Mae Network Rail yn gwario miliynau yn delio ag oedi a achosir gan rwystrau ac ymyriadau ar y cledrau.

Wedi’i sefydlu yn Abertawe yn 2017, mae Vortex IoT yn un o gwmnïau technoleg mwyaf blaenllaw Y Rhyngrwyd Pethau (‘Internet of Things’ (IoT) Cymru. Mae’r arbenigo mewn cynhyrchu synwyryddion a systemau rhwydwaith ar gyfer amgylcheddau garw / anghysbell, fel arfer, lle mae’r mynediad atynt yn gyfyngedig o ran pŵer. Mae gan un o’u cynhyrchion arloesol y potensial i arbed miloedd o bunnoedd i’r diwydiant rheilffyrdd bob blwyddyn.

Disgrifir y system RODIO (Railway Optical Detection of Intrusions and Obstructions) fel “datrysiad RCM (Remote Condition Monitoring) graddadwy a chost-effeithlon ar gyfer canfod rhwystrau ac ymyriadau ar gyfer seilweithiau rheilffyrdd”. Gall RCM alluogi gweithredwyr fel Network Rail i ganfod unrhyw rwystrau ar y cledrau a allai ymyrryd â theithiau trên ac achosi oedi. Mae Adrian Sutton, Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd Vortex yn esbonio:

“Mae monitro cyflwr o bell yn rhoi gwybodaeth weithredol i reolwyr asedau i leihau costau oedi a chadw pobl yn ddiogel. Yn stormydd 2019, achoswyd oedi sylweddol i wasanaethau rheilffordd ledled y DU gan goed wedi cwympo a thrampolinau plant wedi chwythu ar y cledrau. Bydd monitro o bell yn mynd i’r afael â’r problemau hyn yn gyflymach.”

A man working on a train track.

Y ffordd yr oedd pethau’n arfer cael eu gwneud

Yn draddodiadol, mae monitro trac yn cael ei wneud trwy archwilio â llaw, naill ai gan staff y rheilffordd sy’n cerdded y llinell neu aelod o’r cyhoedd yn cysylltu gyda’r wybodaeth. Dyw’r un o’r dulliau hyn yn arbennig o effeithiol nac effeithlon, yn enwedig yn y nos neu mewn ardaloedd anghysbell. Mae RODIO yn datrys y broblem hon trwy fonitro cledrau’r rheilffyrdd yn barhaus ac adrodd yn ôl pryd bynnag y canfyddir bod problem.

“Felly, pan mae coeden yn cwympo ar y lein,” meddal Sutton, “caiff y digwyddiad ei ganfod a’i ddosbarthu, a hysbysiadau amser real yn cael ei anfon at reolwr y llinell, gan gynnwys disgrifiad (“coeden wedi dymchwel”) dyddiad, amser a lleoliad.”

Ond, dyw RODIO ddim yn datrys problemau fel coed yn dymchwel yn unig. Gall hefyd ganfod os yw pobl yn dwyn ceblau, tresbasu a fandaliaeth, tirlithriadau, anifeiliaid ar y lein, ac adrodd digwyddiadau anffodus fel hunan-laddiad. Hefyd, gellir ei ddefnyddio i sicrhau bod gweithwyr yn ddiogel wrth eu gwaith, monitro twneli a rheoli croesfannau rheilffordd. Trwy ganfod a datrys y problemau hyn yn gyflym, mae Vortex IoT yn honni y gall y system wella dibynadwyedd a diogelwch gwasanaethau, gan gynyddu capasiti ar y llinell ac argaeledd trenau, tra’n lleihau costau oedi.

Rhwydweithio sy’n torri tir newydd

Mae Adrian Sutton yn egluro bod system RODIO yn ymgorffori nifer o dechnolegau sy’n torri tir newydd. Mae’r rhain yn cynnwys LiDAR (system wasgaru sy’n bownsio golau laser oddi ar yr amgylchedd), yn ogystal â rhwydweithio rhwyll hunan-iachau ac sy’n ail-drefnu yn ddiogel, gan alluogi’r gweithredwyr i wneud gwaith diagnosio cynnal a chadw hanfodol a defnyddio diweddariadau’r feddalwedd dros yr awyr.

“Mae rhwydweithio rhwyll eisoes yn - a bydd yn - asgwrn cefn i IoT Diwydiannol”, meddal Sutton. “Hebddo, dyw IIoT ddim yn ariannol gynaliadwy na chyda’r potensial i dyfu. Gall ein cleientiaid ddechrau’n fach, dysgu’n gyflym a chynyddu’n gyflym, yn ddibynadwy ac, yn bwysicach na dim, yn gystadleuol. Mae ein rhwydwaith rhwyll yn gweithio ar donfedd anhrwyddedig ac mae’n cynnwys pellteroedd ac ardaloedd sylweddol.”

Eglura Sutton bod Network Rail eisoes wedi treialu RODIO, ac maent yn cydweithio ar ei roi ar waith ar lefel eang. Nid tasg fach yw hon gan fod Network Rail yn gyfrifol am fwy na 20,000 milltir o gledrau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, bron i 6,000 o groesfannau rheilffordd, ynghyd â 30,000 o bontydd a thraphontydd. Mae’n system sydd ag apêl ryngwladol hefyd. Mae gweithredwyr rheilffyrdd yn Rhanbarth y Gwlff ac Affrica Is-Sahara hefyd wedi gofyn i’r cwmni arddangos y system iddyn nhw.

Fel y dywedodd cynrychiolydd o Rheilffyrdd y Dwyrain Canol: “Mae’r dull cyfredol y mae ein sefydliad yn ei ddefnyddio [ar gyfer monitro traciau] yn cynnwys gwifrau cain, mae’n creu heriau mawr sy’n arwain at lawer o oedi a achosir gan y llinellau yn cael eu cau. Ar hyn o bryd, mae hi’n bosibl i fag plastig sydd wedi chwythu gyda’r gwynt arwain at orfod cau y lein heb angen. Gyda IoT ac AI trwy RODIO IoT Vortex, gallen ni fonitro pa ddeunyddiau estron sy’n peri perygl i’n trenau, cledrau, staff a theithwyr a gallen ni wneud penderfyniadau ymatebol ar sail y data a dderbynnir.”

A train on a track.

Monitro’r aer a anadlwn

Mae Sutton yn awyddus i egluro nad RODIO yw’r unig dechnoleg synhwyro y maen nhw wedi’i ddatblygu yn Vortex. System IoT Vortex arall yw AQM (Monitro Ansawdd Aer / Air Quality Monitoring), rhwydwaith synhwyro gronynnau a llygryddion. A llygru aer yn bwnc llosg (mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhagweld bod llygredd aer yn gyfrifol am saith miliwn o farwolaethau di-angen bob blwyddyn), mae ‘dinasoedd clyfar’ yn gynyddol droi at synwyryddion ansawdd aer i gadw llygad ar lefelau llygredd. Gall y rhain, yn eu tro, gael eu defnyddio i reoli llif traffig ac i fonitro tagfeydd traffig hefyd.

“Mae AQM yn cysylltu â’n systemau rhyngwyneb greddfol a dadansoddi yn y cwmwl gan ddefnyddio ein rhwydwaith rhwyll hunan-iachau ac ail-drefnu diogel.” meddai Sutton. “Mae AQM yn bodoli er mwyn helpu’r diwydiant a llywodraethau lleol i nodi lefelau o lygredd aer o stryd i stryd. Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n datblygu cynlluniau gyda City of London, Cyngor Castell-nedd a Phort Talbot a chwmni dur TATA ym Mhort Talbot.”

Trydedd system arloesol IoT Vortex yw OptiPark, system barcio glyfar sy’n troi lampau stryd cyfredol yn nodau clyfar sy’n cynhyrchu data am barcio trefol. Ynghyd â system adnabod rhif ceir yn awtomatig (ANPR), gall OptiPark ddyrannu meysydd parcio yn awtomatig, cyfeirio cwsmeriaid i fannau parcio gwag a hefyd, hwyluso taliadau awtomatig. Gall hefyd wahaniaethu rhwng cerbydau petrol, diesel a thrydan.

Bydd IoT yn chwarae rôl hynod bwysig

Fel dywed Adrian Sutton: “Mae OptiPark yn helpu awdurdodau lleol i gynyddu safonau gwasanaeth a gwneud y mwyaf o refeniw mewn parcio ar y stryd, tra’n gostwng tagfeydd traffig, lefelau sŵn a llygredd aer. Mae’n darganfod mannau parcio gwag fel gall gyrwyr barcio yn gyflym. O’i ddefnyddio ar y cyd â’r seilwaith ANPR gyfredol, mae OptiPark yn galluogi codi am barcio wedi’i seilio ar allyriadau cerbyd amser real.”

Mae Sutton yn dynwared yr ymadodd enwog: “Before you tackle it, you must First understand it” – sy’n golygu, heb yr wybodaeth berthnasol, allwch ddim – mewn gwirionedd - fynd i’r afael â’r broblem. Mae’n bendant y bydd IoT yn chwarae rhan hanfodol yn nyfodol sector masnach a diwydiant Cymru a heb os, o ymgorffori IoT, bydd yn cynyddu o ganlyniad i’r pandemig byd-eang sydd wedi’n heffeithio’n ddiweddar.”

“Mae IoT yn hanfodol gan ei fod yn galluogi mesur i ddarparu gwybodaeth y mae modd gweithredu arni i greu canlyniadau buddiol. Mae Brexit yn datgelu cwmnïau o Gymru i fasnach rydd ryngwladol, ac er mwyn cystadlu’n llwyddiannus mae’n rhaid iddyn nhw fod ar flaen y gad ym mhob agwedd ar eu busnes. Bydd IoT yn cael ei ddefnyddio i wella prosesau busnesau, monitro diogelwch staff, ynghyd â darparu gwybodaeth amser real ar brosesau gweithgynhyrchu fydd yn gwella dibynadwyedd ac yn arbed arian. Bydd IoT yn ymddangos mewn cartrefi busnesau a bydd yn effeithio ar bron i bopeth a wnawn.”

Gallwch ddarllen mwy am system RODIO IoT Vortex yma.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen