Gall rhoi’r gorau i incwm sefydlog i ddechrau eich busnes eich hun yng nghanol pandemig ymddangos yn syniad gwallgof.
Wedi’r cyfan, yn y flwyddyn gyntaf yn unig, bydd 20 y cant o fusnesau sy’n cychwyn arni ac yn cofrestru yn y DU yn methu.
Ond byddai perchennog Nights Under Canvas Steven Bradley, yn cymryd cam mewn ffydd eto ar ôl i’w fusnes gael dechreuad gwych a’i gydbwysedd rhwng gwaith/bywyd wella’n fawr.
Mae Nights Under Canvas yn llogi pebyll cloch moethus ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a’r Gŵyr gan gynnig profiadau o bob math a maint ar gyfer priodasau, pen-blwyddi, gwyliau gartref, partïon ieir, nosweithiau ffilm a mwy. Mae pabell swigen gan y cwmni hyd yn oed i wylio’r sêr.
“Collais ewythr i Covid ac fe ddangosodd hynny i mi pa mor sydyn y gall pethau ddigwydd mewn bywyd,” meddai’r tad i ddau o blant, Steven, a oedd eisiau newid o’r amgylchedd gweithio lle’r oedd wedi bod am 25 mlynedd.
“Rwyf wedi bod yn un i roi fy llesiant meddwl yn gyntaf erioed, ac i wneud newidiadau pe bai pwysau arna’ i, ac ar ôl gwneud y naid, rydyn ni bellach yn mynd i mewn i’n hail flwyddyn o fasnachu.
“Bu uchelgais i redeg fy musnes fy hun gen i erioed, efallai oherwydd bod yna elfen o allu gwthio’ch hyn yn galed a gweld beth allwch chi ei gyflawni.”
Felly, gyda help Cyflymu Cymru i Fusnesau, aeth Steven ati i wneud Nights Under Canvas yn llwyddiant, gan durio’n ddwfn i fyd rheoli cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol ac e-bost o’r cychwyn cyntaf – maes nad oedd cefndir gwych gan y gŵr 49 oed ynddo o gwbl.
“Fe wnaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau wir fy helpu i uwchsgilio mewn rhai meysydd fel marchnata digidol,” eglurodd. “Maen nhw wir wedi helpu cefnogi fy mhroses ddysgu.
“Rydym hefyd wedi gallu defnyddio technolegau cwmwl a gweithredu storfa adfer wrth gefn mewn argyfwng trwy ddefnyddio Google Drive a Dropbox; nid yn unig y mae’r rhain yn rhoi tawelwch meddwl i mi, ond maent yn fy ngalluogi i gael mynediad i ’ngwaith ble bynnag yr ydw i yng Nghymru.
“Roedd gweminarau ar optimeiddio peiriannau chwilio, adeiladu eich gwefan eich hun, marchnata drwy’r cyfryngau cymdeithasol a chreu busnes digidol.
“Yna rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau adroddiad diagnostig at ei gilydd ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd y derminoleg yn newydd i mi, ond roedd cael lle amlwg i’r busnes ar y peiriannau chwilio yn wych.”
Mae’r gefnogaeth a’r arweiniad gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi talu ffordd yn sicr.
Aeth Steven ymlaen i ddweud: “Gan ddadansoddi ein blwyddyn gyntaf lawn mewn busnes, daeth 25 y cant o’r archebion drwy ein gwefan a/neu beiriannau chwilio, tra bod dros 30 y cant o archebion wedi dod o sianelau cyfryngau cymdeithasol – 23 y cant o Facebook ac 8 y cant o Instagram.
“Mae creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ein cyfrifon Facebook, Instagram, Twitter a LinkedIn wedi’i helpu drwy gael fy nghyflwyno i Canva, sef offeryn dylunio graffig hawdd ei ddefnyddio.
“Roedd rhywfaint o’r cyngor gorau a gefais yn ymwneud â chael y cynnwys yn gywir a pheidio â chanolbwyntio ar nifer y dilynwyr a oedd gennym, gan mai’r cyfan sy’n bwysig yw’r effaith rydych chi’n ei chael.
“Sylweddolom yn gyflym fod ein sianelau cyfryngau cymdeithasol yno i ennyn diddordeb pobl, nid dim ond i werthu, gwerthu, gwerthu yn gyson.
“Awgrymodd Cyflymu Cymru i Fusnesau hefyd ein bod yn cael adran ‘sut mae’n gweithio’ ar y wefan yr oeddem yn ei hadeiladu, a phroses gofrestru i ddefnyddio marchnata e-bost drwy MailChimp, a oedd yn ddefnyddiol iawn gan iddynt roi gwybodaeth i ni am arfer gorau o ran cynnwys a mynychder.”
Mae gan Nights Under Canvas 12 mis prysur o’i flaen sydd eisoes ar y trywydd iawn i gyfateb i ffigurau ariannol y flwyddyn flaenorol.
Ac ar ben hynny, mae Steven, sy’n hyfforddwr rygbi a phêl-droed i’r rhai dan 11 oed, yn cael treulio’i oriau gweithio yn gwneud beth mae’n ei garu, ac mae’n treulio hyd yn oed mwy o amser gyda’i deulu ifanc.
“Fel mab i ffermwr, rwyf wedi mwynhau gweithio yn yr awyr agored erioed,” meddai Steven. “Does dim byd yn debyg i fynd i’r gwely wedi blino’n gorfforol yn hytrach na wedi blino’n feddyliol.
“Yr hyn sy’n wych yw, yn ystod ein hadegau brig, sef misoedd yr haf sy’n cyd-daro â gwyliau ysgol, mae ein plant, Anna a Steffan, a’n ci, Gwen, yn dod allan i weithio gyda mi.
“Mae gennym fan gyda’r busnes, felly byddwn ni gyd yn mynd yn honno, a gosod neu ddymchwel pebyll yn y bore ac yna mynd i’r traeth yn y prynhawn efallai.
“O ran y ffordd mae’r busnes yn gweithio, oni bai bod priodas neu ddigwyddiad arbennig gennym, mae’r nosweithiau’n rhydd ac mae hynny’n wych i fywyd teuluol.”
Mae cynlluniau uchelgeisiol gan Steven ar gyfer dyfodol y busnes wrth brynu mwy o bebyll i gadw i fyny â’r galw gan gleientiaid.
“Mae gennym gynlluniau cyffrous i’r dyfodol, ond nid ydym wedi’u cyhoeddi eto,” meddai Steven. “Byddai’n 50 cyn hir ac yn barod i wneud ychydig mwy o ddysgu o ran cynnwys fideo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
“Rwyf wedi dysgu llawer iawn gyda chymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau yn ogystal â Busnes Cymru; fe wnaeth eu cynghorwyr osod y sylfeini ar gyfer fy addysg, ac rwy’n gwybod, fel rhan o’r broses ddysgu, bod mwy i ddod.”