Hannah a Selena Booth – tîm o fam a merch – sy’n rhedeg canolfan Magnolia Health and Wellbeing, ac maen nhw wedi manteisio ar dechnegau digidol a chyfryngau cymdeithasol i dyfu eu busnes yn ystod y flwyddyn gyntaf. A hwythau heb redeg busnes erioed o’r blaen, fe wnaethon nhw gysylltu â Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael gwybod sut gallai technegau digidol eu helpu i ganolbwyntio ar gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau lles i gleientiaid.

Mae Magnolia yn ganolfan iechyd a llesiant yng nghanol Castell-nedd. Lansiwyd y busnes gan Hannah a Selena Booth, mam a merch, ym mis Mai 2018. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o therapïau cyfannol gan gynnwys adweitheg, Reiki, aciwbigo a ffisiotherapi. Mae'r ganolfan hefyd yn cynnig cymorth llesiant gan gynnwys cwnsela, ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod.

Ar ôl adfer yr adeilad Fictoraidd, ac er nad oedden nhw wedi rhedeg busnes erioed o'r blaen, chwiliodd Hannah am gymorth i'w helpu i lwyddo. Darparodd Cyflymu Cymru i Fusnesau arweiniad digidol i ddechrau ar ffurf gweithdy a chymorth arbenigol un i un gan ymgynghorwyr busnes, Paul a Scott.

Fe wnaethon nhw gynghori ar nifer o wahanol dechnolegau, gan gynnwys systemau cyfrifyddu ar-lein a gwneud y defnydd gorau posibl o beiriannau chwilio. Mae'r optimeiddio hwn wedi sicrhau bod Magnolia yn ymddangos ar dudalen gyntaf Google, ac mae hynny wedi cael effaith gadarnhaol ar fusnes.

Mae Facebook wedi bod yn llwyfan marchnata digidol gwych i Hannah hyrwyddo'r ganolfan ar-lein. Mae gwariant misol cymedrol ar hysbysebu digidol yn aml yn arwain at 30 neu 40 archeb i Magnolia a'i dîm o 20 o therapyddion hunangyflogedig. Mae'r therapyddion hefyd wedi elwa ar gymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau, sydd wedyn yn rhoi ymagwedd gydlynol iawn at hyrwyddo'r busnes ar Gyfryngau Cymdeithasol.

Gall cleientiaid archebu ar unrhyw adeg o'r dydd ar-lein diolch i ymdrechion Hannah i lunio gwefan addas at y diben yn bersonol gan ddefnyddio lluniwr gwefannau Wix. Ochr yn ochr â'r holl dechnolegau eraill maen nhw wedi eu defnyddio, mae Magnolia wedi llwyddo i ryddhau amser, y gallan nhw ei dreulio'n well yn canolbwyntio ar dyfu'r busnes.

Ar ôl gweld bod y cymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn allweddol i dwf yn eu blwyddyn gyntaf, mae gan Magnolia lawer o gynlluniau cyffrous ar y gweill yn awr wrth iddyn nhw geisio darparu eu gwasanaethau i fwy a mwy o bobl yn y dyfodol.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen