Mae Kiti, bwtîc ffasiwn hynod annibynnol, wedi cyfnewid ymgyngoriadau yn y siop am ddigwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw i ddod â’r llwyfan ffasiwn i gartrefi cleientiaid, wrth i’r cyfyngiadau symud eu gwthio i fanteisio ar e-fasnach am y tro cyntaf erioed.

Ni wnaiff ffasiwn byth fynd allan o ffasiwn, ond gorfododd y pandemig Kiti i edrych ar ffyrdd newydd o werthu’r labeli na allwch ddod o hyd iddynt yn unman arall yng Nghymru.

Wedi’i sefydlu gan Gwenno Williams, mae’r bwtîc o Bontcanna yn ymddangos yn rheolaidd ar restri “rhaid eu gweld” cylchgronau ffasiwn. Yn fwyaf diweddar, fe’i galwyd yn ‘Inspiring Independent’ gan y cylchgrawn eiconig, Drapers. Ond roedd angen iddynt ddefnyddio eu presenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol a siop ar-lein sydd wedi’i hadeiladu gan Shopify i gael eu gweld ar-lein, ac i rwydo rhywfaint o’r £5.3 biliwn ychwanegol sydd wedi cael ei wario ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud.

Eglura Jane Rowlands o Kiti: “Fe wnaethon ni newid y ffordd roedden ni’n marchnata ein hunain ar-lein. Arferai Instagram ddod â’r rhan fwyaf o’n hymholiadau i ni gan gleientiaid; nawr rydyn ni’n cynnal ffrydiau byw ar-lein ar Instagram i ddal eu llygad hefyd.”

Roedd y cyfuniad hwn o e-fasnach a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw yn eu helpu gyda'r gwerthu hollbwysig hwnnw na allent ei wneud mwyach o’u siop brics a morter. Nid yn unig y gwnaeth eu helpu i ddangos eu ffasiynau diweddaraf i gynulleidfa ehangach o lawer, ond mae hefyd wedi creu model gwerthu hybrid newydd a fydd, fel pob ffasiwn wych, yn goroesi wrth i’r stryd fawr ddechrau agor eto yng Nghymru.

“Os galla i adeiladu gwefan o ddim, ar fwrdd y gegin, gall unrhyw un!”

Gwyddai Gwenno fod angen iddynt ddod o hyd i ffordd newydd o werthu, a throdd Kiti at Shopify i greu gwefan a oedd nid yn unig yn edrych yn dda, ond hefyd yn sicrhau eu bod yn gwerthu.

Dywed Jane: “Roedd yr wythnosau cyntaf yn anodd, ond gyda thiwtorialau ar-lein a help gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, disgynnodd rhywbeth i’w le. Cyn bo hir, roeddwn i’n hedfan drwyddi ac roedd ein cynnyrch ar gael i’w brynu ar-lein. Ac os galla i adeiladu gwefan o ddim, ar fwrdd y gegin, gall unrhyw un!”

Yna, gwnaeth Jane yn siŵr bod y wefan yn cael ei gweld yn y llefydd iawn: peiriannau chwilio. Drwy fireinio eu sgiliau optimeiddio peiriannau chwilio, roedd Kiti yn gallu ymddangos yn uwch i fyny ar Google a denu busnes gan gwsmeriaid sy’n byw ymhellach i ffwrdd.

“Manteision Google yw eich bod yn ymddangos o flaen pobl nad ydynt efallai’n adnabod eich busnes wrth ei enw,” meddai Jane. “Maen nhw’n chwilio am frandiau, felly mae eu diddordeb mewn prynu yno’n barod. Ond rydych chi hefyd yn cystadlu yn erbyn pawb arall yn eich maes.

“Roedd y weminar optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn help enfawr i sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn. Fe gawson ni drosolwg gwych o’r hyn roedd angen i ni ei wybod, ac rydyn ni’n ailedrych ar yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu yn gyson er mwyn dal ati i roi pethau ar waith i gynnal ein presenoldeb ar-lein.”

“Mae llawer o’n traffig ar y we yn dod o Instagram, ond rydyn ni wedi llwyddo i gynyddu’r ymweliadau rydyn ni’n eu cael drwy Google hyd at 37% ac mae llawer o hynny oherwydd y gwaith caled rydyn ni’n ei wneud ar ein SEO. Mae cael eich gweld ar Google yn dod â ffrwd newydd o gwsmeriaid na fyddent efallai wedi dod o hyd i ni o’r blaen.”

Someone wearing a dress from Kiti Boutique.

 

Mae Google Analytics hefyd wedi chwarae rhan enfawr yn y gwaith o lunio strategaeth marchnata cynnwys Kiti. Mae Jane wedi defnyddio data o Google Analytics i deilwra cynnwys y wefan i’r hyn mae pobl yn chwilio amdano, a fydd yn parhau i gynyddu’r tebygolrwydd y bydd Kiti yn ymddangos o dan dermau chwilio perthnasol gan ddenu hyd yn oed mwy o werthiant ar-lein.

“Mae Analytics yn wych oherwydd mae’n dangos o ble mae ein harchebion yn dod, er mwyn i ni allu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am y busnes a beth sy’n digwydd ar ein gwefan.

“Gan ddefnyddio data o Analytics, fe wnaethom hefyd sylwi ar bethau fel pobl yn rhoi pethau yn eu he-fasged, ond wedyn yn gadael y wefan. Mae sylwi ar bethau fel hyn wedi ein helpu i sylweddoli ble gallwn ni wneud mân newidiadau i daith ein cwsmer sy’n ei gwneud hi’n haws prynu.”

“Mae Instagram Live wedi bod yn wych o ran arddangos ein nwyddau a sicrhau ein bod ni’n gwerthu”

Yn ogystal â gweithio’n ddyfal ar eu gwefan, mae Kiti wedi parhau i ddatblygu eu presenoldeb cryf ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio Instagram Livestreams i ddod â ffasiwn i gartrefi pobl, gyda dillad yn cael eu gwerthu wrth iddynt ymddangos ar y sgrin.

Dywed Jane: “Mae pobl yn gwylio cymaint ar-lein y dyddiau hyn, felly roedden ni eisiau manteisio i’r eithaf ar hynny. Mae gennym bresenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol yn barod, diolch i Instagram, felly roedd cynnal digwyddiadau Byw yn ymddangos fel y lle iawn i fod.

“Roedd yn llwyddiant ysgubol! Wrth i’n modelau ddangos y gwisgoedd roedden ni wedi’u rhoi at ei gilydd, roedd pobl wrthi’n prynu. Mae ein cleientiaid wrth eu bodd yn gweld pobl go iawn yn gwisgo’r gwisgoedd, felly mae Instagram Live wedi bod yn ffordd wych o hyrwyddo ein nwyddau a gwerthu tra mae drysau’r bwtîc ar gau.”

“Mae wedi cynyddu fy hyder: nawr rydw i’n rhoi cynnig ar bethau na fyddwn i wedi mentro eu gwneud o’r blaen”

“Roedd y sesiwn un-i-un gyda Catrin yn wych a rhoddodd lawer o hyder i mi. Mae pobl wedi dweud wrthym ers blynyddoedd bod angen i ni fod ar-lein, a nawr dyma ni gyda chynllun ar gyfer y dyfodol i wneud hyd yn oed mwy o werthu ar-lein ac yn y siop. Hyd yn oed pan fydd ein drysau wedi agor, mae ein siop ar-lein yn ffordd arall inni werthu, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at wneud y gorau ohoni a thyfu’r busnes.

“Byddwn yn bendant yn argymell Cyflymu Cymru i Fusnesau i fusnesau eraill. Nid mater o ddysgu’r pethau ymarferol yn unig oedd hyn; mae wedi cynyddu fy hyder, felly nawr rydw i’n rhoi cynnig ar bethau na fyddwn i wedi mentro eu gwneud o’r blaen.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen