Busnes yn gobeithio dyblu ei drosiant yn 2018

 

Mae cyn arbenigwr TG, a newidiodd fywyd yn Ninas Llundain am Sir Gaerfyrddin wledig, yn dweud bod ei benderfyniad yn talu ar ei ganfed gan fod band eang cyflym iawn wedi ei helpu i sefydlu busnes ymgynghorol llwyddiannus.

 

Roedd John Dray yn cynghori rheolwyr cronfeydd rhagfantoli a chwmnïau yn y sector bancio corfforaethol ar sut i reoli eu systemau TG, gan gynnwys meysydd fel adfer wedi trychineb a chyfrifiadura’r cwmwl. Yn dyheu am newid ei ffordd o fyw yn llwyr, mentrodd a gadawodd i sefydlu ei fusnes ei hun.

 

'Micro-ymgynghoriaeth' yw Cloud Genius sy’n arbenigo mewn gweithredu systemau Rheoli Perthnasoedd Cwsmeriaid a chreu gwefannau ar gyfer busnesau bach, elusennau a mudiadau gwirfoddol.

 

Ar ôl symud y busnes i Gymru, cafodd ei flas cyntaf ar yr heriau mae llawer o fusnesau gwledig yn eu hwynebu wrth geisio defnyddio technolegau newydd. “Mewn gwirionedd roeddwn i’n rhedeg busnes ar-lein heb lawer o angen am ryngweithio wyneb yn wyneb gyda chwsmeriaid, ond roedd diffyg cyswllt rhyngrwyd cyflymder uchel yn creu sawl her,” dywedodd Mr Dray.

 

Roedd dyfodiad band eang cyflym iawn i Sir Gaerfyrddin yn newid byd mawr i lwyddiant Cloud Genius a dechreuodd Mr Gray fanteisio i’r eithaf ar botensial ei fusnes newydd. Ar unwaith roedd yn gallu arbed arian drwy drosglwyddo o’r cysylltiadau rhyngrwyd 4G a lloeren yr oedd arno eu hangen yn flaenorol i ddarparu’r lled band angenrheidiol i weithredu’r fenter. Fodd bynnag, yr amser roedd yn ei arbed oedd yn galluogi i Cloud Genius fwy na dyblu ei allu o ran gwaith a sefydlu cynlluniau i ehangu'r busnes a chyflogi staff newydd.

 

“Mae band eang cyflym iawn wedi bod yn newid byd mawr i fy musnes i. Rydyn ni wedi cyflwyno ffonio Llais-dros-y-Rhyngrwyd ac wedi cynyddu'r hyfforddiant ar-lein rydym yn ei roi i’n cwsmeriaid fwy na 200%. Erbyn hyn, mae uwchlwytho gwefannau cwsmeriaid, a arferai gymryd hanner diwrnod, yn gallu cael ei wneud mewn hanner awr ac mae’r posibiliadau ar gyfer cydweithredu a rhannu ffeiliau ar-lein yn golygu fy mod i wedi rhyddhau deuddydd ychwanegol o fy amser bob mis fwy na thebyg. Amser rydw i’n gallu ei ddefnyddio i ganolbwyntio ar gyfleoedd newydd ac ehangu’r busnes.”

 

Hefyd cafodd Cloud Genius gefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau drwy fynychu gweithdy marchnata digidol a chael cefnogaeth un i un mewn meysydd fel datblygu strategaethau marchnata digidol, cyfryngau cymdeithasol, dadansoddeg uwch ac e-farchnata.

 

Mae Mr Dray eisoes wedi dechrau gweithredu nifer o argymhellion Cyflymu Cymru i Fusnesau, gan gynnwys creu cyfres o fideos wedi’u hanimeiddio a datblygu sawl ymgyrch farchnata newydd ar e-bost, i godi ymwybyddiaeth o’r brand ac i ddenu ymwelwyr â’i wefan a chynhyrchu gwerthiant.

 

“Fe wnes i recriwtio a hyfforddi ail aelod o staff drwy gynllun Twf Swyddi Cymru ac mae gennym ni gynlluniau i recriwtio eto yr haf yma, er mwyn bodloni'r galw cynyddol gan gwsmeriaid,” dywedodd Mr Dray. “Rydym yn disgwyl cynnydd o 50% mewn trosiant yn ystod y 12 mis nesaf ac mae manteisio i'r eithaf ar y defnydd o’r dechnoleg sydd wedi’i galluogi gan fand eang cyflym iawn, ochr yn ochr â datblygu strategaeth marchnata digidol gadarn, yn mynd i fod yn allweddol er mwyn cyflawni hyn.

 

“Mae’n glir i mi fod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn band eang ffibr eisoes yn gwneud gwahaniaeth ac yn sicr yn dod â chyflogaeth i ardaloedd gwledig. Mae gan y ffocws ychwanegol ar addysg a hyfforddiant digidol, drwy sefydliadau fel Cyflymu Cymru i Fusnesau, botensial i fanteisio i’r eithaf ar y buddsoddiad hwnnw a galluogi i berchnogion busnesau bach fod yn llwyddiannus, yn ogystal â mwynhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen