Mae cwmni o Wrecsam sy’n helpu i roi bywyd newydd i gŵn a chathod gyda rhaglen cerdyn rhoi arloesol ar gyfer anifeiliaid anwes yn gofyn i’r rhai sy’n caru anifeiliaid i gofrestru eu hanifeiliaid anwes ar y gofrestr rhoi meinweoedd.

Mae’r Veterinary Tissue Bank, sy’n un o ddim ond dau gyfleuster o’r fath, ac mae’r llall yn Unol Daleithiau America, eisoes wedi helpu dros 10,000 o anifeiliaid anwes sydd angen trawsblaniadau meinweoedd ar gyfer llawfeddygaeth orthopedig. Mae hyn yn cynnwys stori ryfeddol Larry’r lurcher, ci annwyl sydd wedi helpu 83 o gŵn eraill ar ôl ei farwolaeth.

Ac mae’r cyfarwyddwr, Dr Peter Myint, a’i dîm wedi creu strategaeth ddigidol i godi ymwybyddiaeth o’r rhaglen rhoi ar gyfer anifeiliaid anwes yn ogystal â rhoi gwybod i filfeddygon y gall y Banc Meinweoedd Milfeddygol ddarparu alo-impiadau esgyrn i ymgymryd â thriniaethau orthopedig hanfodol.

Veterinary Tissue Bank's team.


Meddai: “Rydym yn credu’n gryf yn y gwaith rydym yn ei wneud, a’n her fwyaf yw ein bod yn dîm bychan sy’n gweithio o fewn cyllideb farchnata fechan – ond rydym yn benderfynol o wneud gwahaniaeth mawr.

“Mae cael cynghorydd busnes digidol a oedd fel mentor wedi bod yn help mawr i roi hyder inni i lunio strategaeth ddigidol, gan gynnwys marchnata, ac rydym wedi dechrau gweld ffrwyth y gwaith yn barod.”

“Nid oes gen i gefndir mewn marchnata, felly rydym wedi defnyddio cymorth di-dâl pan fo hynny’n bosibl, ac mae hynny wedi cynnwys mynychu gweithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau a sesiynau un i un dilynol. Mae cael cynghorydd busnes digidol a oedd fel mentor wedi bod yn help mawr i roi hyder inni i lunio strategaeth ddigidol, gan gynnwys marchnata, ac rydym wedi dechrau gweld ffrwyth y gwaith yn barod.

“Rydym wedi gwneud mân newidiadau i’r wefan i’w gwneud yn haws i’w defnyddio ac rydym wedi targedu cyhoeddiadau arbenigol a fforymau ar-lein gan gynnwys grwpiau Facebook i gynnig cynnwys ac i gael ein cyfweld ar gyfer erthyglau. Mae’r cyfuniad hwn wedi cyfrannu at gynyddu nifer yr anifeiliaid anwes sydd wedi cofrestru i gael cardiau rhoi i 400, sydd â’r potensial i helpu cannoedd o filoedd o gŵn a chathod eraill.

“Mae’r storïau rydym yn eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, fel hanes Larry’r lurcher, yn cael llawer o ymateb positif, ac mae’n help i ddangos yr effaith y gall anifeiliaid anwes ei gael ar ôl iddynt ein gadael.”

 

 

Veterinary Tissue Bank contact cards.


Mae gan Dr Myint a’i dîm weledigaeth i gynyddu nifer y rhai sy’n cofrestru fel rhoddwyr yn sylweddol, cynyddu’r cyflenwad impiadau esgyrn, a datblygu ochr y busnes sy’n ymdrin â thriniaethau bôn-gell.

“Mae’r storïau rydym yn eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, fel hanes Larry sydd wedi helpu bron i 100 o gŵn eraill, yn cael llawer o ymateb positif.”

“Hyd yma, dim ond camau bach sydd wedi’u cymryd, ond rydym yn llawn sylweddoli pwysigrwydd cyfryngau digidol,” meddai. “Rydym yn derbyn bod gennym lawer i’w wneud eto: mae cymaint rwyf eisiau ei wneud i fynd â’r busnes ymlaen ac mae digidol yn ganolog i hyn.

“Er enghraifft, rydym eisiau creu gwefan newydd ar gyfer y cynllun rhoi a throi’r banc meinweoedd yn lle i droi ato ar gyfer bancio meinweoedd milfeddygol a’n cynnyrch. Hefyd, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi rhoi arweiniad inni ar fuddiannau systemau CRM a sut i’w gweithredu, felly un o’n tasgau fydd trawsgludo ein data cwsmeriaid i ddatrysiad cwmwl i wneud ein gwaith marchnata’n haws.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen