A lightbulb moment.Fflach bwlb golau. Dyna ddisgrifiad cydberchennog My Valley o’r arweiniad a’r cyngor a ddarparwyd gan Gyflymu Cymru i Fusnesau. 

Wayne and Tim standing in front of their My Valley business name on an industrial estate

 

O agweddau fel cynllun marchnata manwl ar gyfer y flwyddyn i ddylunio gwefan a defnyddio Google AdWords, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau a’r cynghorydd, Ian Dunkerley, wedi cael effaith gadarnhaol, nid lleiaf 15 y cant o gynnydd yn nifer y busnesau sy’n gwerthu trwy My Valley Limited – sef siop un stop ecogyfeillgar, ar-lein ar gyfer nwyddau cynaliadwy, moesegol, fegan, naturiol ac organig. 

 “Mae ei ddweud yn uchel nawr yn swnio braidd yn or-syml, ond cynllun cyffredinol ar gyfer y flwyddyn i ddod oedd un o’r eitemau y gofynnodd Ian i ni ei wneud. Daethom at ein gilydd ym mis Ionawr a chynllunio ein strategaeth farchnata o gwmpas dyddiadau allweddol fel Sul y Mamau, Sul y Tadau a Dydd Sant Ffolant,” meddai Wayne. 

Hefyd, lansiwyd siop ar Ystâd Ddiwydiannol Aberaman, cam a oedd yn “gam nesaf naturiol” yn sgil ychydig o anogaeth gan Gyflymu Cymru i Fusnesau ac Ian.

Mae gan Wayne a’r cydberchennog, Tim Mealing, ddigon o synnwyr busnes, ill dau â chefndir mewn gwerthu a logisteg, ond yn achos My Valley, roedd angen arweiniad ar y ddau ar sut i gynyddu nifer y cwsmeriaid, cynyddu gwerthiannau a gwella marchnata digidol. 

“A fyddem ni wedi gwneud hynny heb Gyflymu Cymru i Fusnesau? Na fyddem, mae’n siŵr. Fflach bwlb golau ydoedd.”

Syml, ond effeithiol. Ac roedd Cyflymu Cymru i Fusnesau ac Ian yn llawn cynghorion allweddol eraill ar gyfer My Valley, a lansiodd ym mis Ebrill 2021 ar ôl rhyw chwe mis o gynllunio. 

Roedd Wayne wedi archwilio beth y gallai ei wneud o safbwynt busnes i helpu’r amgylchedd ond roedd y costau cysylltiedig wedi ei ddigalonni. Dim ond pan gyfarfu â Tim y penderfynodd y ddau sefydlu marchnadfa i bobl debyg, a oedd yn awyddus i brynu a gwerthu nwyddau ecogyfeillgar am bris rhesymol.  

 

Tim sitting at the counter in the My Valley shop looking at a male customer in a blue hoodie

 

Yr hyn sy’n allweddol i gynllun busnes My Valley Limited yw nad oes ffioedd rhestru, gan olygu eich bod yn talu comisiwn rhesymol dim ond os yw eich nwyddau yn gwerthu, felly bach iawn o risg sydd ynghlwm. 

O ran y gwelliannau penodol a awgrymodd Cyflymu Cymru i Fusnesau, esboniodd Wayne: “Edrychom ar bopeth o’n strategaeth farchnata fewnol i Google AdWords – sydd wedi codi ymwybyddiaeth o’r brand a chynyddu gwerthiannau ar-lein – optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) a gwelliannau i’r wefan. 

“Hefyd, fe wnaethom integreiddio ein marchnata drwy’r e-bost â’r wefan trwy ychwanegu botwm ‘galwad i weithredu’ i annog pobl i ymuno. Rydym wedi gweld y canlyniadau yn syth, gyda naid yn nifer y tanysgrifwyr i ryw 100.  

“Mae cynnwys a fformatio’r cylchlythyr wedi gwella hefyd a dyna awgrym arall a gawsom. Mae golwg fwy croyw ar y cylchlythyr erbyn hyn ac mae’n arddangos beth rydym ni’n ei wneud fel cwmni yn well o lawer. Mae’r bobl sy’n ei gael wedi ymddiddori’n fwy o ran clicio drwodd i’r wefan.  

“Hefyd, amlygwyd i ni’n gyflym fod angen i faint y lluniau ar ein gwefan fod yn gywir a bod angen disgrifiadau a phenawdau ar y lluniau hynny, er mwyn peidio â difetha profiad y defnyddiwr. 

“Yn aml, roedd gwahaniaeth rhyngom ynghylch sut i hyrwyddo’r busnes, ond trwy weithio gyda Chyflymu Cymru i Fusnesau, daeth yn amlwg iawn fod angen i ni ei gwneud hi’n glir bod pobl yn gallu prynu a gwerthu ar y wefan.  

“Hefyd, nid oedd gennym fotwm ‘Sell on My Valley’ ar frig yr hafan dudalen. Roedd pobl yn gorfod sgrolio i’r gwaelod cyn y byddent yn ei weld. 

“Mae ei wneud yn fwy hygyrch wedi helpu, yn sicr. Mae tuag 20 o fusnesau gennym ar y safle ac mae rhyw 15 y cant wedi cyrraedd ers gwneud y newidiadau. 

“Rydym yn newid ein hallweddeiriau yn rheolaidd i helpu gydag SEO ac mae hynny, ar y cyd â’r gwelliannau i’r wefan ac esblygiad y cylchlythyr, wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr.”  

laptop open with the My Valley website up on screen and the business sign and clothes rail in the background

 

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Wayne yn gobeithio cael cymorth pellach drwy offer mesur i helpu i sbarduno’r gweithgarwch marchnata fwy fyth. 

Ychwanegodd: “Byddwn yn mynd ati i ddefnyddio Google Analytics yn fwy i’n helpu i ddilyn trywydd ymwelwyr, sylwi ar gynnydd a gallu treiddio i’r data er mwyn helpu i lywio gweithgarwch yn y dyfodol.” 

Mae cyngor Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi galluogi My Valley i ffynnu, ynghyd â galluogi Wayne a Tim i gynnig eu cymorth eu hunain ac ystyried ehangu’u hymerodraeth. 

“Hefyd, rydym yn cynnig cymorth i bobl eraill a’u busnes – gan gynnwys un sy’n mewnforio nwyddau o Nepal – ac mae hynny’n fuddiol iawn. 

“Mae effaith arweiniad Cyflymu Cymru i Fusnesau megis ton. Er mai’r prif nod oedd helpu ein brand i dyfu, dim ond cadarnhaol yw hi os yw eraill yn elwa hefyd.” 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen