Darganfyddwch sut mae Welsh Brew Tea wedi cyfuno ymagwedd bersonol at wasanaethau i gwsmeriaid â phroses technoleg awtomataidd i dyfu busnes teuluol llwyddiannus sy’n cyflenwi archfarchnadoedd ledled Cymru.

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi helpu’r busnes i gynyddu gwerthiannau ar-lein. Dysgwch sut y gallwch chi elwa o’r gefnogaeth fusnes am ddim hefyd.

 

 

Mae Paned Gymreig yn fusnes teuluol a sefydlwyd rhyw 30 mlynedd yn ôl. Mae'r Cyfarwyddwr Gwerthu, James Wenden, yn gweithio gyda’i dad Alan a’i chwaer Sarah – ac mae’r tri ohonyn nhw ar dân dros yr hyn maen nhw’n ei wneud.

 

Mae'r cwmni yn cymysgu ac yn pacio te yn arbennig ar gyfer dŵr Cymru, sy’n arbennig o feddal.

 

Te ydy busnes craidd y cwmni. Maen nhw’n cynnig te bob dydd, bagiau te pyramid a the dail rhydd cosmopolitan ynghyd â the ffrwythau, te â blas arbennig, te perlysiau a the wedi’i drwytho ac mae’r cwbl wedi bod yn llwyddiannus dros ben. Maen nhw hefyd yn gwerthu siocled poeth a thri math o goffi grawn sydd wedi cael ardystiad gan y Gynghrair Fforestydd Glaw. Mae’r rhain unwaith eto wedi cael eu rhostio gan feddwl am ddŵr Cymru.

 

Gyda’i gilydd maen nhw’n cynnig tua dros 70 cynnyrch gwahanol – yn ôl James, pob paned allech chi freuddwydio amdani.

 

Mae Paned Gymreig yn defnyddio technoleg yn y swyddfa i gefnogi popeth mae’n ei wneud. Mae ei holl systemau’n awtomataidd, a gan fod angen system gyflym ac adweithiol er mwyn cyflenwi ei holl gwsmeriaid, mae band eang cyflym iawn yn hanfodol.

 

Roedd un o Gynghorwyr Busnes Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi ymweld â nhw i’w cynghori, gan siarad am yr hyn roedd angen iddyn nhw ei wneud a sut. Dywedodd James fod y cwmni wedi cael help i roi systemau ar waith er mwyn iddyn nhw allu bwrw ymlaen a gweithredu heb orfod poeni am yr holl broblemau swyddfa gefn sydd yn aml yn gallu drysu ac arafu cwmni llwyddiannus sy’n tyfu.

 

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi helpu Paned Gymreig i ddatblygu ei lwyfan gwefan sydd eisoes wedi arwain at werthu mwy ar-lein.

 

Gawson nhw gefnogaeth i roi pecyn cyfrifyddu ar-lein ar waith. Bum mlynedd, yn ôl James, roedden nhw’n dal i lenwi cofnodion ar bapur, ond mae’r cyfan yn cael ei wneud ar-lein nawr, mae anfonebu a thasgau ariannol eraill yn haws o lawer erbyn hyn, sy’n rhyddhau amser i ganolbwyntio ar ddatblygu’r busnes.

 

Cafodd Paned Gymreig ei sefydlu gan Alan Wenden fel busnes arallgyfeirio o fferm yn y Drenewydd, Powys, gan gyflenwi archfarchnadoedd bach lleol a swyddfeydd post. Nawr mae’r cwmni yn cyflenwi archfarchnadoedd yng Nghymru gan gynnwys Tesco, Co-op a Sainsbury’s gyda thua 15 cynnyrch gwahanol. Maen nhw’n gwneud llawer iawn o fusnes gyda chwmnïau gwasanaethau bwyd fel Castell Howell a Blas ar Fwyd sy’n gwerthu i gaffis a bwytai.

 

Bydd Alan a James hefyd yn mynd allan yn eu faniau bob dydd ar draws Cymru yn gwerthu i gwsmeriaid. Fel dywed James, maen nhw eisiau dangos i bobl pan fyddan nhw’n cefnogi eu cynnyrch Cymreig, y bydd Paned Gymreig yn eu cefnogi nhw.

 

Ar gyfer unrhyw gwmni sydd ag ochr dechnegol i’w fusnes, mae James yn credu’n gryf ei bod hi’n allweddol cael band eang cyflym iawn i’w helpu i wneud tasgau bob dydd yn gyflym ac yn effeithlon, ac mae’n cadarnhau y byddai’n sicr yn argymell Cyflymu Cymru i Fusnesau a'r gefnogaeth mae’n ei chynnig i fusnesau.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen