Mae gweithgynhyrchydd bwyd o Ruthun wedi cynyddu ei werthiant 120% a nawr mae’n targedu cleientiaid rhyngwladol, gyda’i agwedd at ddigidol yn gynhwysyn allweddol yn ei lwyddiant.

 

Hefyd mae Patchwork Traditional Food Company, sy’n arbenigo mewn pâtés, siytnis, olew olewydd a relish, wedi datblygu ei sylfaen ei hun o gleientiaid yn y diwydiant gwasanaeth bwyd gyda gwerthiant yn cynyddu 38%.

 

Mae’r llwyddiant hefyd wedi arwain at benodi dau aelod newydd o staff yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda nifer gweithlu’r cwmni bellach yn 24.

 

Woman sat infront of products

 

Lansiodd y busnes teuluol wefan e-fasnach newydd, canolbwyntiodd fwy ar farchnata ar gyfryngau cymdeithasol, ac aeth ati i integreiddio systemau ar y cwmwl ar gyfer CRM, rheoli stoc a chyfrifo yn ei weithrediadau.

 

Cefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn allweddol

 

A dywed Jo Rudkin, y pennaeth gwerthiant, bod cefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau drwy gydol y trawsnewid digidol yn allweddol.

 

Meddai: “Roedd yr arweiniad gan Cyflymu Cymru i Fusnesau nid yn unig yn rhoi tawelwch meddwl i ni ond hefyd yn cynnig tactegau ychwanegol y gallen ni eu defnyddio er mwyn ymdrechu cymaint â phosib.

 

“Er enghraifft, fe gawsom ni adroddiad gwefan cynhwysfawr gydag argymhellion cyn i’n gwefan newydd ni fynd yn fyw ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi profi cynnydd o 200% mewn ymwelwyr a thwf o 120% mewn gwerthiant.

 

“Ac mae'r cyngor ar gyfryngau cymdeithasol am sut i adeiladu'r brand wedi arwain at welliannau mawr yn ein presenoldeb ni ar-lein a’n cyswllt ar gyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft, mae Rufus Carter, ein rheolwr gyfarwyddwr a mab y sylfaenydd Margaret, yn ffilmio ac yn golygu syniadau ar gyfer ryseitiau ac mae’r rhain yn denu llawer o bobl i’w gwylio.

 

Mynd yn ddigidol wedi arbed amser i ni gyda phrosesau amrywiol

 

“Hefyd roedd ein cynghorydd busnes digidol o gymorth i ni gyda datrysiadau cyfrifiadura cwmwl ac rydyn ni wedi gweithredu tair system newydd ar gyfer CRM, rheoli stoc, a chyfrifo. Mae’r system CRM yn benodol wedi bod o fudd enfawr i’n tîm gwerthiant ni, gyda’r feddalwedd yn eu helpu nhw i flaenoriaethu galwadau, bod yn fwy trefnus, a sicrhau eu bod yn siarad gyda’r bobl gywir ar yr amser cywir.

 

“Mae mynd yn ddigidol wedi arbed amser i ni gyda phrosesau amrywiol ac mae hynny wedi rhoi cyfle i ni ddatblygu’r tîm ymhellach, er enghraifft, gyda hyfforddiant cynnyrch a gweithio’n fanylach ar lefel un i un.”

 

Sylfaenwyd Patchwork yn 1982 gyda dim ond £9 gan Margaret, cogyddes gartref a ddechreuodd werthu ei phâtés cartref i dafarndai lleol yn Llangollen gerllaw.

 

Ychwanegodd Jo: “Mae’r busnes wedi datblygu llawer ers 1982 ac rydyn ni’n credu bod hwn yn ddechrau ar gyfnod newydd rhyfeddol i'r brand.

 

Byddwn yn datblygu ac yn lansio cynhyrchion newydd

 

“Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth bwyd yn cyfrif am 30 y cant o’n gwerthiant ni, ond y nod ydi cynyddu hyn i fod tu hwnt i 50 y cant. Hefyd fe fydden ni’n hoffi dechrau gwerthu’n rhyngwladol, gan gynnwys i Ewrop a Gogledd America. Ar yr ochr adwerthu, un o’n hamcanion ni ydi sicrhau Achrediad BRC i gyflenwi cwsmeriaid gwasanaeth bwyd mwy.

 

“I gynorthwyo gyda'r holl nodau hyn fe fyddwn ni’n datblygu ac yn lansio cynhyrchion newydd fel pâté fegan ac opsiynau braster is.”

 

"Hefyd rydyn ni wedi recriwtio i swyddi allweddol, gan gynnwys Dr Graham Jackson a ymunodd â ni fel cadeirydd fis Ionawr. Mae gan Dr Jackson brofiad helaeth o wasanaeth bwyd ac allforio.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen