Pan benderfynodd Sean Carr sefydlu ei fusnes ei hun yn 2012 ar ôl 20 mlynedd yn y sector adeiladu, roedd ganddo’r wybodaeth dechnegol a’r cysylltiadau, ond heb gymorth swyddfa gefn sefydliad mwy, roedd yn gwybod bod angen i’w fusnes fod yn broffesiynol ond yn hyblyg.

 

Sefydlodd Sean Carr Lining Technology Limited - busnes sy’n arbenigo mewn cyflenwi a gosod leinin geo-synthetig, mewn safleoedd tirlenwi mawr yn bennaf, er mwyn sicrhau nad yw’r gwastraff wedi’i heintio’n llifo i gyflenwadau dŵr lleol. Mae’r cwmni’n targedu sectorau eraill hefyd, yn gosod leinin pyllau a lagwnau i ffermwyr, yn ogystal â leinin arbenigol ar gyfer cronfeydd dŵr a chadw treuliad anaerobig.

 

Mae gan y busnes dîm craidd o weithwyr, a’r hyblygrwydd i gyflogi gweithwyr ychwanegol os bydd angen. Roedd angen i’r tîm craidd allu gweithio o bell gyda mynediad i wybodaeth a rennir, felly trodd Carr at dechnoleg cwmwl, a chynnyrch fel Microsoft Office 365 a OneDrive, er mwyn helpu’r busnes i weithredu’n effeithlon wrth reoli swyddogaethau gwerthu, cyfrifyddu, rhestrau stoc a phrynu.  

 

Construction site


Yn awr, mae dogfennau’n cael eu storio a’u defnyddio’n ddiogel ar-lein

 

Trwy ddefnyddio Office 365, mae’r busnes wedi datblygu ateb TG syml ond effeithlon sy’n galluogi’r tîm i ddiweddaru dogfennau byw ar-lein, yn hytrach nag anfon sawl fersiwn dros e-bost. Mae OneDrive yn darparu digon o le i storio’r holl ffeiliau perthnasol, a phan gyflwynwyd deddfwriaeth newydd yn ddiweddar, ynghyd â system achredu newydd ar gyfer y diwydiant, helpodd i sicrhau bod y busnes yn cydymffurfio’n llawn. Yn ôl y rheoliadau newydd, roedd angen cadw cofnodion swyddi dyddiol mewn lleoliad diogel, ynghyd â mwy o ddata cyfrinachol ar brosiectau wedi’u cwblhau.

 

“Mae cyfran fawr o’n busnes yn parhau i ddod o lafar gwlad ac atgyfeiriadau, ond mae angen i ni gyflwyno llawer o ddogfennau tendro,” esboniodd y rheolwr datblygu busnes, Jody Beedie. “Er ein bod ni wedi llwyddo i adeiladu enw da yn y diwydiant, mae angen i ni barhau i ddangos ein bod yn fusnes cynaliadwy, gyda phrosesau trylwyr ar gyfer diogelwch data a pharhad busnes.”

 

Bydd marchnata ar-lein yn helpu’r busnes i dyfu yn y dyfodol

 

Bellach, mae mwy o bwyslais ar farchnata ar-lein wrth i’r cwmni ymchwilio i ffyrdd newydd o dyfu ei restr cwsmeriaid ac archwilio marchnadoedd newydd. Mae archebion uniongyrchol gan gwsmeriaid ar gyfer prosiectau llai yn ychwanegu at raglen gyson o waith gosod mwy ar gyfer contractwyr mawr. Mae mabwysiadu technoleg y cwmwl wedi helpu’r busnes i fasnachu’n rhyngwladol hefyd, ac rydym wedi cwblhau prosiectau yn yr Iseldiroedd a Gweriniaeth Iwerddon, yn ogystal â sicrhau comisiwn ar y Traeth Ifori yn ddiweddar.

 

Un datblygiad diweddar i’r cwmni yw cael ei ddewis fel gosodwr cymeradwy ar gyfer cynnyrch cyffrous newydd. Wedi’i weithgynhyrchu yn ne Cymru, mae Concrete Canvas yn ddefnydd hyblyg wedi’i lenwi â choncrit sy’n caledu ar ôl ei wlychu er mwyn creu haen goncrit denau, hirbarhaol sy’n gwrthsefyll dŵr a thân, y gellir ei ddefnyddio er mwyn creu unrhyw beth o leinin sianel i adeiladau dros dro.

 

“Mae’r wefan yn dod yn adnodd mwy pwysig i ni fel busnes, o ran darparu gwybodaeth gynhwysfawr i gwsmeriaid sydd wedi cael eu hatgyfeirio atom, ond hefyd er mwyn denu cwsmeriaid newydd o wahanol sectorau,” ychwanegodd Ms Beedie. “Mae ffocws parhaus ar sicrhau bod ein safle ar beiriannau chwilio yn gyson uchel, a bod y cynnwys ar ein gwefan wedi’i ddiweddaru ac yn weledol ddeniadol. Mae’r rhain yn feysydd yr ydym wedi’u trafod gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau ynghylch y cymorth sydd ar gael er mwyn datblygu ein gallu marchnata ar-lein ymhellach, a chynorthwyo’r busnes yn ei gam twf nesaf.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen