd yn bosibl gyda'r cwmni, rhoddodd adroddiad ymarferol a manwl i mi weithio drwyddo.

"Roedd hi'n galonogol ac yn ysgogol ar unwaith, ac roedd hi’n deall beth rwy'n ei wneud a beth rwy'n ceisio ei gyflawni.

"Yn sgil cynnal adolygiad o’m gwefan, roeddwn i'n gallu deall sut i wella optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) drwy gynyddu'r defnydd o eiriau allweddol, ac o ganlyniad, ei wneud yn fwy gweladwy ar beiriannau chwilio fel Google.

"Mae'r wefan bresennol yn un dros dro, felly byddaf yn ystyried cymhwyso'r argymhellion cyn gynted ag y bydd un newydd yn ei le, a fydd yn digwydd pan fydd gen i amgylchedd gwaith pwrpasol gartref eleni.

"Cefais fy annog hefyd i wella fy mhresenoldeb ar-lein drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Roeddwn i wedi bod yn gweithredu ar sail llafar gwlad, ond agorais gyfrifon ar Instagram, Facebook, a YouTube i ddod yn fwy gweladwy a helpu i hyrwyddo fy nghynigion."

Quote which says I can do it


Mae gan Anthony gynlluniau ar waith i dyfu'r niferoedd wrth iddo gynyddu amlder ei negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ar draws pob fformat.

Aeth ymlaen i ddweud: "Awgrymodd Catrin bostio gwybodaeth am fy hyfforddi, yn ogystal ag awgrymiadau a chyngor defnyddiol, tua dwywaith yr wythnos, a dyna'r targed pan fydd y swyddfa newydd ar waith.

"Mae wedi bod yn wych cael cyngor teilwredig fel bod y sylfeini yn eu lle i mi ddechrau arni ar unwaith."

Er gwaethaf defnydd cyfyngedig Anthony o'r cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd i hyrwyddo ei fusnes, ni ellir tanamcangyfrif effaith sefydlu'r tri cyfrif.

Esboniodd: "Mae wedi bod yn wych defnyddio'r llwyfannau gwahanol er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach, sydd, yn ei dro, wedi helpu i gynyddu nifer fy nghwsmeriaid 80 y cant.

"Mae bod ar-lein nid yn unig wedi fy helpu i ryngweithio â mwy o bobl, mae wedi helpu i feithrin ymddiriedaeth ac mae hynny'n dangos cynnydd yn nifer fy nghleientiaid."

Mae gan Anthony gynlluniau hefyd i ymchwilio'n ddyfnach i fyd marchnata digidol trwy ddefnyddio'r wybodaeth a roddwyd iddo gan Catrin.

Quote which says Intuition be your guide


"Rydw i wedi gwneud sawl peth ynghylch deunydd marchnata o ran posteri ar Canva, ond rydw i'n gwybod bod llawer mwy y gallwn i fod yn ei wneud," meddai.

"Rydw i wedi cofrestru ar gyfer cwrs creu cynnwys a bydd hynny yn fy helpu i wella beth mae Catrin wedi'i nodi o ran ansawdd a maint, a sicrhau fy mod yn lledaenu neges Anthony Luthersen Coaching i'r targedau cywir.

"Gan ein bod ni bellach yn 2023, bydd llawer o bobl yn bathu'r ymadrodd 'blwyddyn newydd, fi newydd', felly mae cyrchu'r farchnad honno drwy ddarparu clust gefnogol a chyngor cyfeiriadol yn un o’m nodau.

"Mae gen i ddiddordeb mawr mewn datblygu fy ngwasanaethau yn y trydydd sector, sy'n cynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol.

"Rwy'n credu bod yr hyn rwy'n ei gynnig yn addas i'r maes busnes hwnnw a gyda chymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau, byddaf mewn sefyllfa dda i dyfu yn y gofod hwnnw.

"Rwy’n edrych ymlaen at roi'r syniadau rydw i wedi’u derbyn ar waith pan fyddaf wedi sefydlu fy swyddfa newydd."


Gweld rhagor o hanesion llwyddiant busnes


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen