Mae cwmni glanhau a leolir yng Nghaerdydd wedi croesawu technoleg ddigidol i ennill contractau newydd, i ennill gwobrau gan y diwydiant, ac i wella effeithlonrwydd. Trwy ganolbwyntio ar lesiant gweithwyr a phrofiad gwell i gwsmeriaid, mae ei werthiannau wedi cynyddu 200% ac mae ei gyfraddau cadw staff wedi cynyddu yn ogystal.

 

Sefydlwyd Apollo Wales gan gyd-gyfarwyddwyr Chris Birch a Jak Bjornstrom yn 2015, ac mae’n gweithio i gwmnïau megis Banc Barclays, Tesco a McDonalds. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r busnes wedi buddsoddi mewn technoleg newydd sydd wedi gwella’r ffordd y mae’n cyfathrebu â staff a chwsmeriaid, gostwng yr amser a dreulir yn casglu taliadau heb eu talu ac wedi arwain at gynnydd o 200% mewn refeniw o’i weithredoedd glanhau masnachol a domestig.

 

Picture of van with Apollo Wales logo

 

Gall staff fwcio gwyliau a rheoli amserlenni ar eu ffonau

 

Un o’r buddsoddiadau allweddol oedd mewn ‘ap’ ffôn clyfar o’r enw Rotaz, a gaiff ei ddefnyddio gan staff i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf o ran amserlenni, rheoli eu gwyliau ac ‘optio i mewn’ i weithio sifftiau penodol neu i drefnu goramser. Mae’r ap hefyd yn galluogi i’r tîm rheoli anfon diweddariadau cwmni-gyfan, a diweddaru staff unigol o ran newidiadau i ofynion cleientiaid. Yn ogystal â gwella dulliau cyfathrebu mewnol, mae hefyd wedi helpu Apollo i ennill categori Cyflogwr y Flwyddyn yn ystod Gwobrau Busnes Caerdydd yn 2017.

 

Cynnig lefel uwch o ddiogelwch i’n gweithwyr unigol

 

Mae Apollo hefyd wedi cyflwyno system a alluogir gan GPS i dracio cynnydd ei dimau glanhau a rhoi diweddariadau i gleientiaid mewn amser go iawn. Croesawyd y system Smart In-Out yn enwedig gan weithwyr unigol, sydd erbyn hyn yn elwa o lefel ychwanegol o ddiogelwch tra eu bod wrth eu gwaith, yn ogystal â rhai o gwsmeriaid diwydiannol Apollo y mae angen i wasanaethau glanhau hanfodol gael eu cyflawni yn ystod y nos.

 

Cyfrifyddu ar-lein yn arbed deuddydd yr wythnos i ni

 

Buddsoddiad arall oedd yn y pecyn cyfrifyddu ar-lein Kashflow, y mae’r busnes yn ei ddefnyddio i reoli taliadau gan gwsmeriaid masnachol. Amcangyfrifa’r perchnogion fod cyflwyno bilio awtomataidd wedi arbed deuddydd yr wythnos ar gyfartaledd i’r busnes, a dreuliwyd yn mynd ar ôl taliadau heb eu talu yn y gorffennol.

 

Yn ogystal â chynyddu effeithlonrwydd y busnes, mae Apollo hefyd yn defnyddio technoleg ddigidol i helpu i dyfu ei sail cwsmeriaid. Yn ddiweddar enillwyd contract gydag un o gwmnïau trafnidiaeth mwyaf y byd ac mae’n edrych am ffyrdd y gall technoleg eu helpu i dyfu eu canran o’r farchnad glanhau trafnidiaeth, yn ogystal â symud i sectorau diwydiant eraill.

 

Rydym yn canolbwyntio ar gadw ein cwsmeriaid a chynyddu niferoedd

 

Erbyn hyn mae Apollo yn defnyddio system Rheoli Perthynas â Chwsmeriaid o’r enw HubSpot fel rhan o weithred gwerthiannau a marchnata ragweithiol a dargedwyd. Mae wedi dechrau hysbysebu ar Facebook ac yn ddiweddar gosododd wasanaeth sgwrs we awtomataidd ar ei wefan, ac mae’r ddau beth hyn wedi cyfrannau at gynnydd yn nifer yr ymholiadau gan gwsmeriaid domestig. Mae ei ddefnydd ei hun o gyfryngau cymdeithasol hefyd yn ei helpu i ennill mwy o fusnes, gan arwain i Apollo ychwanegu presenoldeb ar Instagram at y cyfrifon Facebook a Twitter y mae eisoes yn eu gweithredu’n llwyddiannus.

 

Dangosodd cymorth digidol am ddim y meysydd i’w gwella

 

Derbyniodd y cwmni gyngor drwy’r rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau (SFBW) a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac, ar ôl mynychu gweithdy a derbyn cymorth ymgynghori un i un, penderfynodd ailwampio ei wefan, a arweiniodd at wella ei sgôr chwilotwr a’i defnyddioldeb yn sylweddol. Daeth y perchnogion yn fwy ymwybodol o sut y gallent ddefnyddio dadansoddeg i ddatblygu strategaethau marchnata effeithiol, yn ogystal â bod yn fwy agored o ran rhoi cynnig ar syniadau newydd.

 

Mae technoleg ar-lein yn ein helpu i roi gofal cwsmer gwell

 

“Ar hyn o bryd rydym wrthi’n gweithio gydag ap newydd o’r enw i-auditor, y mae’n ein helpu ni i fonitro ansawdd ein gwaith fel y gallwn wella’n barhaus ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu,” meddai’r cyfarwyddwr Chris Birch. “Erbyn hyn gallwn anfon negeseuon testun awtomataidd sy’n rhoi gwybod i gwsmeriaid pwy sy’n glanhau eu hadeilad a faint o’r gloch y byddant yn cyrraedd ac rydym hefyd yn edrych ar gyflwyno cardiau ffyddlondeb i annog busnes amldro.

 

“Ar ôl gweld sut y gall technoleg ddigidol ein rhoi ar flaen y gad yn y marchnadoedd rydym yn gweithredu ynddynt, rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o gefnogi twf yn y busnes, tra’n cyflenwi’r lefelau gorau posib o wasanaeth i’n cwsmeriaid.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen