Mae rhedeg busnes fel adeiladu cuddfan - fyddwch chi byth yn ei orffen.   

Ond gyda help Cyflymu Cymru i Fusnesau, mae gan y cydlynydd creadigol, Angela Dowdell, y blociau adeiladu digidol i wella strwythur Make It in Wales, sydd eisoes yn gadarn. 

 

Mae Make It In Wales, a sefydlwyd yn 2015 gan y cyfarwyddwr Suzi Park, yn grŵp budd cymunedol y mae ei gynnig busnes craidd yn cynnwys ystod lawn o gyrsiau crefft a gyflwynir gan bobl greadigol broffesiynol, brofiadol, leol yng Nghymru. 

Mae'r cyrsiau'n cynnwys clustogwaith, gwydr lliw, ffeltio, macrame, gwneud cotiau, rhwymo llyfrau, brithwaith, gemwaith, gwaith lledr, gwneud gwisgoedd, argraffu, ac ysgrifennu creadigol.  

Mae digon o le ar safle Make It In Wales yn Aberteifi ar gyfer siop fanwerthu a chaffi o'r enw Stiwdio 3, sy'n gweithredu ar y llawr gwaelod. 

Ar ôl gweithio fel tiwtor cwrs yn wreiddiol, cymerodd Angela agwedd fwy ymarferol tuag at redeg y fenter ychydig ddyddiau cyn i'r cyfnod clo daro ym mis Mawrth 2020.  

Meddai Angela: "Daeth cyfle i gymryd rhan fwy gweithredol ym Make It In Wales ac roeddwn i'n awyddus i ddechrau arni. 

"Ond yna fe darodd Covid-19, a bu saib mawr iawn. Cyfle i stopio, anadlu ac edrych ar bob agwedd ar y busnes." 

Penderfynodd Angela newid platfform y wefan i Squarespace er mwyn helpu gwneud y broses archebu ar-lein yn un llyfnach. 

Fe wnaeth cyfarfod un i un gydag ymgynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau, Paul Gadd, helpu cadarnhau bod dewis Angela yn un clyfar ac mae'r canlyniadau wedi amlygu hynny. 

Meddai Angela: "Roedd siarad gyda Paul yn anhygoel gan ei bod yn wych cael rhywun sydd wir yn arbenigwr yn rhoi adborth i chi. 

"Rydw i wastad yn dweud bod o leiaf un peth yn dod allan o bob cyfarfod neu weminar sy'n gwneud i chi fynd 'ah, doeddwn i ddim wedi meddwl am wneud hynny'. 

Photo of a sewing machine and material - demonstrating someone crafting

"Roedd llawer o'r hyn y buom yn siarad amdano yn canolbwyntio ar yr enillion cynyddraddol a mireinio’r prosesau oedd eisoes ar waith. 

"Er enghraifft, cyn i ni newid platfform y wefan, roedd y drefn archebu yn golygu neidio trwy gymaint o gylchoedd a chael ein hanfon i wahanol dudalennau i gwblhau'r broses. 

"Wrth edrych ar y niferoedd cyn y newidiadau ac eto nawr, mae'r addasiadau hynny a wnaed yn dangos pa mor werthfawr yw'r arbenigedd." 

 

Awgrymodd Paul y gellid mireinio proses arall, a dechreuodd Angela ddefnyddio system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) ei gwefan newydd i wella cyfathrebu â chleientiaid. 

Mae'r newid hwn yn y dull wedi arwain at ganlyniadau rhyfeddol i'r busnes. 

Aeth Angela ymlaen i ddweud: "Edrychais i ar brosesau a phenderfynu llunio ffurflen i bobl ei llenwi a fyddai’n gweld cyrsiau wedi'u gwerthu allan a chael gwybod am y rhai nesaf. 

"Mae llenwi’r ffurflen hon yn cynhyrchu uchafswm o ddau e-bost oddi wrthyf i i'r person, ond mae wedi cael effaith syfrdanol gyda mwy na 40 y cant o'r rheiny sydd wedi gadael eu manylion yn trefnu lle ar gwrs diweddarach. 

"Rydw i hefyd eisiau i bawb sydd wedi mynychu gweithdy deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac mae’r ffurflen adborth yr wyf yn ei hanfon at bob cyfranogwr yn cael ei dychwelyd gan dros 50 y cant ohonynt. 

"Dwi'n darllen pob darn o adborth er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y pethau iawn ac i amlygu unrhyw beth sydd angen sylw." 

Yn sgil proses archebu well a digon o ddiddordeb mewn cyrsiau sy’n cael eu cynnal o'i safle yng Ngheredigion, mae Angela yn gobeithio ehangu'r cynnig trwy gynnal sesiynau tiwtorial ar-lein. 

"Ar hyn o bryd, mae dros 80 y cant o fynychwyr ein gweithdai yn byw o fewn dwy awr i Aberteifi," meddai. "Bydd sefydlu adnodd ar-lein yn gwneud y rhain yn agored i bobl sy'n byw ymhellach i ffwrdd.

"Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi helpu gyda manylion penodol, fel y platfformau gorau sydd ar gael ar gyfer cyrsiau ar-lein er mwyn denu cynulleidfa ehangach. 

"Rydym yn gwybod bod gennym gynnyrch o ansawdd da, felly'r prif nod yw sicrhau ein bod ni’n cynnig ystod amrywiol a diddorol o weithdai." 

Mae Angela bob amser yn awyddus i ddysgu yn ei hymgais i awtomeiddio cymaint o bethau â phosibl trwy feddalwedd, tra'n cynnal cyswllt personol. 

Un agwedd sydd wedi mynnu sylw Angela yw optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) ar gyfer Make It In Wales. 

Ychwanegodd Angela: "Gyda help Cyflymu Cymru i Fusnesau, rydw i wedi gallu meddwl am SEO ychydig yn gliriach. 

"Rydw i'n meddwl am beth fyddai'r cwsmer yn teipio i chwilio amdanon ni, ac rydw i wedi bod yn canolbwyntio ar y cwestiynau mae pobl yn eu gofyn ar Google. 

"Rwy'n teimlo fy mod i ar y trywydd iawn, ond mae angen mwy o waith ar yr ochr dadansoddeg o hyd.  

"Rydw i wedi bod yn defnyddio Squarespace ar gyfer dadansoddeg sylfaenol, cyn uwchraddio i Google Analytics, sy'n rhywbeth yr wyf wir eisiau edrych yn ddyfnach arno. 

"Ond fel dwi wastad yn dweud, mae rhedeg busnes fel adeiladu cuddfan - fyddwch chi byth yn ei orffen." 

 


Gweld rhagor o hanesion llwyddiant busnes


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen