Mae busnes sy’n arbenigo mewn addurno swyddfeydd yn dychwelyd i lefelau cyn y dirwasgiad o ran trosiant a niferoedd staff, gan ddweud mai defnyddio technoleg oedd y rheswm allweddol dros hyn.

 

Mae D&G Office Interiors yng Nghaerdydd wedi cynyddu ei drosiant i dros £4m, wedi recriwtio dau aelod ychwanegol o staff eleni, ac wedi ennill contract gyda chwmni adnabyddus.

 

Picture of office space

 

Cysylltedd rhyngrwyd cyflym a dibynadwy

 

Bydd y cwmni’n cynyddu nifer ei weithwyr yn yr hydref, gyda gweithio o bell yn denu mwy o ymgeiswyr o ansawdd uchel o fannau pellach. Mae hefyd yn meddu ar elfen gystadleuol wrth ennill busnes newydd, diolch i’w ymagwedd at integreiddio technoleg ddigonol yn ei brosesau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, Steve Gardener: “Tra bod ein swyddog gwerthu ar y safle gyda chwsmer, gall y lluniau a’r manylion gal eu hanfon ar ein tîm dylunio trwy’r cwmwl. Mae hyn yn golygu y gall y dylunwyr ddechrau gweithio ar unwaith, os oes angen, heb fod angen iddynt aros i’r swyddog gwerthu ddychwelyd i’r swyddfa, a all fod y diwrnod canlynol. 

 

“Mewn rhai achosion, gallwn gyflwyno cynllun i’r cleient ar yr un diwrnod. Mae hyn yn gwneud i ni sefyll allan oddi wrth ein cystadleuwyr, ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gysylltiad rhyngrwyd cyflym, dibynadwy. 

 

Mae gweithio o bell yn rhoi mantais gystadleuol inni

 

“Mae gweithio ar y cwmwl hefyd yn golygu y gallwn gynnig gweithio hyblyg a gweithio o bell, sydd wedi cynyddu’n sylweddol y gronfa o ymgeiswyr sydd â diddordeb yn ein swyddi gwag - mae gan bron 70 y cant o geiswyr gwaith a gafodd eu geni yn yr 80au a’r 90au, fwy o ddiddordeb mewn rôl os yw’n cynnig gweithio o bell. Hefyd, mae’n cynnig buddion ychwanegol, gan gynnwys lleihau trosiant staff o 50 y cant, a chynyddu cynhyrchiant gyda llai o wrthdyniadau.

 

“Hefyd, mae wedi lleihau’r milltiroedd mae ein tîm gwerthu yn eu teithio, oherwydd y gallan nhw gyrchu dogfennau o bell, a mynd yn syth i gyfarfod. Mae hyn wedi arbed oddeutu £3,600 o ran treuliau, gwerth £4,000 o amser y gweithwyr ar y ffyrdd, a gostyngiad nid yn unig o ran treulio cerbydau’r cwmni, ond ein hôl-troed carbon hefyd.”

 

Gall cleientiaid fanteisio ar ffeiliau dylunio mewn amser real gan ddefnyddio’r Cwmwl

 

Mae D&G Office Interiors, a sefydlwyd ym 1994, yn cynnig gwasanaeth ledled y DU. Mae’n cyflogi 19 o bobl ac mae ganddo drosiant o £4.3m. Fel rhan o’i drawsnewidiad digidol, cyflwynodd feddalwedd rheoli prosiect cwmwl a phrotocol llais dros y rhyngrwyd (VoIP), system ffôn cwmwl, gan arbed £250 y mis i’r cwmni.

 

Dywedodd Steve: “Diolch i elfennau arbed arian y dechnoleg ddigidol, rydym ni wedi gallu rhoi’r ffonau symudol a’r llechi diweddaraf i’n timau. Mae’r rhain yn cynnwys meddalwedd gyfredol, er mwyn i’r defnyddwyr allu cyflawni mwy o waith ar y safle gyda’r cleient. 

 

“Ffactor hanfodol arall i fuddsoddi mewn ffibr, yw’r storfa cwmwl. Gall ein ffeiliau dyluniadau fod yn fwy na 100mb ar gyfer dogfennau sy’n cynnwys byrddau hwyliau, a gall ein fideos ‘cerdded drwodd’, sy’n dangos i’r cleient sut olwg fydd ar y swyddfa orffenedig, fod yn fwy na 5 GB. Nid oes gennym ni unrhyw broblem nawr yn sicrhau y gall ein cleientiaid gyrchu’r ffeiliau diweddaraf mewn amser real. Mae wedi datblygu llawer ers dosbarthu cofbin USB trwy negesydd!”

 

Mae D&G Office Interiors nawr yn archwilio defnyddio mwy o fideos, gan gynnwys fideo-gynadledda a ffilmiau corfforaethol, i ddangos astudiaethau achos i gwsmeriaid, a cherdded drwy swyddfeydd yn gysyniadol ar ffurf 3D.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen