Mae perchnogion safle glampio moethus yn Ynys Môn sydd wedi arallgyfeirio o ffermio, yn awr wedi ychwanegu eiddo gwyliau Sioraidd at eu portffolio mewn ymateb i alw cynyddol gan gwsmeriaid drwy Facebook.

Cafodd Wonderfully Wild, sydd â llety mewn arddull saffari, archeb am Y Plas fel yr oeddent yn dechrau ar y gwaith o’i adnewyddu, sy’n arwydd o gryfder y brand ers ei lansio yn 2014.

Ac mae’r perchennog Victoria Roberts wedi cyflawni’r twf cyflym hwn diolch i’w defnydd clyfar o hysbysebu ar Facebook i sicrhau diddordeb cyson yn y llety 6 pherson, gan ddisgwyl llwyddiant tebyg i’r Plas, sydd â lle i 14.

 

Wonderfully Wild owner, Victoria Roberts, in a luxury glamping tent.

“Y peth da am hysbysebu ar Facebook yw eich bod yn gallu targedu a chyfyngu ar eich marchnad, sy’n golygu eich bod yn gallu gwario llai a chael mwy o enillion ar eich buddsoddiad.”

Meddai: “Gwnes i a fy ngŵr y penderfyniad i arallgyfeirio o ffermio ac roeddem eisiau gwneud rhywbeth gwahanol â’r tir. Cytunwyd ar glampio a phenderfynwyd ar gynulleidfa bosibl: teuluoedd o Ogledd Cymru, Swydd Gaer a Manceinion Fwyaf.

“Cafodd y pwyslais hwnnw ei adlewyrchu yn ein marchnata, ac mae Facebook yn cyfrif am y rhan fwyaf o’n gwaith hyrwyddo. Y peth da am hysbysebu ar Facebook yw eich bod yn gallu targedu a chyfyngu ar eich marchnad, sy’n golygu eich bod yn gallu gwario llai a chael mwy o enillion ar eich buddsoddiad. Mae rhai o’n canlyniadau gorau wedi dod o ymgyrchoedd lle’r ydym wedi gwario £1 y dydd am 90 diwrnod.

“Daw’r rhan fwyaf o’n harchebion ar ôl hybu post neu gan gwsmeriaid eildro a gysylltodd yn wreiddiol ar ôl ein gweld ar gyfryngau cymdeithasol.”

Mae Wonderfully Wild yn enghraifft dda o fusnes twristiaeth yng Ngogledd Cymru sydd â phresenoldeb amlwg ar gyfryngau cymdeithasol. Yn ôl Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru ar gyfer 2018, mae mwy na phedwar o bob pump BBCh yn y rhanbarth yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl – cyfran uwch nag yn unman arall yng Nghymru. Yn yr un modd, mae 91% o fusnesau yn y sector llety a bwyd yn manteisio ar gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’u hunain i fanteisio ar y twf mewn gwyliau cartref.

Y diwydiant twristiaeth hefyd yw un o’r mwyaf tebygol o fod â gwefan, rhywbeth roedd Wonderfully Wild wedi sylwi arno eisoes. Meddai Victoria: “Rydym wedi buddsoddi mewn gwefan newydd ac wedi gwneud gwaith optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) i helpu i gael ein gwefan yn uwch yn y rhestrau pan fydd pobl yn chwilio. Mae Google wrth eu bodd â fideo - ac mae hynny'r un mor wir am yr ymwelwyr â’n gwefan! Mae gennym fideo 360° sy’n galluogi darpar ymwelwyr i fynd ar daith rithiol o’r llety a gweld eu hunain o flaen y tân yn mwynhau’r golygfeydd ysblennydd o Barc Cenedlaethol Eryri.”

Cyn inni lansio’r wefan newydd, cafwyd help gan Gyflymu Cymru i Fusnesau gan fanteisio ar y cymorth digidol di-dâl oedd yn cael ei gynnig.

“Roeddwn wedi clywed am Gyflymu Cymru i Fusnesau eisoes ac mi oeddwn yn bwriadu cysylltu â hwy pan fyddwn yn barod,” meddai. “Roedd yr arfarniad o’r wefan yn ddefnyddiol iawn, ac mi wnaethom rai newidiadau i’r safle ar unwaith ac rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar y pethau eraill sydd ar y rhestr.”

“Rwyf yn awr yn gweithio fy ffordd drwy’r argymhellion eraill a wnaethpwyd gan Gyflymu Cymru i Fusnesau gan eu bod yn ymdrin â llawer o wahanol agweddau ar y busnes yn ychwanegol at farchnata ac mae’n hanfodol cadw’n gyfoes a pherthnasol.”

“Hefyd mi fues i mewn gweithdy cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn werthfawr am nifer o resymau. Yn gyntaf, roedd yn cadarnhau’r pethau roeddem yn eu gwneud yn iawn, sy’n beth da i roi tawelwch meddwl. Yn ail, mi oedd yn gyfle i rwydweithio â pherchnogion busnesau eraill ac i glywed ganddyn nhw am y pethau sydd wedi gweithio neu ddim, a gallaf fanteisio ar hynny gyda Wonderfully Wild.

“Rwyf yn awr yn gweithio fy ffordd drwy’r argymhellion eraill a wnaethpwyd gan Gyflymu Cymru i Fusnesau gan eu bod yn ymdrin â llawer o wahanol agweddau ar y busnes yn ychwanegol at farchnata ac mae’n hanfodol cadw’n gyfoes a pherthnasol. Er enghraifft, rydym wedi newid ein system archebu i Super Control, sy’n hawdd iawn i’w ddefnyddio ac sy’n galluogi pobl i archebu’n uniongyrchol ar-lein.” Roedd hyn yn amserol, gan fod 2018 wedi gweld cynnydd o 51% yn nifer y busnesau twristiaeth a oedd yn mabwysiadu gwasanaethau archebu ar-lein a chyfarpar digidol eraill i helpu i leddfu’r straen o redeg eu busnes, yn ôl yr Arolwg Aeddfedrwydd Digidol.

 

Wonderfully Wild owner, Victoria Roberts, at a luxury glamping building.

 

Erbyn hyn mae’r addasiadau i’r Plas wedi’u cwblhau, ac mae Victoria am gynyddu nifer yr archebion ar gyfer y safle y tu allan i’r tymor brig.

Meddai: “Rydym yn edrych ar y farchnad encil lles hefyd ac rydym yn gobeithio gallu cynnig gwasanaeth o’r fath erbyn diwedd 2019. Rydym eisoes yn cynnig profiadau sy’n cyfoethogi bywydau fel ioga a thywys alpacas ac rydym yn gobeithio adeiladu ar hyn gydag arosiadau pwrpasol ar gyfer hunan ofal.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen