Mae Gwesty’r Royal Victoria yng nghanol Eryri ac wrth droed yr Wyddfa. Mae’n denu tua 45,000 o westeion bob blwyddyn.

 

Roedd yn cael trafferth gyda chysylltiad band eang hynod araf ac annibynadwy ac wedi sylweddoli nad oedd hyn yn wasanaeth digon da i’r staff nac i’r gwesteion. Ar ôl peth ymchwil i gyflenwyr a phecynnau band eang cyflym iawn mae ganddi, erbyn hyn, ei llinell benodol ei hunan sy’n rhoi gwasanaeth llawer iawn gwell.

 

Nid yn unig mae eu staff yn gallu gweithio’n fwy effeithlon ond mae wifi ar gael i’w gwesteion drwy’r gwesty. Mae’r staff yn gallu hyrwyddo’r busnes a chysylltu â chwsmeriaid ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen