Gwerthiant digidol 837% i fyny a chynnydd o 70% mewn prisiau prynu ar gyfartaledd

Wedi adolygu ei strategaeth ddigidol fisoedd cyn y pandemig a’i mireinio yn ystod tair wythnos gyntaf COVID, gwelodd WoodenGold gynnydd o 837% mewn gwerthiant ar-lein, gyda phris pryniannau ar gyfartaledd yn saethu i fyny 70%.

Mae’r crefftwr gemwaith arbenigol a’r cyn adeiladwr propiau ffilm Stephen Cichocki yn creu modrwyau unigryw gan ddefnyddio techneg a berffeithiwyd gan yr hen Lychlynwyr, sef castio tywod. Gan ddefnyddio pren, neu aur neu arian a gemau tlws wedi’i ailgylchu 100% o ffynonellau moesegol, mae ei fodrwyau unigryw’n profi’n boblogaidd ymhlith pobl ifanc 25-35 oed ac fel modrwyau priodas.

Fe greais i wefan hardd ond doedd fy nghwsmeriaid ddim yn ei defnyddio

Wedi creu gwefan gan ddefnyddio WIX rai blynyddoedd yn ôl, gwnaeth Cichocki y camgymeriad clasurol o greu un mor brydferth â’i fodrwyau, yn llawn delweddaeth ddwys i arddangos ei waith, ond heb ystyried rhyw lawer a fyddai ei gwsmeriaid yn gallu ei defnyddio’n rhwydd.

“Yn ogystal â bod â gwefan steilus ond aneffeithiol, roeddwn i’n gwerthu’n bennaf drwy Etsy, a ddechreuodd yn dda cyn diflannu’n raddol,” medd Cichocki. “Rwy’n credu mai’r rheswm yw fod safleoedd trydydd parti’n gwthio rhestrau nwyddau llawn iawn, gan golli’r cyfle i adeiladu ymddiriedaeth yn y gwerthwr. Yn fwriadol, fe gymerais i nifer o gamau i ddeall yn well sut i farchnata fy musnes, gan gynnwys cysylltu â Cyflymu Cymru i Fusnesau (CCIF) ym mis Tachwedd 2019 i ddysgu sut i greu llif arian a thwf mewn modd cynaliadwy.”

A package made by WoodenGold.

Bellach rwy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn meddwl fel marchnatwr

Mynychodd Cichocki gwrs marchnata digidol CCIF, lle cafodd gymorth gan yr Ymgynghorydd Busnes Digidol Pete Mackenzie. Canolbwyntiodd hwnnw ar y cwsmeriaid; ar adeiladu eu hyder yn Cichocki a’i gynnyrch, yn ogystal â phwysleisio’r daith brynu ar draws llwyfannau digidol perthnasol a’r wefan.

Medd Cichocki, “Ar sail fy mhrofiad gyda Etsy, roeddwn i’n gwybod fod rhaid imi adeiladu ymddiriedaeth ynof fi ac yn fy musnes, a helpodd Pete gyda hynny. Awgrymodd y dylwn i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn llwyfan i mi, fel crefftwr modrwyau, yn ogystal â’m cynnyrch. Y syniad oedd y byddai hyn yn gyrru pobl i’m gwefan ar ei newydd wedd, oedd wedi’i seilio bellach ar ysgogiadau ymddiriedaeth ac egwyddorion marchnata Pete, ac wedi’i dylunio i’w gwneud mor hawdd â phosibl i’m cwsmeriaid brynu rhywbeth.”

Roeddwn i’n benderfynol o ddarganfod y llinyn arian

“Erbyn i’r pandemig daro, roedd gen i egwyl naturiol o dair wythnos o’r gwaith, a defnyddiais honno i edrych o ddifrif ar fy marchnata a’m presenoldeb ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Ro’n i’n gwybod y byddai’r cewri masnachol fel Amazon yn cymryd y rhan helaethaf o’r £5.3 biliwn ychwanegol sydd wedi’i wario hyd yn hyn ar-lein yn ystod COVID, ond roeddwn i’n benderfynol o ddarganfod y llinyn arian a lefelu’r maes chwarae”, medd Cichocki.

“Roedd deall fy nghwsmeriaid, a ble roedden nhw i’w cael, yn allweddol. Mae 90% ohonyn nhw’n byw ar Instagram a thrwy gydol y pandemig roedd ganddyn nhw ethos ‘cefnogwch siopau annibynnol’, felly dyma beth roeddwn i am fanteisio arno.

The WoodenGold workshop.

Wrth ennill dilynwyr ar Instagram ac ennill eu hyder cefais fwy o brynwyr i’m modrwyau

“Dechreuais gyhoeddi fideos ar Instagram ohonof i’n cynhyrchu modrwyau â llaw yn y gweithdy i ennill ymddiriedaeth pobl a’u denu i ddod yn gwsmeriaid. Wedyn negeseuon hyrwyddo am fodrwyau pren yn costio £60-£70, cyn hysbysebu rhai drutach mewn arian neu aur. Ac mi bostiais yn fwy helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r eitemau oedd yn cynnwys gemau gwerthfawr iawn.

“Er bod Instagram yn bwysicach, wnes i ddim anwybyddu Facebook, achos roedd nosweithiau Gwener a phenwythnosau’n adegau hysbysebu effeithiol iawn yn ystod y cyfnod clo pan oedd gan bobl fwy o amser i’w dreulio arno,” atega Cichocki.

Ynghyd â deall ffasiynau tymhorol am bren ac arian yn y gaeaf a modrwyau aur neu fodrwyau priodas/dyweddïo yn yr haf, roedd strategaeth adeiladu hyder prynwyr ac ennill dilynwyr yn bwysig hefyd. Roedd hyn yn arbennig o wir gyda’r nwyddau mwy drudfawr. Cyn prynu’r rhain byddai cwsmeriaid yn treulio amser mawr yn ymchwilio ac yn holi Cichocki.

Mae’r dull yma wedi rhoi bywyd i’r busnes ac yn helpu’n arbennig gyda’r llif arian

Dywed, “Mae’r dull yma’n rhoi bywyd i’r busnes ac yn helpu’n arbennig gyda’r llif arian. Rwy’n gwario £10 yr wythnos i hybu negeseuon organig ac yn ategu hyn gyda hysbysebion treigl o fodrwyau priodas a dyweddïo gwerthfawr i’m cyflwyno ger bron y bobl iawn.”

Mae’n dal i werthu nifer fawr o eitemau drwy Etsy. Ond o’r wefan, am bob chwe neu saith modrwy arian neu aur arferol a werthir ar-lein, bydd un cais am rywbeth arbennig unigryw, fel arfer wedi’i ddylunio o gwmpas gemau sy’n boblogaidd drwy gydol y flwyddyn. Y tu allan i’r cyfnod clo bydd hyn yn golygu bod prynwr lleol yn dod i’r gweithdy, ond mae galwad fideo-gynadledda neu alwad ffôn syml wedi gweithio’n iawn o ystyried yr amgylchiadau presennol.

A family photo.

Gallwch sefyll allan a datblygu sylfaen gwsmeriaid, hyd yn oed mewn amgylchiadau dyrys

Hyd yn oed yn ystod pandemig byd-eang, mae mwy a mwy o gwsmeriaid yn dewis dweud ‘gwnaf’ wrth fodrwyau unigryw Cichocki. “Roedd Nadolig yn wyllt, ac rwy wedi gwerthu fy modrwy ddiemwnt gyntaf. Y neges, am wn i, i unrhyw un sy’n gwrando yw bod arnoch chi angen sianeli gwerthu cyd-ddibynnol sy’n cydgyfeirio at eich gwefan. Dydych chi ddim ond mor effeithiol â’ch marchnata. Ac er na allwch chi gystadlu ag Amazon ac eBay a’u tebyg, gyda’r help iawn gallwch sefyll allan ar y we a datblygu sylfaen gwsmeriaid gynyddol hyd yn oed yn yr amgylchiadau dyrys hyn,” meddai.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen