Dysgwch sut mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru wedi croesawu rhith-wirionedd a rhoi hwb i’w gwefan i helpu i dyfu’r elusen gadwraeth leol.

 

Dysgwch sut mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi helpu’r elusen i gael y diweddaraf am y tueddiadau newydd a rhoi hwb i’w marchnata er mwyn denu mwy o ymwelwyr.

 

 

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn elusen gadwraeth leol a’i chenhadaeth yw gwarchod bywyd gwyllt ar gyfer y dyfodol.

 

Mae ei staff ymroddedig yn rhedeg pedair gwarchodfa natur ar draws y rhanbarth - mae’r un yma ym Mharc Slip, ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn warchodfa 300 erw a arferai fod yn safle gwaith glo brig.

 

Bellach mae'n atyniad sydd wedi ennill gwobrau am ei fioamrywiaeth sy’n cynnwys ardaloedd o goetir, cuddfannau adar, camlas lle gallwch weld glas y dorlan, a chanolfan ymwelwyr i bobl ymlacio a chael cinio.

 

Rebecca Vincent yw Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r Ymddiriedolaeth. Dywed ei bod wedi cysylltu â Cyflymu Cymru i Fusnesau i fanteisio ar y sgiliau hyfforddi allweddol ar gael a fyddai’n helpu’r ymddiriedolaeth i dyfu.

 

Bu hi a’i chyfeillion mewn Dosbarth Meistr Cyfryngau Cymdeithasol Dynamig ar gyfer busnesau lletygarwch a thwristiaeth – a dywed ei fod wedi cael effaith gadarnhaol iawn, gan wella cyrhaeddiad ar draws holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yr Ymddiriedolaeth.

 

Mae’r wefan bellach yn cael ymateb cadarnhaol iawn gan ymwelwyr, meddai. Mae'n datblygu’n gyson ac yn dilyn tueddiadau newydd, diolch i’r arweiniad y maent wedi’i gael gan Cyflymu Cymru i Fusnesau. O ganlyniad, mae cyswllt â’r Ymddiriedolaeth ac ymwybyddiaeth o’i gwaith wedi cynyddu – ac mae hynny wedi arwain at fwy o ymwelwyr i’w gwarchodfeydd.

 

Y llynedd, mentrodd yr Ymddiriedolaeth i’r byd digidol pan luniodd bartneriaeth gyda Croeso Cymru yn ystod y Flwyddyn Chwedlau er mwyn datblygu dau brofiad realiti rhithiol 360 gradd, Dolffiniaid yn Deifio a Glas y Dorlan yn Hedfan. Cafwyd adborth gwych, wrth ddangos y bywyd gwyllt trawiadol yn y môr ac ar y tir yng Nghymru – ac arweiniodd at gynyddu niferoedd ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth.

 

Yn ôl Rebecca mae llwyfannau digidol mor eang a hyblyg ac yn newid yn gyson, ac os gall sefydliadau gael cymorth yn y maes hwn – fel y cafodd yr Ymddiriedolaeth drwy Cyflymu Cymru i Fusnesau – yn sicr dylent fanteisio arno er mwyn eu helpu i fod yn fwy cystadleuol.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen