Mae pobydd teisennau yng Ngogledd Cymru wedi datblygu strategaeth ddigidol lwyddiannus i farchnata ei chynnyrch.

 

Busnes Judith Bond Cakes o Landudno yw creu teisennau ar gyfer dathliadau arbennig fel priodasau a digwyddiadau corfforaethol, ac fe lwyddodd i gynyddu ei gwerthiant 30%.

 

Woman decorating a cake

 

Aeth sefydlydd y busnes, Judith Bond, i ddosbarth meistr di-dâl gan Cyflymu Cymru i Fusnesau. Yna lluniodd gynllun marchnata digidol gyda’i ffocws ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

 

Mae’r cyn reolydd swyddfa hefyd yn awyddus i godi proffil ei blog sy’n canolbwyntio ar deisennau, ffotograffi a chymuned ar-lein o fusnesau bach o Gymru.

 

Meddai Judith: “Mae fy ymgyrch farchnata newydd yn bendant wedi cynyddu’n gwerthiant.

 

“Roedd y dosbarth meistr yn wych ac yn sôn am wahanol ddulliau ar-lein o hyrwyddo’r busnes.

 

“Bellach rwy’n defnyddio gwahanol gyfryngau cymdeithasol, yn cynnwys Instagram, i roi cyhoeddusrwydd i’m teisennau a chysylltu â chwsmeriaid. Rydw i hefyd yn gobeithio creu enw da i mi fy hun fel blogiwr o Ogledd Cymru.

 

Bu’r cynllun Cyflymu Cymru i Fusnesau yn gefnogol dros ben i dwf y busnes ac rwy’n eu hargymell yn sicr i fusnesau bach sydd eisiau ehangu.”

 

Caiff Cyflymu Cymru i Fusnesau ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Mae’n rhoi cyngor ac arweiniad Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i helpu busnesau bach a chanolig dyfu drwy ddefnyddio technoleg ddigidol.

 

Mae gan y cynllun amrywiaeth o wybodaeth a chymorth ar-lein. Mae cyngor un-i-un hefyd ar gael, ynghyd â dosbarthiadau meistr rheolaidd i roi cyngor arbenigol i fusnesau am faterion digidol.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen