Darllenwch sut mae Spiffy, siop hapusrwydd a llesiant yng Nghaerfyrddin, wedi manteisio’n llawn ar gymorth SEO a systemau integredig i gynyddu gwerthiannau 60% mewn 6 mis.

 

 

Mae Spiffy yn siop bositifrwydd a hapusrwydd ar sgwâr Nott yng Nghaerfyrddin. Mae holl waith Spiffy yn seiliedig ar helpu pobl i fyw bywyd hapus a boddhaus trwy oresgyn eu heriau er mwyn manteisio’n llawn ar fywyd. Mae’n bwnc sy’n agos at galonnau’r perchnogion.

 

Mae’r siop yn gwerthu llyfrau, cardiau codi calon, cynnyrch aromatherapi a thrugareddau i roi hwb i’ch hwyliau. Yn ogystal â hyn, mae Spiffy’n gweithio gyda chwnselydd hyfforddedig i gynnig amrywiaeth o weithdai arbenigol sy’n canolbwyntio ar wahanol feysydd o’ch bywyd yr ydych eisiau eu gwella.

 

Gan mai tîm bach o ddau berson sydd ganddyn nhw, mae’n hanfodol bod Spiffy’n manteisio’n llawn ar dechnoleg ac yn integreiddio ei systemau er mwyn rhyddhau amser ac egni i ganolbwyntio ar rannau eraill o’r busnes.

 

Mae’r busnes yn defnyddio Shopify i redeg ei siop ar-lein, sy’n integreiddio â’r system gwerthu electronig yn y siop. Mae hefyd yn integreiddio gyda Xero, sy’n galluogi’r tîm i fonitro ei stoc a’i gostau.

 

Pan agorodd Spiffy fel siop ac ar-lein am y tro cyntaf, roedd y tîm yn gwybod bod angen optimeiddio peiriannau chwilio cymaint â phosibl, felly aeth Paul i weithdy optimeiddio peiriannau chwilio Cyflymu Cymru i Fusnesau, a dywedodd ei fod yn ddefnyddiol iawn wrth ddatblygu ei wybodaeth am optimeiddio peiriannau chwilio ar gyfer busnes.

 

Ond roedd y tîm yn chwilio am rywbeth wedi’i deilwra iddyn nhw hefyd.

 

Dyna pam y cawson nhw gymorth wedi’i deilwra gan Ymgynghorydd Busnes Digidol gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau. Dywedodd Paul fod y cyfarfod yn “dda iawn” a rhoddodd lawer o wybodaeth ddefnyddiol iddo sy’n benodol ar gyfer tyfu Spiffy.

 

Mae defnyddio Google Analytics wedi helpu’r tîm i ddeall sut mae ymwelwyr yn dod o hyd i Spiffy ar-lein a’u taith drwy’r wefan. Mae hyn yn eu helpu i weld darlun clir o’u cwsmeriaid, sydd wedi bod yn “amhrisiadwy” i’r busnes.

 

Mae’r cymorth optimeiddio peiriannau chwilio wedi’i deilwra wedi arwain at dwf o 60% yn eu gwerthiannau – sy’n parhau i dyfu – ac wrth i Spiffy ddod at ddiwedd ei flwyddyn fasnachu gyntaf, mae’r tîm yn falch iawn o lwyddiant eu busnes, ac maen nhw’n edrych ymlaen at y dyfodol.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen