Gyda chyfuniad o ddyfeisiau IoT rhwydweithiau di-wifr pellter hir, mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn lleihau costau ac mae’r gwasanaethau a gaiff ei denantiaid yn llawer gwell.

Er iddo gael ei fathu nôl yn y ‘90au, gyda thechnoleg Adnabyddiaeth Amledd Radio (RFID) y cysylltir y term ‘Internet of Things’ (IoT) ond bellach, mae’n hynod boblogaidd mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau. Rydym eisoes wedi trafod hyblygrwydd IoT mewn sawl achos ledled Cymru, gan gynnwys ffermio, monitro llygredd, seilweithiau dinasoedd a diogelwch rheilffyrdd. Bellach, defnyddir y dechnoleg ym maes tai cymdeithasol hefyd.

Mae prosiect arloesol IoT yn cael ei dreialu gan Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru, sy’n gweithio o swyddfa yn y Drenewydd, Powys. Mae’r gymdeithas yn darparu llety rhent fforddiadwy i deuluoedd, pobl sengl, yr henoed yn ogystal â’r rheini sydd angen gofal achlysurol neu llawnamser. Ond gyda tua 1,800 o eiddo ar draws Powys a Cheredigion, mae ymdrin ag offer a gofalu am denantiaid yn draul ar amser a staff.

“Mae’r hen ffordd o weithio yn golygu adweithio i sefyllfa,” esbonia Ernie Capener, Arweinydd y Tîm Tai Cymunedol yng Nghymdeithas Tai Canolbarth Cymru. “Pan mae problem yn codi, caiff rhywun ei anfon i ddatrys y broblem. Dyma sut mae pethau’n gweithio yn y mwyafrif o gymdeithasau tai a chynghorau ledled y wlad.”

An overhead image of houses.

IoT yn helpu i greu darlun o’r hyn sy’n digwydd

“Yn amlwg, gallwch wneud ychydig bach o waith ymchwil ymlaen llaw i nodi lle gallai problemau godi,” meddal Capener, “ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelu’r henoed trwy anfon warden atynt. Ond, rydym yn gofalu am nifer fawr iawn o eiddo a dim ond nifer fach o bobl sydd gennym ni i wneud y gwaith. Hefyd, mae’r ardal yr ydym yn ei gwasanaethu yn faith – rydym yn cyrraedd mor bell ac Aberteifi ac mor bell i fyny a’r Amwythig. Felly, os caf alwad ffôn heddiw yn dweud bod yna broblem yn Aberteifi, mae hynny’n golygu taith 2 awr i mi.”

Felly, mae Capener a’i dîm wedi troi at dechnoleg i’w helpu i leddfu eu problemau. “Fe es i a Dean Marsh o’n hadran TG ati i gynnal asesiad o berson agored i niwed sef Nain un o fy nghydweithiwr – dim ond prawf, ffordd gost isel o osod synwyryddion yn yr eiddo i weld a yw hi’n mynd i’r tŷ bach, os yw hi wedi cymryd ei meddyginiaeth, pethau fel hyn. Rydym yn defnyddio’r synwyryddion i greu darlun o’r sefyllfa yn yr eiddo a chyda’r tenant.”

Mae prosiect Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn gweithio ar raddfa dipyn mwy na hynny, lle gall un ddyfais cost isel gefnogi miloedd o ‘bethau’ sy’n cael eu rhedeg gyda batri dros bellter mawr. Gall y ’pethau’ hyn fod yn unrhyw beth – synwyryddion drws/ffenestr, synwyryddion clyw, synwyryddion tymheredd a lleithder, hyd yn oed dyfeisiau sy’n mesur llif dŵr neu gerrynt trydanol. Mae’r synwyryddion yn casglu data ac yn defnyddio technoleg Rhwydwaith Ardal Eang Pellter Hir (LoRaWAN) i anfon y data i The Things Network – rhwydwaith agored fyd-eang sy’n ymrwymedig i helpu i gefnogi IoT.

Rhwydwaith ddiwifr sy’n 12 milltir o led

Mae technoleg LoRaWAN yn ddelfrydol ar gyfer prosiect o’r math hwn. Yn wanhaol i wi-fi, sy’n gallu trosglwyddo nifer fawr o ddata dros gyflymder uchel, mae rhwydwaith ddiwifr LoRaWan ond yn gallu anfon nifer fach o ddata ar gyflymder araf, ond dros rwydwaith ddiwifr sydd ag ystod llawer iawn hirach. “Yma yn y Drenewydd,” meddai Capener, “mae gennym un porth sy’n cefnogi hyd at 65,000 o synwyryddion ac sy’n gwasanaethu radiws o 12 milltir.”

Gyda phorth arall yn y Trallwng, mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru wedi gallu gosod synwyryddion mewn amrywiaeth o dai er mwyn olrhain tymheredd a lleithder. Y syniad, meddai Capener, yw defnyddio synwyryddion batri, cost isel i fonitro o bell yn awtomatig offer neu ddarnau allweddol. “Does dim rhaid i chi anfon rhywun i wirio’r pethau hyn,” ychwanegodd. “Bydd y galedwedd rydych yn ei monitro yn eich hysbysu os yw’n methu.”

Mae hyn yn creu’r potensial i ddefnyddio dull y gellir ei ragnodi i gynnal a chadw tai. “Rydym am fod mewn sefyllfa lle gallwn adnabod os oes problem, fel gyda bwyler.” Awgryma Capener: “Mae gan lawer o’r bwyleri system ddiagnosteg. Er enghraifft, mae gan Mitsubishi system ddiagnosteg ar eu pympiau gwres sy’n defnyddio aer. Ond, yn amlach na pheidio, dim ond gallu cysylltu â rhwydweithiau wi-fi maen nhw. Felly, os ydych chi mewn ardaloedd gwledig fel yn un ni a does dim wi-fi gennych, mae LoRaWAN yn ddelfrydol.”

Archwilio potensial IoT yng Nghymru

Nod tymor hir y gymdeithas yw cael synwyryddion ar fwyleri, larymau mwg, ynghyd â synwyryddion carbon monocsid a gollyngiadau dŵr. Nid yn unig bydd y rhain yn lleihau costau trwsio trwy atal problemau rhag gwaethygu, ond, byddant yn dileu’r angen i ymweliad yn rheolaidd i ddarganfod diffygion posibl. “Bydd ein tenantiaid oedrannus a bregus hefyd yn elwa - tawelwch meddwl bod eu cartref yn cael ei fonitro’n rheolaidd a bod eu larymau mwg yn gweithio’n gywir,” meddai Capener.

Mae gan y dechnoleg oblygiadau defnyddiol hefyd ar gyfer byw â chymorth, o bethau fel monitro iechyd a thelefeddygaeth o bell, i welliannau syml mewn ansawdd bywyd, megis dyfeisiau a weithredir gan lais a phlygiau clyfar sy’n rhedeg yn ôl y rheolau a osodir gan roddwyr gofal.

Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn parhau i archwilio potensial technoleg IoT mewn tai cymdeithasol, ond mae Ernie Capener eisoes wedi’i argyhoeddi y gall fod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer pob math o fusnesau, a hynny ledled Cymru.

A person using a medicine bottle.

Helpu i ddarparu gwell gwasanaeth

Wrth gwrs, gyda gwell mynediad at ddata, yr her nesaf yw gwneud synnwyr ohono. “Os ydych chi’n mynd i ddefnyddio data synhwyrydd i greu darlun – er enghraifft, i ddweud wrthych â yw’r bwyler yn methu neu i ddweud wrthych bod angen mynd i ymweld â pherson sy’n agored i niwed oherwydd nad ydynt wedi agor eu cwpwrdd meddygaeth y diwrnod hwnnw – mae’n rhaid i chi gael rhywun i ddadansoddi’r data. Neu, mae’n rhaid i chi adeiladu algorithm i wneud hynny’n awtomatig.

“Mae gennym baneli deiliau y gall pobl edrych arnynt, ond, mae ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu llethu gan doreth o wybodaeth. Beth rydym yn ceisio ei wneud nesaf yw cyflwyno algorithmau sy’n dadansoddi’r data ac yna, yn syml, dweud wrth y defnyddiwr ‘mae angen ymweld â’r person hwn neu’r eiddo hwn heddiw’. Neu ‘mae popeth yn iawn yn yr eiddo hwn heddiw.”

Dyw gosod technoleg IoT mewn cartref ddim yn syniad newydd. Ond, mae’n mynd gam ymhellach na’r ‘cartref clyfar’ rydym wedi clywed amdano. O anfon data o synwyryddion batri dros rwydwaith LoRaWAN, gellir mabwysiadu monitro o bell yn haws, gan greu arbedion arian ac effeithiolrwydd sylweddol i Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru ac yn y pen draw, ddarparu gwell gwasanaeth i'w tenantiaid.

“Mae modd hysbysu’r tenant bod problem gyda’r gwres cyn eu bod yn ymwybodol o hynny,” meddal Capener. “Er enghraifft, os yw llif dŵr y system wresogi yn araf, os nad yw’r pwmp yn yn gweithio mor effeithiol ag arfer ... mae’r pethau hyn yn dangos bod gennych broblem a gallwch gamu i’r adwy cyn bod y broblem yn mynd yn gostus, ac yn y pen draw, darparu gwell gwasanaeth i’r tenant.”

Dysgwch ragor am sut mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn defnyddio IoT yma.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen