Dysgwch sut penderfynodd Becky a Thea, wedi’u hysbrydoli gan gaffi crempog yn Amsterdam, ddechrau creu a gwerthu pice ar y maen traddodiadol ac ychydig yn wahanol, gan gynnwys un â blas caws a chenhinen!

 

Dysgwch sut mae MamGu Welshcakes yn defnyddio llwyfannau ar-lein i gyrraedd mwy o gwsmeriaid a’u denu i’r caffi yn Sir Benfro.

 

 

Ar ôl cael eu hysbrydoli gan dŷ crempogau yn Amsterdam, penderfynodd partneriaid busnes Becky a Thea ddysgu sut i wneud pice ar y maen a’u gwerthu mewn gwyliau lleol.

 

Roedd hi’n llwyddiant mawr a pharhaodd y busnes i dyfu. Erbyn hyn, mae’r ddwy yn berchen ar gaffi yn Solfach, Sir Benfro. Maent yn gwerthu pice ar y maen traddodiadol ac amrywiol – megis siocled ac oren, cnau coco a hyd yn oed rhai caws a chennin sy’n cael eu gweini gyda’u brecwast mawr Cymreig.

 

I hyrwyddo Pice ar y Maen MamGu, mae’r tîm yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, Facebook ac Instagram yn bennaf. Maent yn rhannu lluniau o’u danteithion blasus i dynnu dŵr i ddannedd eu cwsmeriaid. Maent hefyd yn cadw diddordeb eu cwsmeriaid drwy bostio gwybodaeth gyfredol am y busnes, megis ar ôl iddynt ymddangos yn ddiweddar ar raglen Countryfile y BBC. Cafodd Pice ar y Maen MamGu gymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau gan gynnwys gweithdy gwefannau a sesiwn un i un yn dangos sut i wneud y gorau o lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol.

 

Yn sgil y cymorth, mae Pice ar y Maen MamGu bellach yn defnyddio iZettle hefyd i reoli eu til a’u stocrestr sy’n eu galluogi i weld pa rai o’u cynhyrchion yw’r mwyaf poblogaidd ac i’w helpu i barhau i dyfu’r busnes.

 

Gan eu bod mewn lleoliad anghysbell, mae presenoldeb ar-lein wedi bod yn hollbwysig ar gyfer Pice ar y Maen MamGu. Maent wedi dysgu bod cwsmeriaid wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, Google Maps a Trip Advisor i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y busnes a mynd i ymweld â nhw.

 

Mae Thea a Becky yn cynghori unrhyw un sydd â busnes bach i gysylltu â Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael cymorth ynglŷn â thyfu ei fusnes.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen