Mae Hannah Roose, cyn-gyfarwyddwr cynorthwyol Cinderella, yn mwynhau creu ei stori ei hun yn dilyn y llwyddiant a gafwyd wrth lansio ei chwmni newydd, The VAE. 

Mae Hannah yn siarad yn agored am deimlo’n annigonol, er bod y gwobrau sydd ganddi yn awgrymu ei bod wedi hawlio ei lle yn y maes y mae ei busnes yn gweithredu ynddo. 

 

Yn dilyn seibiant o’r diwydiant ffilm, ac ar ôl cyfnod yn gweithio i wersylloedd syrffio ledled y byd, sefydlodd Hannah y cwnni The Virtual Assist Experience yn ystod y cyfnod clo yn 2021. 

Gelwir y busnes bellach yn The VAE – asiantaeth fach greadigol aml-haenog.   

Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, enillodd y wobr Sêr Newydd yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru 2022 yn ogystal â rhith asiantaeth greadigol fach y flwyddyn yn y British Made Awards. 

Wrth i Hannah ddatblygu’r busnes yn asiantaeth greadigol a’i ailfrandio fel The VAE, manteisiodd hefyd ar gefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn ei hymgais i gael llwyddiant yn y gwobrau. Mae’r asiantaeth yn cynnig gwasanaethau o dan bedair colofn – creadigol, gweithredol, cymorth rhithwir, a ffilmiau T.VAE. 

Dywedodd Hannah: “Penderfynais ail-frandio’r busnes yn llwyr gan ffarwelio â’r hen olwg benywaidd a phlentynnaidd er mwyn canolbwyntio ar steil fwy aeddfed a phroffesiynol.  

“Rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau sicrwydd gwerthfawr i mi ynghylch fy nghynlluniau busnes a marchnata. 

“Hefyd, sefydlais y rhaglen Trusted VA. Rhaglen yw hon sy’n creu cronfa o bobl a sefydliadau y mae The VAE yn ymddiried ynddyn nhw i gynhyrchu gwaith o safon ac sy’n rhannu'r un ethos a gwerthoedd proffesiynol.  

“Cefais fy nghyfeirio at gymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau fy nghyfeirio, gan gynnwys Rocket Lawyer, sy’n cynnig mynediad at ddogfennau cyfreithiol am ddim a chyngor fforddiadwy, a Teachable, lle gallwch greu cwrs neu fusnes hyfforddi ar-lein. 

 

“Roedd hi hefyd yn wych cael adborth cadarnhaol gan Cyflymu Cymru i Fusnesau am y gwelliannau roeddwn i wedi’u gwneud, yn ogystal ag effaith y wefan a’m presenoldeb cymdeithasol. 

“Yn dilyn cyngor ynghylch cysylltu fy nghyfrifon cymdeithasol – Instagram, Facebook, TikTok a Pinterest – â fy ngwefan, gwelwyd cynnydd mewn rhyngweithio a dilynwyr wrth i'r awgrymiadau, a oedd yn cynnwys dechrau blog, fy helpu i optimeiddio peiriannau chwilio a hybu cyhoeddusrwydd y busnes.  

“Es ati i greu fideo tri munud o hyd ar TikTok i rannu fy stori. Cafodd ei weld gan 12,500 o bobl a chefais 650 o ddilynwyr yn ystod yr wythnos. 

“Rydw i hefyd wedi cael negeseuon yn dweud pa mor ysbrydoledig oedd y fideo, a'r nod yw addysgu fy nghynulleidfa ar y llwyfan." 

Er gwaethaf brwydr Hannah ag iechyd meddwl ers camu mewn i'r diwydiant teledu a ffilm yn ei harddegau, gwyddai bod angen iddi fagu hyder i fod yn ôl o flaen y camera ar ei chyfrif TikTok os yw am gyflawni'r lefelau sydd eu hangen er mwyn i’r busnes lwyddo.  

“Dechreuais gyflwyno pan oeddwn i ond yn 16 oed,” meddai Hannah. “Ond sylweddolais yn sydyn nad oeddwn yn hoffi nac eisiau bod o flaen y camera. 

“Es i tu ôl i’r camera a gweithio mewn gwahanol rolau ar ffilmiau Hollywood fel Batman, The Dark Knight Rises, a Harry Potter, yn ogystal â rhaglenni teledu gan gynnwys EastEnders, Midsomr Murders, a fideo cerddoriaeth Kyle Minogue.  

 

“Roedd yn aml yn amgylchfyd negyddol a heriol i lywio drwyddo, ond rydw i eisiau bod yn gyfrifol am helpu i greu’r newid yn y diwydiant teledu a ffilm a hynny drwy'r cwmni cynhyrchu ffilmiau, T.VAE. Mae gan y cwmni brosiectau rhagorol ar y gweill a dylai hynny ddarparu cyfleodd i bobl yng ngogledd Cymru fod yn rhan o'r cast neu’r criw. 

“Rwyf hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth ag asiantaeth talent yn Llundain o’r enw ‘Loop Talent’.” 

Mae sefydlu’r cwmni cynhyrchu The VAE wedi golygu bod bywyd gwaith Hannah wedi gwneud cylch cyfan, ac yn sicr mae hi wedi bod yn daith ddifyr i gyrraedd y pwynt yma.  

Ar ôl gadael y diwydiant ffilm a theledu, bu’n gweithio mewn gwersylloedd syrffio fel rheolwr cyfryngau cymdeithasol mewn lleoliadau yn Bali, Awstralia a Ffrainc. Yna, treuliodd gyfnod yn gweithio fel rheolwr gweithrediadau i gwmni teithio, a dyna pryd y disgynnodd  mewn cariad â gogledd Cymru. 

Aeth ymlaen i ddweud: “Yn dilyn pob ymweliad â gogledd Cymru, roeddwn i’n gofyn imi fy hun, ‘pam nad ydw i’n byw yma?’. Ar ôl colli fy swydd a fy nhŷ yn ystod Covid, ac ar ôl aros yng nghartref gwyliau aelod o’r teulu ym Mhen Morfa Llandudno, penderfynais symud i fyw i’r ardal hon. 

“Doeddwn i ddim yn nabod neb, felly byddwn i’n mynd am dro bob dydd ac yn siarad â’r defaid a’r geifr ar y Gogarth. Achubodd hyn fy mywyd. 

“Ar ôl hynny, penderfynais wneud rhywbeth am fy sefyllfa waith ac, ar ôl siarad ag anogwr gwaith, roedd yn ymddangos bod gen i’r holl sgiliau a’r profiad roedd eu hangen arnaf i fod yn gynorthwyydd rhithiol. 

“Ers hynny, mae Busnes Cymru a Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sefydlu fy nghwmni.

“Rydw i wedi bod yn gweithio gyda nhw ar y cynllun busnes hefyd. Gan fod gan y cwmni wasanaethau a chynigion newydd i’w cynnig, mae’n hanfodol bod gennym bresenoldeb cryf ar-lein, yn ogystal ag ymddiriedaeth cwsmeriaid ac awdurdod i ategu hynny.” 

Mae Hannah hefyd yn awyddus i drosglwyddo ei harbenigedd, gan gynnig gweithdy o’r enw ‘Introduction To Business Start Up And Becoming A Virtual Assistant’. 

Ychwanegodd: “Rydw i wedi cynllunio’r gweithdy hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau sefydlu eu busnes eu hunain. Mae’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys ymarfer cyfreithiol, cyngor ar sut i greu gwefan yn ogystal â sut mae mynd ati i sefydlu eich cyfryngau cymdeithasol.” 

Yn seiliedig ar lwyddiannau’r gorffennol, mae’n debygol bod The VAE, sef dilyniant The Virtual Assistant Experience, yr un mor boblogaidd ymysg cleientiaid a beirniaid y gwobrau.  


Gweld rhagor o hanesion llwyddiant busnes


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen