Mae entrepreneur llwyddiannus o Gymru’n creu cynnwrf mawr yn y sector creadigol gyda’i agwedd at ddigidol yn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer ei lwyddiant.

 

Sefydlodd Damian Burgess gwmni Red Squirrel Marketing yn 2015 ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gan gynnwys ennill gwaith rhyngwladol, gyda’i gleientiaid o dramor yn cyfrif am fwy nag 20% o’i drosiant.

 

Mae ei weithgarwch marchnata ar-lein yn creu mwyafrif ei gyfleoedd busnes newydd, gyda chyfryngau cymdeithasol yn gyfrannwr allweddol. Hefyd, denodd un o’i ddarnau yn ei flog sylw busnes o UDA, sy’n gleient iddo bellach.

 

Man stood in front of Welsh Assembly

 

Y digidol yw asgwrn cefn ein dull ni o weithredu

 

Hyd yma mae llwyddiant y gŵr 32 oed wedi arwain at ennill Gwobr Dylanwadwr Ar-lein yng Ngwobrau Busnes Zokit a hefyd cafodd ei goroni’n Berson Digidol Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Digidol WalesOnline 2018.

 

Ac mae Damian yn credu na fyddai hyn wedi bod yn bosib o gwbl heb iddo groesawu technoleg ddigidol ar draws pob elfen o’i fusnes.

 

“Nid dim ond rhan o’r gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig ydi’r digidol, dyma asgwrn cefn sut rydyn ni’n gweithredu,” dywedodd.

 

“Er ’mod i’n deall technoleg yn dda, roeddwn i eisiau i bâr ffres o lygaid edrych ar fy narpariaeth i, yn ogystal â chefnogaeth gyffredinol gyda'r busnes. Fe holais i Cyflymu Cymru i Fusnesau a mynd i un o’r gweithdai, a hefyd cael cyngor un i un ac adroddiad ar fy ngwefan.

 

Cyngor 1 i 1 o gymorth i mi gadw ffocws

 

“Un cyngor oedd o help mawr i mi oedd sut i benderfynu ar y prif wasanaethau rydyn ni’n eu darparu a chanolbwyntio ar y rhain yn ein marchnata. Mae cynnwys y blog a’r e-gylchlythyr, a’r cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, yn gyson ac mae ffocws iddo. Rydw i’n cael tua phum ymholiad newydd bob wythnos ar Facebook ac mae'r negeseuon e-bost yn anfon llawer o draffig i'r wefan.

 

“Rydw i hefyd wedi derbyn argymhellion ar allweddeiriau ac SEO (optimeiddio peiriannau chwilio), i sicrhau fy mod i’n amlycach mewn canlyniadau chwilio. Rydw i’n cael rhyw 12 ymholiad yr wythnos drwy gyfrwng fy safle erbyn hyn.

 

“Hefyd fe wnaeth fy nghynghorydd busnes digidol i fy helpu i gyda gweithredu datrysiad ar y cwmwl ar gyfer storio ffeiliau a chreu copïau wrth gefn. Roeddwn i’n arfer cario gyriant caled gyda mi ond nawr mae popeth ar iCloud ac rydw i’n gallu gweithio o wahanol lefydd ac ar ddyfeisiadau amrywiol. Mae wedi fy ngwneud i’n fwy effeithlon ac mae’n cefnogi fy nod i o gydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.”

 

Mae galwadau fideo a negeseua gwib yn cael gwared ar rwystrau o ran lleoliad ac amser

 

Roedd cael y seilwaith digidol priodol yn ei le yn chwarae rhan bwysig wrth i Red Squirrel Marketing o Gaerdydd sicrhau cleientiaid rhyngwladol newydd yn Sweden a Norwy.

 

“Mae gwaith dramor yn cyfrannu ychydig dros 20 y cant at ein trosiant ni,” ychwanegodd.

 

“Roedd un o fy narnau i yn fy mlog yn cyrraedd yn uchel iawn yn Google ac fe ddaeth cwmni o’r Unol Daleithiau o hyd i mi. Fe arweiniodd hynny at sgwrs fusnes newydd ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw ers tua 12 mis erbyn hyn.

 

“Rydyn ni’n defnyddio Messenger ar Facebook yn aml iawn ar gyfer cyfathrebu’n gyflym, a hefyd Skype ar gyfer galwadau fideo i drafod briffiau a diweddariadau prosiect. Mae hyn yn cael gwared ar unrhyw rwystrau a allai godi oherwydd lleoliad a gwahaniaeth amser. Dydw i ddim yn meddwl y bydden ni wedi ennill y cleientiaid rhyngwladol hynny heb y systemau sydd yn eu lle i symleiddio’r cyfathrebu.

 

“Fy nodau nesaf i nawr yw datblygu’r busnes ymhellach a chyflogi staff a symud i eiddo busnes. Bydd cael y strwythur digidol priodol yn ei le’n allweddol er mwyn cyflawni hyn.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen