Mae perchennog newydd siop fara mewn marchnad dan do yn Y Fenni, a orfodwyd i gau am dri mis, yn dweud nad oes ganddo unrhyw amheuaeth fod symud y busnes ar-lein wedi’i arbed yn ystod y pandemig.

“Gyda’r farchnad wedi bod ar gau am dri mis, collais fy nghwsmeriaid, ac felly roeddwn i angen dod o hyd i ffordd arall”

Prynodd Lukasz Kowalski-Davies y busnes ym mis Chwefror, mis yn unig cyn y cyfyngiadau symud. Bu’n cysgodi’r cyn-berchennog, cyn cymryd yr awenau ei hun yn llawn ar 24ain Chwefror ac ailfrandio fel Market Bakery Abergavenny – KD’s Bake House.

Fodd bynnag, pan orfodwyd i’r farchnad dan do gau ym mis Mawrth oherwydd Covid-19, nid oedd gan y siop fara, a oedd yn rhedeg ei busnes ar y safle, unrhyw gwsmeriaid nac incwm.

Dywedodd Lukasz, “Roeddwn i’n ffodus yn y modd fy mod yn gymwys ar gyfer ffyrlo, ac felly o leiaf roedd gennyf i rhywfaint o arian yn dod i mewn, ond cefais dri mis heb unrhyw waith. Yn ystod yr amser yna, meddyliais beth allaf i ei wneud? Sut y gallaf ddatblygu busnes da, sefydledig?"

“Roeddwn i angen ymestyn at y cwsmeriaid ar-lein yn ystod yr amser na allwn i ddarparu gwasanaeth personol”

“Er yn hanesyddol mae gan y farchnad sylfaen gwsmeriaid draddodiadol, roedd wedi dechrau denu pobl ieuengach a oedd yn dymuno siopa yn lleol. Maen nhw’n fwy tebygol i fod ar-lein a sylweddolais os oeddwn i am barhau â’r busnes, roeddwn i angen bod ar-lein hefyd ac ymgysylltu â nhw drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

“Ychydig iawn o wybodaeth ddigidol oedd gennyf, ac felly cysylltais â Cyflymu Cymru i Fusnesau. Mynychais weminar y cyfryngau cymdeithasol a siaradais â chynghorydd busnes, a roddodd gyngor i mi ynglŷn â sut i greu gwefan, rhestriad Google a phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol o’r cychwyn cyntaf, a gwneuthum hyn i gyd pan oeddwn ar ffyrlo. Rhoddodd hyn fantais i mi pan ailagorodd y farchnad yn gynnar ym mis Gorffennaf oherwydd roedd gennyf i archebion a oedd yn barod i fynd.”

Mae’r symudiad i fynd ar-lein wedi helpu i gynyddu’r gwerthiant ac wedi galluogi Lukasz i ddod ag aelodau rhan-amser o’r staff yn ôl o’u cyfnod ffyrlo.

Lukasz of KD's Bakehouse.

 

“Cyn inni weithio gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau ar ddatblygu ein presenoldeb ar-lein, roeddem yn cael ein holl ymholiadau a’n harchebion dros y ffôn, tra ein bod yn awr yn cael o leiaf 30% o’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r nifer hwn yn cynyddu,” eglurodd Lukasz.

Mae hyrwyddo ‘cynnyrch yr wythnos’ yn rheolaidd ar Facebook hefyd wedi cynyddu’r gwerthiant o 20%.

Dywedodd Lukasz, “Yn ystod yr amseroedd anodd hyn, mae llawer o bobl wedi newid eu harferion siopa a’r ffordd y maen nhw’n rhyngweithio gydag eraill. Fel cwmni bychan, rydym yn ceisio symud oddi wrth y ddelwedd hen ffasiwn o stondin farchnad leol drwy fod ar gael am fwy o amser i’n cwsmeriaid – hen a newydd. Mae Facebook yn ein helpu ni i wneud hynny ac mae’n rhoi mwy o gyfleoedd inni gysylltu â chwsmeriaid.

A smartphone showing KD's Bakehouse's Facebook page.

 

“Nid ynglŷn â gwerthu yn unig ar-lein yw hyn inni, ond mae hefyd ynghlwm ag adborth a gwella ein cynnyrch a’n gwasanaethau.”

Mae’r siop fara hefyd wedi bod yn danfon nwyddau i wahanol gartrefi yn ystod yr argyfwng, ac mae Lukasz yn dweud bod hyn wedi cael ei groesawu yn arbennig gan bobl sydd ar y rhestr warchod a’r rhai hynny na allan nhw ymweld â’r farchnad. “Mae’n bwysig inni gefnogi ein cymuned leol, ac felly byddwn ni’n parhau i wneud hynny, cyhyd ag y gallwn. Yn ogystal, mae’n helpu i ychwanegu at ein hincwm tra bod y niferoedd sy’n dod i’r farchnad yn parhau yn isel,” eglurodd Lukasz.

“Rydw i’n edrych tuag at y dyfodol ac yn rhoi fy stamp fy hun ar y busnes”

“Bu’n chwe mis heriol er mwyn ceisio parhau i oroesi oherwydd nad ydych chi’n gwybod beth fydd yn digwydd nesaf. Cyn derbyn cefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, nid oeddwn yn gwybod llawer am dechnoleg ddigidol, ond yn awr mae gen i’r sylfaen i adeiladu’r busnes ar gyfer y dyfodol. Mae wedi rhoi hyder i mi yn y dyfodol yn ogystal â’r sicrwydd fod yr hyn yr ydw i’n ei wneud yn iawn,” meddai Lukasz.

Gellir gweld Market Bakery Abergavenny – KD’s Bake House ym Marchnad Dan Do Y Fenni bob dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen