Jan Baker, sylfaenydd AromaOils, sy’n sôn am yr heriau wrth ddechrau busnes yn ystod y pandemig a pham mae cysylltu â Cyflymu Cymru i Fusnesau’n un o'r penderfyniadau gorau y mae wedi'u gwneud.

Dechreuoch chi eich busnes aromatherapi ym mis Hydref 2020 yn ystod COVID. Beth wnaeth i chi benderfynu bwrw ymlaen?

Mae'n siŵr mai dechrau busnes cysylltiad agos yn ystod pandemig oedd y peth mwyaf dwl (a dewr) dwi wedi'i wneud erioed! Er hynny, mae'n rhaid i fi ddweud, fy nheulu a roddodd yr hwb i fi fynd amdani, maen nhw wedi bod yn gefn imi drwy’r cyfan.

Mae fy nghefndir i ym myd addysg. O’r blaen, ro’n i’n gweithio fel athro ieithoedd, gan gymudo'n ôl ac ymlaen rhwng Caerffili a Wiltshire, gan ddod adref ar ddydd Gwener, ac yna mynd yn ôl i Wiltshire ar ddydd Llun. Roedd yn dechrau mynd yn faich ac erbyn 2016, roeddwn i wedi cael digon ac wedi symud yn ôl adref i Gaerffili yn barhaol. Fe wnes i ychydig o gyflenwi, ond doeddwn i ddim yn cael mwynhad mawr wrth wneud hynny ac fe roddais i’r gorau i addysgu am byth yn 2019.

Roedd gen i ddiddordeb mewn aromatherapi erioed, ac ro’n i wedi bod yn trin ffrindiau a theulu, gan gynnwys fy ngŵr pan gafodd ddamwain. Dechreuodd fel hobi, ond yna fe ges i flas go iawn arno, ac fe wnaeth fy nheulu awgrymu (neu fy ngwthio!) i ystyried ei droi’n yrfa.

Weithiau mae'n rhaid i chi ddal yn dynn a mynd amdani. Felly fe wnes i! Fe gwblheais i Ddiploma Proffesiynol mewn aromatherapi clinigol, ac rwy'n falch o ddweud mai fi yw'r unig aromatherapydd clinigol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ar hyn o bryd sy'n gymwys i dderbyn atgyfeiriadau gan feddygon teulu.

Jan Baker, owner of Aroma Oils

 

Sut mae COVID wedi effeithio ar y busnes?

Agorodd clinig AromaOils ei ddrysau ar 12 Hydref 2020. Wythnos yn ddiweddarach, gwaetha’r modd, fe'n gorfodwyd i gau yn ystod y ‘cyfnod atal byr' rhwng 17 Hydref – 9 Tachwedd. Doedd hi ddim yn hir ers i ni ailagor am gyfnod cyn gorfod cau eto pan aeth Cymru i gyfnod clo arall ar 20 Rhagfyr a oedd yn ergyd enfawr. Roedden ni’n gallu ailagor ar 12 Ebrill ond yn anffodus, mae'r clinig wedi bod ar gau yn hirach nag y mae wedi bod ar agor, sydd wedi ei gwneud yn anoddach adeiladu momentwm gydag ymweliadau cwsmeriaid.

Roedd y cyfnodau clo’n golygu bod yn rhaid i mi newid cyfeiriad y busnes a'i symud ar-lein, yn llawer cynt nag oeddwn i wedi bwriadu yn ôl y cynllun busnes. Ond gyda'r clinig ar gau, doeddwn i ddim yn gallu cynnal unrhyw sesiynau cysylltiad agos wyneb yn wyneb fel tylino, nac ymgynghoriadau chwaith.

Doedd gwneud dim byd ddim yn opsiwn oherwydd byddai'r busnes wedi mynd i’r gwellt, felly roedd yn rhaid i mi edrych ar yr hyn y gallwn i ei wneud, ac fe benderfynais geisio gwerthu fy nghymysgeddau olew a ‘nghynhyrchion aromatherapi ar-lein a chynnal ymgynghoriadau ar-lein.

Roeddwn i’n ddigon ffodus i fod yn gymwys i gael grant gan Gyngor Caerffili, ac fe ddefnyddiais i hwn i archebu rhywfaint o stoc, a sefydlogodd hyn bethau drwy gael rhywfaint o arian parod yn y banc.

Yr her nesaf oedd sefydlu siop ar-lein a dweud wrth bobl fy mod i ar agor fel busnes ond ar-lein. Roedd gen i rywfaint o gefndir busnes o addysgu NVQ mewn busnes ond doedd gen i ddim profiad na gwybodaeth o sefydlu gwefan na marchnata digidol.

Roedd yn rhaid i fi ddod o hyd i blatfform y gallwn i ei ddefnyddio'n gyflym ac yn hawdd, ac fe ddewisais i Wix gan fod ganddo dempledi yn barod i fynd. Felly, pan aethon ni i mewn i'r 'cyfnod atal byr' defnyddiais i’r amser i greu'r wefan. Fe wnes i’r wefan ar frys a doedd hi ddim yn ddelfrydol gan nad oeddwn i erioed wedi cynllunio gwefan o'r blaen. Roeddwn i'n gwybod bod angen rhywfaint o help allanol arna i gyda marchnata a sicrhau bod fy ngwefan yn addas i'r diben, felly es i i’r rhyngrwyd a dod o hyd i Cyflymu Cymru i Fusnesau wrth chwilio ar Google am awgrymiadau marchnata ar-lein a sut i ddatrys amryw broblemau.

Pa gymorth gawsoch chi gan Cyflymu Cymru i Fusnesau a sut mae wedi bod o fudd i'r busnes?

Fe welais i weminarau marchnata am ddim yn cael eu hysbysebu ar y wefan ac fe gofrestrais i ar unwaith - a dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny!

Roedd y weminar yn ddefnyddiol iawn, ond y cymorth gan Leon fy ymgynghorydd busnes, yn dilyn y weminar sy'n sefyll allan i fi mewn gwirionedd. Helpodd e fi i roi popeth a ddysgais i yn y weminar ar waith ac roedd ei gyngor wedi'i deilwra i’r anghenion penodol oedd gen i. Fe wnaeth Leon fy helpu i roi trefn ar bethau drwy roi blaenoriaethau i fi (dwi wrth fy modd â rhestr!) ar gyfer popeth roedd angen i fi ei wneud i wella fy mhresenoldeb ar-lein a phethau i weithio arnyn nhw ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n weddol fedrus yn dechnolegol ond roedd llawer o bethau y cyfeiriodd Leon fi atyn nhw – ôl-ddolenni a meta-ddisgrifiadau ar fy ngwefan er enghraifft – nad oeddwn i erioed wedi'u hystyried hyd yn oed. Doedd gen i ddim syniad bod cymaint o driciau digidol i'w defnyddio a allai wella fy ngwelededd mewn chwilotwyr a gwneud y busnes yn fwy gweladwy ar-lein, fel hawlio fy lle ar Google a'i gysylltu â ‘nghyfryngau cymdeithasol a ‘ngwefan. Roedd Leon yn stôr o wybodaeth ac fe roddodd gymaint o help i fi. Fe wnaeth gynllun gweithredu busnes i fi yn llawn argymhellion dwi wrthi’n gweithio drwyddyn nhw – mae gen i lawer i'w wneud o hyd! – a gwnaeth adolygiad trylwyr o fy ngwefan. Roeddwn i wrth fy modd pan ddaeth yr adroddiad yn ôl, a doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw gam gwag mawr!

Diolch i Leon rwy'n teimlo'n llawer mwy hyderus yn y byd digidol, mae wedi bod fel mentor. Roedd mynd ar-lein yn golygu fy mod i'n gallu parhau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr pan oedd y clinig ar gau, gan wneud ymgynghoriadau cyfrinachol dros Zoom, a gwerthu cynnyrch drwy fy ngwefan. Dwi wedi bod yn defnyddio Facebook i ennyn diddordeb ac mae fy negeseuon yn cyrraedd 11,000 o bobl ar gyfartaledd ac mae hyn yn helpu i sbarduno gwerthiant. Dwi hyd yn oed wedi anfon cynnyrch allan i Sbaen!

A shelf full of Aroma Oils products

 

Nawr ein bod yn ôl ar agor, rwy'n mynd i barhau i redeg y siop ar-lein ochr yn ochr â'r clinig. Bydd bod ar-lein yn fy helpu i gyrraedd mwy o gwsmeriaid. Rwy'n gobeithio, os bydd yn mynd yn ddigon prysur, y galla i gyflogi rhywun yn yr ardal leol i redeg ochr e-farchnata’r busnes i fi.

Mae gwir angen y gwasanaeth yma ar bobl, does neb arall yn gwneud hyn yn yr ardal. Gall aromatherapi fod mor fuddiol ar gyfer gwella lles meddyliol, nid dim ond lles corfforol. Mae yna astudiaeth barhaus yn y DU gan y Sefydliad Iechyd Meddwl sydd wedi canfod bod llawer o bobl yn dioddef problemau iechyd meddwl yn sgil COVID-19.

Yn wir, fy nghymysgedd gofal tyner ar gyfer gorbryder yw'r un rwy'n ei greu fwyaf. Ers y Nadolig dwi wedi bod yn trin tua 30 o bobl ar gyfer cyflyrau sy'n gysylltiedig â straen ac rwy'n disgwyl i'r nifer yma dyfu, yn enwedig pan fydda i’n dechrau derbyn atgyfeiriadau gan feddygon teulu.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i berchnogion busnes eraill sy'n chwilio am ychydig o help ychwanegol?

Does dim pwynt bod yn adweithiol, mae'n rhaid i chi fod yn rhagweithiol a manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael. Dwi bob amser wedi gwrando’n astud ar unrhyw ddarn o gyngor sy’n dod i fy rhan i. Ac mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi creu argraff fawr arna i, mae'r gweminarau a'r cyngor un-i-un wedi bod mor ddefnyddiol, ac mae'n rhad ac am ddim!

Mae Leon wedi bod yn wych; mae wedi rhoi sicrwydd i fi bod yr hyn rwy'n ei wneud yn iawn yn ogystal â map ffordd ar gyfer y dyfodol. Ac os bydda i mewn picil mawr o gwbl, rwy’n gwybod y galla i fynd yn ôl ato am gyngor.

Weithiau, y pethau bach sy’n cyfri. Er enghraifft, pan oedd y clinig ar gau, doeddwn i ddim eisiau talu am rentu llinell rhyngrwyd, felly fe ddefnyddiais i lwybrydd symudol. Ro’n i'n cael problemau cysylltu gyda'r llwybrydd a doedd gen i ddim mynediad i'r rhyngrwyd. Soniais i am hyn wrth Leon, ac fe anfonodd gyfarwyddiadau ata i ar sut i'w drwsio. Galla i nawr gysylltu fy ngliniadur â fy llwybrydd symudol a gweithio o fy safle. Mae wedi arbed llwyth o amser imi ac mae'n golygu nad oes rhaid imi barhau i redeg yn ôl adref i weithio – a phan fo tŷ llawn ganddoch chi, dyw hi ddim yn hawdd gweithio bob amser!

At ei gilydd, byddwn i'n dweud mai cysylltu â Cyflymu Cymru i Fusnesau oedd un o'r pethau gorau dwi wedi'u gwneud. Dwi mor ddiolchgar i Leon am ei gyngor a'i gefnogaeth. Chefais i ddim cyfle mewn gwirionedd i ddatblygu busnes fy nghlinig o gwbl pan agorais i oherwydd i ni fynd yn syth i mewn i’r cyfnod clo, felly bydd yn sicr yn teimlo fel dechrau o'r dechrau eto. Wna i ddim gwadu ei fod wedi bod yn anodd. Ond mae gen i'r offer digidol a'r wybodaeth i fy helpu i erbyn hyn, ac mae hyn wir yn lleihau’r baich o ran jyglo'r clinig gyda'r busnes ar-lein ac mae’n rhoi hyder i fi wrth edrych at y dyfodol.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen