Mae cwmni peirianneg o dde Cymru yn nofio yn erbyn llif ei ddiwydiant ac yn manteisio ar fanteision technoleg o bell - symudiad sydd wedi arwain at well effeithlonrwydd busnes, lleihau costau a chynllun newydd ar gyfer twf yn y dyfodol.  

 

Mae perchnogion Clearhand Ltd, sy'n arbenigo mewn Dylunio a Dadansoddi Peirianneg, yn amcangyfrif bod defnyddio technoleg cwmwl drwy ei holl weithrediadau, ynghyd â meddalwedd arloesol o'r rhyngrwyd, wedi arwain at arbedion effeithlonrwydd o fwy na 30 y cant. Mae'r cwmni hefyd yn y broses o wella ei bresenoldeb ar-lein a datblygu strategaeth farchnata ddigidol i gynyddu ei gysylltiad â sylfaen fyd-eang o gleientiaid.

 

Picture of 3D Model

 

Mae'r cwmni wedi bod yn masnachu ers mis Ebrill 2014 o Gampws Singleton ym Mhrifysgol Abertawe, ers cael ei sefydlu gan ddau beiriannydd strwythurol mecanyddol. Mae'r cwmni'n darparu cymorth i gleientiaid rhyngwladol ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys awyrofod, moduro, gweithgynhyrchu ac adeiladu - sy’n anghyffredin yn y byd peirianneg, lle mae busnesau wedi ymlynu wrth ddiwydiant penodol yn hanesyddol.

 

Mae newid i'r cwmwl wedi gwneud pethau'n haws

 

“Yn draddodiadol, mae'r diwydiant peirianneg wedi tueddu i osgoi risgiau a bod yn eithaf traddodiadol o ran ei ddulliau gweithredu,” meddai Dr Daryn Taylor, rheolwr gyfarwyddwr Clearhand. “Mae rhai o'n prosiectau ar raddfa fawr yn cynnwys rhannu dogfennau a delweddau rhwng cannoedd o beirianwyr. Mae newid i'r cwmwl wedi symleiddio hyn. Nawr gall pawb weld yr un ddogfen ar yr un pryd, rhannu gwybodaeth a gwneud diweddariadau ar-lein ar unwaith, heb yr angen i argraffu cannoedd o gopïau.”

 

Yn ei rôl flaenorol fel peiriannydd siartredig ym Mhrifysgol Abertawe, sylwodd Dr Taylor ar gyfle i gofleidio technoleg o bell yn y farchnad peirianneg dylunio, gan ddisodli'r rhyngwynebau caledwedd a meddalwedd a oedd yn aml yn gymhleth ac yr oedd llawer o gleientiaid yn eu gweld yn llethol ac yn ddryslyd. Gan ddefnyddio meddalwedd fel rhaglen rhannu ffeiliau Nextcloud a llwyfan dylunio Onshape, ynghyd â meddalwedd ffynhonnell agored (ar y rhyngrwyd) fel Ubuntu a Libre Office, mae Clearhand wedi datblygu ffyrdd newydd o weithio sydd wedi bod yn hyblyg ac yn effeithiol; mae llawer llai o gymudo i gyfarfodydd cleientiaid ac oddi yno, ac mae gweithio yn y cartref yn cael ei optimeiddio.

 

Mae'r cwmni hefyd wedi gallu darparu rhagor o ddiogelwch ar gyfer ei gleientiaid mawr, fel Nestle, wrth i ffeiliau a rennir drwy'r cwmwl gael eu hamgryptio a'u cadw ar ei weinydd, ac y gellir mynd atyn nhw o bell drwy ddefnyddio cyfrineiriau diogel.

 

“Mae'n ffordd llawer gwell a mwy cydgysylltiedig o weithio”

 

“Mae rhannu o bell drwy Nextcloud yn cael gwared ar yr angen i argraffu ffeiliau, ac mae'n ffordd o osgoi diffygion diogelwch posibl. Mae gennym gleientiaid ar draws y Deyrnas Unedig, Ewrop a thu hwnt, ac felly mae modd i ni weithio yn awr ble bynnag rydyn ni drwy rannu dyluniadau a gweld a storio ffeiliau drwy amrywiaeth o lwyfannau, gan gynnwys ffonau symudol a chyfrifiaduron tabled. “Mae'n ffordd llawer gwell a mwy cydgysylltiedig o weithio.”

 

Estynnodd Clearhand ei feddylfryd 'mabwysiadwr cynnar' i'r maes marchnata ar-lein a cheisiodd gymorth allanol gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, gan fynd i weithdai a defnyddio cymorth ymgynghori un-i-un ar optimeiddio peiriannau chwilio a dylunio gwefannau. Mae nifer yr ymwelwyr â’i wefan wedi cynyddu bron i 30 y cant yn barod, ac mae'r cwmni'n ystyried datblygu ei bresenoldeb ar-lein, nid yn unig fel ased swyddogaethol i'r busnes ei hun, ond hefyd fel 'ffenestr siop' i gleientiaid newydd o bob cwr o'r byd.

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen