Mae undeb credyd o Gymru wedi addasu’n gyflym i ffordd newydd o weithio yn ystod pandemig Covid-19, gan ei helpu i brosesu ceisiadau am gredyd yn hanner yr amser, a darparu ‘benthyciadau cyfnod clo’ i’r rhai hynny oedd eu hangen fwyaf.
Trwy feddwl mewn ffordd ddigidol ac uwchraddio ei phlatfform i asesu ceisiadau am fenthyciadau, mae Undeb Credyd Smart Money Cymru wedi haneru’r amser a gymer i asesu benthyciadau, gan ei helpu i gael yr arian i mewn i gyfrifon yr aelodau o fewn 24 awr. Llwyddodd hefyd i newid er mwyn gweithio o bell, a’r budd i gynhyrchiant yn sgil hynny yn gwneud iddi ymddangos fel pe bai gan y staff bâr arall o ddwylo.
Mae Smart Money Cymru wedi bod yn cynnig benthyciadau moesegol i drigolion Caerffili a Blaenau Gwent ers 30 mlynedd. Drwy roi’r cwsmer yn gyntaf, tyfodd mewn modd cynaliadwy a chamu i’r bwlch a adawyd pan gaewyd canghennau’r banciau, gan sicrhau fod cymunedau De Ddwyrain Cymru yn parhau i allu manteisio ar gredyd fforddiadwy.
Er mwyn cefnogi eu 6,000+ o aelodau yn ystod y pandemig, aeth Smart Money Cymru yn ddigidol i lansio ‘benthyciad cyfnod clo’ i’r aelodau presennol er mwyn eu helpu i dalu am hanfodion bob dydd a lleihau eu pryderon am arian.
“Mae wedi rhoi hwb mawr i’r busnes”
Er mwyn helpu staff i brosesu ceisiadau am fenthyciadau yn gyflymach, mae Smart Money Cymru wedi rhoi platfform gwerthuso credyd awtomataidd ar waith, sef Lace Curtains. Unwaith yr oedd y feddalwedd wedi’i ffurfweddu i wneud y penderfyniadau benthyca allweddol ar gyfer staff, hanerwyd yr amseroedd asesu, ac yr oedd cymeradwyo ceisiadau’n gynt yn golygu y gallai’r undeb drosglwyddo’r arian i gyfrifon yr aelodau’n gynt: rhywbeth a roddai ryddhad mewn cyfnod o ansicrwydd.
“Mae wedi rhoi hwb mawr i’r busnes,” esboniodd Mark White, y Prif Swyddog Gweithredol. “Mae popeth yn electronig ac felly rydym wedi lleihau ein gwaith papur. Y peth hollbwysig yw bod ceisiadau’n cael eu prosesu cymaint yn gyflymach: weithiau, gallwn roi ateb mewn 5 munud.”
“Mae Covid-19 wedi ein gorfodi i newid y ffordd yr oeddem yn gweithio”
A hwythau eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ailwampio’r ochr ddigidol cyn i’r pandemig daro, trodd Smart Money Cymru at Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael adolygiad gwrthrychol o’u cynlluniau.
Esboniodd Mark: “Efallai i ni fod ar ei hôl hi braidd o ran y dechnoleg newydd dros yr ychydig flynyddoedd a aeth heibio. Ond mae Covid-19 wedi ein gorfodi i newid y ffordd yr oeddem yn gweithio.”
Ychwanegodd Geraint Jones, yr Is Gadeirydd: “Roeddem wedi llunio rhestr o feysydd i ganolbwyntio arnynt, ond yr oedd yn fantais enfawr cael cyngor di-duedd gan ein cynghorydd busnes digidol, Cath Padfield. Roedd ein sesiwn 1:1 wedi dwyn sylw at feysydd newydd lle gallem wella prosesau. Hefyd, cawsom yr hyder i fwrw ymlaen gyda’r pethau yr oeddem eisoes wedi’u nodi ar gyfer gwneud newidiadau iddynt.”
Gyda Llywodraeth Cymru’n annog cwmnïau i weithio gartref os yn bosib, dechreuodd Smart Money Cymru trwy fuddsoddi mewn gliniaduron newydd. Roedd hyn yn caniatáu i staff weithio o bell a darparu’r un gwasanaeth i gwsmeriaid ag y byddent yn ei wneud yn y swyddfa.
Mae cynadleddau fideo wedi caniatáu iddynt gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn ffordd ddiogel o ran Covid, ac i barhau i weithio trwy ganolbwyntio ar y cleient, rhywbeth sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr iawn.
“Mae defnyddio technoleg ddigidol i weithio mewn ffordd wahanol wedi dangos ffordd well i ni o reoli ein staff a’r busnes”
“Cyn y cyfnod clo, efallai y byddem wedi dweud nad oedd hi’n bosib gweithio gartref,” meddai Mark. “Ond mae hyn wedi profi i ni ei bod yn bosib gwneud hynny. Mae defnyddio technoleg ddigidol i weithio mewn ffordd wahanol wedi dangos ffordd well i ni o reoli ein staff a’r busnes.”
Mae’r defnydd a wneir o’r dechnoleg wedi cynyddu ac, erbyn hyn, mae’n chwarae rhan hanfodol yng ngweithrediad y busnes. Mae’r diweddariadau i’r caledwedd a’r symudiad tuag at weithio gartref wedi arwain at fwy o gynhyrchiant, gyda’r tîm yn gallu cwblhau 50% yn fwy o waith yn ystod yr wythnos.
Mae’r trawsnewidiad hwn hefyd wedi rhoi cyfle i Mark, ac i aelodau eraill y bwrdd, gymryd cam yn ôl o’r gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd a chanolbwyntio ar newid y busnes er gwell. “Mae’r dechnoleg wedi gwneud pethau’n rhatach ac yn haws. Os ydym am ddod allan o’r pandemig hwn yn gryfach ac yn fwy ffit, rydym angen y dechnoleg ar ein hochr.”
A chyda’r dechnoleg ddigidol hon ar waith, mae Smart Money Cymru yn ffyddiog am y dyfodol. Mae eu cynlluniau’n cynnwys integreiddio rhwng systemau er mwyn gwneud pethau’n fwy effeithlon fyth a strategaeth farchnata ddigidol newydd i gyrraedd cynulleidfa newydd nad ydyn nhw, o bosib, wedi defnyddio undeb credyd erioed o’r blaen.
“Mae ein defnydd o’r dechnoleg ddigidol yn dod yn fwy ac yn fwy soffistigedig”
“Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu cysylltu system VOIP gyda’n system CRM,” meddai Mark. “Mae hynny’n golygu, pan fo cwsmer yn galw, y bydd eu cofnodion yn dod i’r golwg ar unwaith. Bydd hyn yn hwyluso pethau’n fawr iawn i’n tîm ac, yr un mor bwysig, gallwn gadw ein dull personol o weithio gyda chwsmeriaid a rhoi tawelwch meddwl iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
I gloi, dywedodd Mark: “mae ein defnydd o’r dechnoleg ddigidol yn dod yn fwy ac yn fwy soffistigedig. Diolch i adroddiad pwrpasol a gweminar marchnata digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau, mae gennym gynllun tymor canolig clir i gysylltu pob rhan o’n busnes, nid dim ond er budd i ni, ond er budd ein cwsmeriaid hefyd.”