Mae entrepreneur ffasiwn o Gymru wedi gweld llwyddiant ysgubol, gyda phobl yn hedfan o bob rhan o’r byd i ddod i’w gwersi gwnïo.

 

Aeth Helen Rhiannon, sydd hefyd wedi cyhoeddi llyfr ac sy’n gyflwynydd gwadd ar sianel wnïo boblogaidd yn y Deyrnas Unedig, ati i sefydlu All Sewn Up i redeg ochr yn ochr â’i busnes gwreiddiol, Helen Rhiannon Designer Label, sy’n cynhyrchu ffrogiau priodas sy’n cael eu gwneud ar gyfer y briodferch unigol.

 

Ac mae pobl wedi hedfan o Sbaen a Saudi Arabaidd i ddysgu crefft gwnïo er mwyn mynd â’r sgiliau yn ôl adref. Dywed Helen, sydd hefyd wedi gwneud ffrog i’r seren opera Katherine Jenkins, mai ei phresenoldeb ar-lein - nad oes ei debyg yn y sector - sydd i gyfrif am ei llwyddiant rhyngwladol.

 

 

“Mae fy gwefan wedi bod yn dyngedfennol yn denu busnes o dramor”

Dywedodd: “Rwyf wedi dysgu cannoedd o bobl, yn ddynion a menywod, yn amrywio o 6 i 96 oed. Mae fy ngwefan yn gwneud imi sefyll allan yn y diwydiant, ac mae wedi bod yn dyngedfennol yn denu busnes o dramor. Nid dim ond gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu dod o hyd i’ch brand ar y rhyngrwyd sy’n bwysig; rhaid gwneud yn siŵr, ar ôl iddynt ddod o hyd ichi, eu bod yn gadael yn teimlo’n gadarnhaol amdanoch chi a bod ganddynt ryw gysylltiad â chi.

 

“Rwy’n gweithio’n galed i sicrhau bod fy hygrededd heb ei ail. Cefais lyfr wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar, Sew Perfect Pets, ac rwyf hefyd yn gyflwynydd gwadd ar sianel siopa boblogaidd ar gyfer gwnïo yn y Deyrnas Unedig. Rwy’n gwneud yn siŵr fy mod yn siarad am y profiadau hyn ar fy nghyfryngau cymdeithasol a’r wefan.

 

“Rwyf hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr fod yna fantais uniongyrchol i’r busnes, er enghraifft, byddaf yn gwerthu’r paciau sy’n ofynnol i gwblhau pob prosiect a restrir yn y llyfr.

 

“Rwyf wedi sylwi bod nifer yr ymwelwyr â’r wefan wedi cynyddu, yn ogystal â’r niferoedd sy’n archebu lle yn y gwersi”

“Roeddwn yn gwybod y byddai'r wefan yn arf pwysig felly cysylltais â Cyflymu Cymru i Fusnesau ac es i weithdy, a chael un-i-un wedyn. Roedd y cymorth yn wirioneddol ddefnyddiol ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ddau fusnes.

 

“Er enghraifft, cynghorwyd fi i roi anogiad i weithredu ar bob tudalen, i edrych eto ar fy system archebu i’w gwneud yn haws fyth ei defnyddio, ac i roi fy llyfr a’m hymddangosiadau teledu yn syth ar wefan All Sewn Up Wales gyda diweddariadau SEO perthnasol. Rwyf wedi sylwi bod nifer yr ymwelwyr â’r wefan wedi cynyddu, yn ogystal â’r niferoedd sy’n archebu lle yn y gwersi.

 

“Rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau gyngor hefyd ynglŷn â’m defnydd o Mailchimp ac argymhellodd fy mod yn gwahanu rhestrau i wneud ymgyrchoedd yn fwy effeithiol drwy anfon cynnwys perthnasol at gynulleidfaoedd penodol yn unig. Hefyd, trafododd y tîm GDPR, a oedd o fudd enfawr i mi fel busnes bach. Roedd yn golygu na fu rhaid imi dalu am gyngor gan gwmni arall.”

 

“Roedd y cymorth wedi’i deilwrio a’i dargedu ar lefel berffaith”

A hithau eisoes yn gwybod rhywfaint am gyfryngau cymdeithasol, roedd y wraig fusnes 37 oed o Abertawe yn falch o gael arweiniad i’w helpu i symud ymlaen ymhellach. “”Roedd y cymorth wedi’i deilwrio a’i dargedu ar lefel berffaith,” ychwanegodd. “Rwy’n llwytho tiwtorialau gwnïo i fyny i’r wefan, a dim ond drwy eu llwytho i lawr y maent ar gael - maen nhw’n hynod o boblogaidd gyda phobl yn UDA ac Awstralia. Mae’r fideos YouTube hefyd yn cael derbyniad da. Rwyf wedi ailedrych hefyd ar wefan Helen Rhiannon a byddaf yn rhoi gwell SEO ar waith ymhen amser.”

 

Ar sail y twf, mae Helen - a oedd hefyd yn gyd-gyfrifol am ddatblygu'r rhaglen Prentisiaeth Ffasiwn a Thecstilau gyntaf yng Nghymru, sy’n cael ei rhedeg gan Goleg Sir Gâr - yn gobeithio codi stiwdio fwy a recriwtio yn 2019. Hefyd ar ei radar ar gyfer y 12 mis nesaf mae gweithredu ar ragor o awgrymiadau a gafodd yn ystod gweithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau a’r cymorth un-i-un.

 

Ychwanegodd: “Byddaf yn ychwanegu rhagor o gynnyrch at fy siop ar-lein, yn ogystal ag adolygu’r ddadansoddeg i ddysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd ar fy ngwefan. Byddaf hefyd yn defnyddio meddalwedd golygu fideos i barhau i wella ansawdd a chynnwys y fideos ar fy sianel YouTube ac yn defnyddio hynny wedyn ar gyfer y ddwy wefan.”

Ystyried buddsoddi mewn meddalwedd newydd? Cymerwch olwg ar peth o’r meddalwedd a allai helpu chi redeg a thyfu’ch busnes - cliciwch yma.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen