Mae tŷ mwg ym mherfedd Cymru wedi gwerthu cynnyrch i fwy na 70 gwlad, diolch i ddigidol.

Gwnaeth y cwmni arobryn Black Mountains Smokery dderbyn pedair gwaith yr archebion ar-lein mewn diweddglo prysur i 2019. Maen nhw wedi gwneud y gorau o ddigidol drwy osod system teleffoni VoIP a meddalwedd ariannu i ofalu am y swyddfa gefn, wrth gysylltu â chwsmeriaid newydd ledled y byd drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae marchnata e-bost sy’n hyrwyddo cynigion arbennig a chynhyrchion newydd yn cadw cwsmeriaid presennol yn gynnes.

Darganfyddwch sut mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi helpu’r cwmni bwyd crefft teuluol hwn i achub y blaen ar ei gystadleuwyr.

 

 

Sefydlwyd Black Mountains Smokery ym 1996 gan Jo and Jonathan Carthew, ac mae’n fusnes sy’n cynhyrchu bwydydd mwg crefftwrol wedi’i leoli yng Nghrucywel. Maent hefyd yn gwerthu basgedi wedi’u llenwi â chynnyrch o Gymru.

Ym mhrofiad y cwmni hwn, mae technoleg ddigidol wedi ei alluogi i gyrchu marchnad sy’n llawer fwy. Yn 2019, er enghraifft, derbyniodd archebion ar-lein o fwy na 70 o wledydd.

Er mwyn cael cyngor yn y maes hwn, aeth y ddau i weithdy gan Gyflymu Cymru i Fusnesau a chawsant sesiwn 1:1 gydag ymgynghorydd busnes i helpu i wneud yn siŵr eu bod yn manteisio i’r eithaf ar ddulliau digidol.

Bellach, maent yn defnyddio llwyfan e-byst marchnata Constant Contact i anfon cylchlythyr misol sy’n amlygu’r cynnyrch newydd a’r cynigion arbennig. Maent hefyd yn cadw mewn cysylltiad ac yn ehangu eu cynulleidfa drwy’r cyfryngau cymdeithasol, sy’n helpu i ddenu ymwelwyr i’w gwefan.

Helpodd newid i system ffôn Voice Over IP iddynt arbed arian wrth gyfathrebu a rhoi hyblygrwydd iddyn nhw, drwy weithio gartref er enghraifft.

Maent yn ymdrin â’u cyllid yn effeithiol drwy ddefnyddio system gyfrifyddu ar-lein.

Mae croesawu mabwysiadau technoleg ddigidol wedi helpu Black Mountains Smokery i gynyddu gwerthiannau. Cafwyd 425 o archebion ar eu gwefan e-fasnach gyntaf, a lansiwyd yn 2005, cyn y Nadolig. Yn 2019, cafwyd 1,900.

O ganlyniad i’w profiad nhw, mae Black Mountains Smokery yn argymell busnesau eraill i gysylltu â Chyflymu Cymru i Fusnesau i’w helpu i wneud y mwyaf o ddulliau digidol i’w busnesau nhw hefyd.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen