Mae crefftwr lleol yn cynyddu gwerthiant o 10% ac yn arbed chwe diwrnod ar hugain y flwyddyn drwy fod yn ddigidol

Yn dilyn saith mlynedd ffyniannus o fusnes wedi’i leoli mewn tyddyn ym mherfeddion Powys, roedd Lizzie Jones, gwneuthurwr cyffeithiau lleol eisiau i gynhyrchion Pantri Swswen chwifio baner Cymru gyda balchder. Yn y modd hynny, gyda gwerthiant rhyngwladol yn rhywbeth go iawn, trodd at y byd digidol er mwyn osgoi mynd i drafferthion wrth reoli nifer cynyddol o gyfrifon cleientiaid. Y llynedd, gyda chyngor gan CCiF, aildrefnodd ei marchnata a defnyddiodd systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid a rheoli ariannol ar-lein er mwyn cynyddu gwerthiant o 10% ac arbed chwe diwrnod ar hugain y flwyddyn.

"O brofiad, roeddwn yn gwybod bod technoleg yn ffordd o agor marchnadoedd a rheoli gwerthiant a thaliadau cwsmeriaid"

Fel llawer o bobl, roedd Lizzie yn dymuno dychwelyd at ei gwreiddiau yng Nghymru i fagu’i theulu yn dilyn gyrfa yng Nghaergrawnt. Dywedodd. “Cyfunais fy mhrofiad cynnar o werthu cyffeithiau ar siop fferm fy rhieni gyda 10 mlynedd fel rheolwr gweithgynhyrchu er mwyn troi fy nghariad o wneud marmaledau, siytni, jamiau a theisennau yn fusnes hyfyw. O brofiad, roeddwn yn gwybod bod technoleg yn ffordd o agor marchnadoedd a rheoli gwerthiant a thaliadau cwsmeriaid. Felly, dewisais droi at becynnau a gwasanaethau digidol rhad ac am ddim neu fforddiadwy fel CCiF er mwyn fy helpu i wneud hynny go iawn.”

Byddwch chi’n cael maddeuant am feddwl bod Pantri Swswen yn fusnes arbenigol, ond gyda chyfradd twf blynyddol cyfansawdd byd-eang rhagamcanol o 3.6% o 2019-2024, mae’r farchnad jamiau, jeli a chyffeithiau yn denu cystadleuaeth o bob cornel o’r byd; ac mae’r gystadleuaeth yn ffyrnig. Mae Lizzie wedi ennill sawl gwobr clodfawr yng Ngwobrau Marmalêd Gwreiddiol y Byd a noddwyd gan Fortnum and Mason, gan dderbyn gwobr Aur chwenychedig a churo 2,000 o gystadleuwyr o dros 30 o wledydd.

Lizzie Jones of Pantri Swswen with her produce.

A chyda un seren aur a dwy seren aur o Wobrau'r Blas Gwych yn ystod 2018 a 2019 am gyffeithiau a theisennau, mae’r gydnabyddiaeth yn parhau wrth i Bantri Swswen ddatblygu brand bwyd Cymreig moethus.

"Rydw i’n defnyddio digidol i wneud y mwyaf o’r sylw rhyngwladol"

Dywedodd, “Rydw i’n defnyddio digidol i wneud y mwyaf o’r sylw rhyngwladol yr ydw i’n cael o’r gwobrau hyn, oherwydd y brif her i mi yw rheoli cyfrifon fy nghwsmeriaid ynghyd ag anfonebu a chasglu taliadau sy’n ddyledus yn amserol.” Deuddeg mis yn ôl, mynychodd Lizzie weithdy ar Optimeiddio Peiriannau Chwilio a derbyniodd ganllawiau gan Paul Gadd, Cynghorydd Busnes CCiF. “Dyma oedd y catalydd i newid”, dywedodd Lizzie. Diweddarodd ei gwefan er mwyn denu ymwelwyr y tu hwnt i ffiniau Powys, a chyda help Paul, mabwysiadodd system reoli cyswllt cwsmeriaid, sef HubSpot, yn ogystal â phecyn cyfrifyddu ar-lein o’r enw Wave.

"Mewn un flwyddyn, mae fy ngwerthiant wedi cynyddu 10% ac rydw i’n treulio llai o amser ac arian ar farchnata oherwydd bod ffocws pendant y dyddiau hyn"

“Fy asedau mwyaf gwerthfawr yw fy nghwsmeriaid”, meddai Lizzie, ac mae cael un lle canolog i storio eu manylion cyswllt a’u pryniannau, yn ogystal â’r rhyngweithiadau y maen nhw wedi’u cael gyda’r wefan neu’r cyfryngau cymdeithasol yn nodi bod diddordeb wedi gwneud datblygu busnes yn llawer mwy strwythuredig. “HubSpot sy’n gyfrifol fy mod yn cyrraedd mwy o gwsmeriaid ac yn cyfathrebu gyda mwy o gleientiaid sydd gennyf eisoes. Mewn un flwyddyn, mae fy ngwerthiant wedi cynyddu 10% ac rydw i’n treulio llai o amser ac arian ar farchnata oherwydd bod ffocws pendant y dyddiau hyn. Y peth gorau yw fy mod yn arbed oddeutu 16 awr yr wythnos oherwydd nad wyf yn poeni am y mater”, ychwanega.

“Mae hyn yn arbennig o wir o safbwynt ariannol”. Mae Wave yn becyn cyfrifyddu cofnod dwbl sydd wedi cael ei gynllunio ar gyfer busnesau bychain. Mae’n hawdd i’w sefydlu ac mae’n defnyddio dangosfyrddau, fel y gallwch chi weld yn union lle’r ydych chi, ac mae hyn yn oed yn anfon biliau a nodiadau atgoffa am anfonebau atoch. “Roedd yn syniad da i mi”, meddai Lizzie. “Fy ngham nesaf yw sefydlu apiau cyfryngau cymdeithasol a datblygu e-fasnach i mewn i’r wefan, fel y gall pobl brynu drwy ddefnyddio dull electronig. Yna, byddaf yn cyflogi rhywun i ddatblygu fy momentwm presennol”.

Mae hi’n gorffen drwy ddweud. “Mae bod yn ddigidol yn fy arbed i rhag mynd i drafferthion. Mae’r prosesau hynny sy’n ategu ac yn sefydlogi busnesau mwy ar gael yn awr i gwmnïau bychain am bris sy’n eu gweddu. Mae adnoddau ar-lein yn lefelwyr gwych; maen nhw’n agor y gystadleuaeth ac yn rhoi cyfleoedd i bawb, p’un ai i ddatblygu busnes llwyddiannus neu er mwyn cael gwell ffordd o fyw. Rydw i mor lwcus fy mod yn gallu gwneud y ddau oherwydd mae bod yn ddigidol wedi arbed chwe diwrnod ar hugain y flwyddyn i mi, sy’n cael ei rannu rhwng fy musnes a mwynhau fy nheulu. Yn rhannol, mae hynny oherwydd yr help yr ydw i wedi’i gael gan CCiF. Ni allaf eu cymeradwyo nhw ddigon.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen