Mae busnes yn Sir Fynwy sy’n darparu cyrsiau hyfforddi datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon a staff eraill mewn ysgolion cynradd ar draws Cymru bellach mewn sefyllfa i ehangu’r busnes, ar ôl iddo roi’r gorau i ddefnyddio systemau TG traddodiadol, a dechrau defnyddio dyfeisiau digidol cyfredol i wella pa mor gynhyrchiol allai fod. 

Collective Learning's team in front of laptops.

 

Wrth wynebu’r posibilrwydd o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau Ewropeaidd newydd ar gyfer diogelu data (GDPR), sy’n fater pwysig i gwmnïau sy’n gweithio yn y sector addysg, ymunodd Collective Learning â rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau Llywodraeth Cymru. 18 mis yn ddiweddarach, mae’r cwmni wedi llwyddo i ddiogelu data ei gwsmeriaid yn y cwmwl, wedi gwella diogelwch data, ac wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol o fewn y busnes.

 

Sefydlwyd Collective Learning Ltd yn 2010 gan Karen Mills, ymgynghorydd cwricwlwm Cyngor Dinas Casnewydd, a Colette Pitts. Mae'n cynnal tua 100 o gyrsiau hyfforddi a chynadleddau bob blwyddyn, gan ymgysylltu â mwy na 1,400 o gynrychiolwyr. Mae'r busnes yn cynnig cyrsiau sy'n benodol i'r cwricwlwm trwy rwydwaith o hyfforddwyr a phartneriaid arbenigol. Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant mewn meysydd fel technoleg addysgol, sgiliau arweinyddiaeth ac addysgu anghenion arbennig. 

“Roedd ein hymgynghorydd busnes yn wych am egluro'r dechnoleg i ni mewn ffordd roedden ni’n ei deall”

Er mai cydymffurfiaeth GDPR oedd y prif sbardun ar gyfer newid, mae'r busnes wedi gweld sawl mantais ychwanegol o'i fuddsoddiad mewn technoleg ddigidol. Mae'r cwmni wedi ailwampio ei wefan, sydd bellach yn galluogi pobl i archebu ar-lein gyda gallu e-fasnach llawn. Mae hefyd wedi gwella ei farchnata e-bost ac wedi gwella ei ymgysylltiad ar gyfryngau cymdeithasol. Ers dechrau defnyddio'r system TG newydd, mae'r tîm wedi gwneud arbedion amser sylweddol, sydd wedi galluogi cyfarwyddwyr y cwmni i ganolbwyntio ar feysydd fel cynllunio busnes a strategaeth.

The two female business owners of Collective Learning


“Roedd ein hymgynghorydd busnes yn wych am egluro'r dechnoleg i ni mewn ffordd roedden ni’n ei deall” meddai Colette Pitts, cyfarwyddwr Collective Learning. “Eglurodd hi pa ddewisiadau oedd ar gael i ni, a chyflwyno hynny mewn ffordd glir roedden ni’n ei deall. Ar ôl i ni ddylunio cynllun gweithredu TG, rhoddodd hi gyngor penodol i ni a’n cyfeirio at feysydd eraill lle gallwn dderbyn cefnogaeth.”

“Rydym ni’n dechrau dod i ddeall meysydd fel dadansoddi defnydd ar y we ac optimeiddio peiriannau chwilio”

Dros gyfnod o 18 mis, mae Collective Learning wedi newid ei brif systemau TG i G-suite, sef llwyfan meddalwedd rheoli busnes ar y cwmwl Google. Roedd y newid yn sicrhau bod y cwmni'n cydymffurfio â GDPR, a hefyd yn gwneud ei ddiogelwch yn addas ar gyfer y dyfodol, ac yn gwella'r ffordd y gellir rhannu gwybodaeth rhwng y tîm canolog a'i rwydwaith o gynrychiolwyr, hyfforddwyr a phartneriaid.

Er ei bod hi’n cyfaddef bod hyn wedi bod yn “wers” iddynt, mae Colette yn teimlo bod y busnes bellach yn elwa ar ei fuddsoddiad.

“Treuliom lawer o amser yn meddwl am brofiad y defnyddwyr, yn ogystal â gweithredu mesurau diogelwch cadarn, a system rheoli cynnwys sy’n hawdd ei ddefnyddio sy’n ein galluogi i wneud diweddariadau rheolaidd. Rydym yn dechrau dod i ddeall meysydd fel dadansoddi defnydd ar y we ac optimeiddio peiriannau chwilio. Rydym bellach yn gallu rhoi hyfforddiant i aelodau eraill y tîm fel eu bod nhw’n dod yn rhan o’r gwaith hwn hefyd. Mae hyn yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar ddatblygu cyrsiau a deunyddiau newydd, gan gynnwys addysgu cynnwys STEM fel rhan o gwricwlwm cynradd newydd, a rhaglenni sy’n cefnogi iechyd meddwl disgyblion ysgol.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen