Dysgwch sut wnaeth fferm organic, Stad Rhug, ddefnyddio band eang cyflym iawn i symleiddio cyfathrebu mewnol, gwella gwasanaeth i gwsmeriaid a thyfu’r busnes miliwn o bunnau.
 

Mae Rhug Estate yn fusnes organig sydd wedi tyfu i fod yn fusnes amrywiol iawn, ers ei sefydlu ym 1998.

 

Mae'r busnes yn ymwneud â manwerthu, llenwi a chynhyrchu ynni gwyrdd. Hefyd, mae gan Rhug Estate siop ar y safle gyda bwyty bistro a bwyty ‘bachu a mynd’.

 

Ers 1998 mae'r busnes wedi ehangu'n sylweddol. O gyflogi 9 o bobl yn unig pan ddechreuodd, mae'r busnes bellach yn cyflogi 115 o bobl. 

 

Mae'r ystâd, sydd wedi'i leoli yng Nghorwen, yn gyfanswm o 12 a hanner mil o erwau. Mae hanner y tir hwn dan rent, gydag ychydig dros 6 mil o erwau’n cael eu ffermio mewn llaw.

 

Fe wnaeth Rhug Estate gwrdd ag anawsterau wrth wynebu cyflymderau band eang araf. Ni allent barhau i dyfu heb y cyflymderau cyflym iawn y mae bellach yn ei brofi.

 

Mae gwell cysylltedd a mynediad cyflym ar-lein wedi caniatáu Rhug Estate i roi nifer o dechnolegau digidol ar waith i wella prosesau allweddol busnes bob dydd – megis cwblhau'r Cais Taliad Sengl i Ffermydd a chael mynediad at grantiau amrywiol ar eu systemau electronig.

 

Gan weithio gyda chyflenwr lleol, mae Rhug wedi mabwysiadu system Protocol Llais dros y Rhyngrwyd sydd wedi gwella'r cysylltedd rhwng y siop ar y safle a'r adran gyfanwerthu, ond hefyd wedi arbed costau sylweddol. Ar ôl 12 mis yn unig, bydd yr ystâd yn gweld arbedion o tua phedair mil o bunnoedd y flwyddyn.

 

Golyga cannoedd o werthiannau’r dydd bod angen system ar y busnes sy'n gyflym, dibynadwy ac effeithlon o ran rheoli eu taliadau.

 

Un o'r technolegau digidol allweddol sydd ar waith yn Rhug Estate yw eu system gwerthu a chip a pin. Defnyddir y system hon ar draws pob rhan o'r busnes, gan gynnwys y siopau, y bwyty a'r bwyd i fynd.

 

Mae'r busnes hefyd yn defnyddio wifi mewnol ar gyfer eu system archebu gan ddefnyddio iPad. Yn hytrach na dibynnu ar bapur, mae Bistro Rhug Estate yn cofnodi eu holl archebion ar iPads, sy'n anfon y wybodaeth yn uniongyrchol i'r gegin fel bod modd gweini cwsmeriaid yn gyflymach.

 

Golyga'r cysylltiad band eang cyflym y gall Rhug Estate ffrydio cerddoriaeth ar draws y bwyty, y siop a'r ardaloedd allannol. Mae hyn yn galluogi'r busnes i greu awyrgylch ar draws y busnes o ddydd i nos.

 

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn hynod bwysig i'r busnes. Mae Rhug Estate yn defnyddio Twitter, Facebook ac Instagram fel ei brif arf marchnata, gadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid newydd a rhai presennol, trwy bostio nifer o luniau, fideos a phostiadau bob dydd.

 

Mae twf Rhug Estate yn elfen y mae'r perchennog, yr Arglwydd Newborough, yn falch iawn ohonno. Heddiw, mae'r busnes yn ennill ychydig dros wyth miliwn a hanner y flwyddyn ac yn allforio ar draws y byd.

 

Mae Rhug Estate, sy’n frwd dros ymgyfarwyddo â’r datblygiadau diweddaraf o ran technoleg ddigidol, yn gweld sefydlogrwydd arianol yn ei ddyfodol ond hefyd twf parhaus. 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen