Mae tad sy’n gweithio amser llawn a mam sy’n gweithio’n rhan-amser yn profi llwyddiant melys gyda’u prosiect ochr yn dylunio ac yn creu siocledi a mowldiau wedi’u teilwra.

 

Mae James a Hayley Radford, sy’n rhieni i ddau o fechgyn ifanc, yn gwneud Rad yn brosiect amser llawn ac yn symud y cwmni o’r gegin deuluol i leoliad newydd. Mae’r deuawd deinamig wedi mwy na dyblu eu gwerthiant o flwyddyn i flwyddyn, ac maen nhw’n gwerthu eu cynnyrch i gwsmeriaid yn Ffrainc, Awstralia ac UDA.

 

Chocolate flag of Wales

 

Ac mae James, sy’n beiriannydd siartredig â dros 17 mlynedd o brofiad diwydiannol, yn dweud mai’r hyn sydd wedi dod â chymaint o lwyddiant i’r busnes o Bontardawe yw herio dulliau traddodiadol o greu trwy ddefnyddio dulliau digidol. Dywedodd: “Roeddwn i a Hayley eisiau gwneud rhywbeth gyda’n gilydd, a buddsoddais mewn argraffydd 3D. Rydym wedi archwilio’r cyfleoedd a datblygu syniadau, ac mae’r siocledi a’r mowldiau wedi bod yn llwyddiant mawr.

 

Defnyddio argraffu 3D er mwyn aflonyddu’r farchnad

 

“Yn draddodiadol, mae prisiau mowldiau yn ddrud i fusnesau llai, gyda heriau eraill yn cynnwys lleiafswm archebion a ffioedd o flaen llaw. Felly penderfynom gyfuno fy mhrofiad o ddylunio gyda chymorth cyfrifiadur a’r argraffydd 3D er mwyn aflonyddu’r farchnad, a galluogi busnesau llai i gael mynediad at fowldiau cost effeithiol.

 

“Mae dros 90 y cant o’n gwerthiant ar eBay, a gweddill yr archebion uniongyrchol yn dod o’n gwefan. Rydym wedi bod yn llwyddiannus hyd yma, ac mae’r twf wedi bod yn gwbl organig, gyda’r gwerthiant siocled a mowldiau 80 y cant yn fwy ar gyfer Nadolig 2017 o gymharu â’r flwyddyn gynt. Ac, er mawr syndod, rydym yn gwerthu 40 y cant o’n mowldiau yn rhyngwladol.

 

Canolbwyntio ar farchnata ar-lein er mwyn cynyddu gwerthiant

 

“Byddwn yn mynd yn amser llawn ym mis Ebrill, gan ein bod yn awyddus i dyfu a chanolbwyntio ar ddefnyddio’r wefan i gynyddu’r gwerthiant uniongyrchol. Rydym wedi bod i weithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau, a chael cymorth a chyngor un i un er mwyn cynorthwyo â’r gwaith marchnata, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol. Ac ers hynny, rydym wedi creu cynllun a fydd yn ein helpu i fynd y tu hwnt i’r llwyddiant yr ydym wedi’i gyflawni eisoes.

 

“Byddwn yn defnyddio’r meddalwedd e-fasnachu Shopify i’n helpu i wneud hyn. Ac rydym yn deall pa mor bwysig yw optimeiddio peiriannau chwilio wrth helpu pobl i ddod o hyd i’r wefan. Felly byddwn yn dysgu cymaint â phosibl er mwyn gwneud pethau ein hunain, a mynd at Gyflymu Cymru i Fusnesau i gael cymorth â hyn.”

 

Mae James o hyd yn chwilio am ffyrdd o wella ac arloesi er mwyn ehangu’r busnes a’i wneud mor effeithlon â phosibl. Mae’n dweud: “Oherwydd fy nghefndir, rwyf yn teimlo’n angerddol dros ddylunio, systemau a chynhyrchu. Ac mae hyn yn amlwg o’r ffordd rydym yn gwneud pethau a’r newidiadau rydym wedi’u gwneud.”

 

Mae angen i’n busnes gyd-fynd â’n bywyd teuluol

 

“Er enghraifft, rydym wedi creu ein rhaglen dechnegol ein hunain er mwyn cyflymu’r broses o ddylunio a chreu mowld wedi’i deilwra. Fel y rhan fwyaf o fusnesau a phobl, mae amser yn hollbwysig i ni. Yn ogystal â bod mewn swyddi amser llawn a rhan amser, rydym yn rhieni, ac roedden ni’n gwybod y byddai angen i unrhyw brosiect a ddechreuwn gyda’n gilydd gyd-fynd â’n bywyd teuluol. Mae creu ein rhaglen ein hun yn arbed amser ac yn ein galluogi i wneud hynny.”

 

“Hefyd, bydd y teulu’n cael y gegin yn ôl! Ar hyn o bryd, mae’r holl siocledi’n cael eu creu gartref, ond rydym wrthi’n trafod y manylion olaf er mwyn symud y busnes i leoliad penodedig. Mae’n garreg filltir anferth i ni, a bydd yn ein helpu i gyflawni ein nodau wrth symud ymlaen. Ac ar ôl hynny, y cam nesaf fydd ehangu ein cynnig. Rydym eisoes yn ymchwilio i ffyrdd i gwsmeriaid uwchlwytho delweddau i’r wefan i’w gosod ar gynnyrch siocled. Byddai hynny’n felys!”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen