Mae mam i ddau o blant ac athrawes Ffrangeg mewn ysgol uwchradd wedi creu cynnydd o 20 y cant mewn elw ym musnes glampio ei theulu, sydd erbyn hyn yn cynnwys lleoliad i briodasau a iwrt sy’n ddigon mawr i 90 o bobl.

 

Mae Natasha Davies-Puddy yn gofalu am yr holl farchnata a’r cyhoeddusrwydd ar gyfer Fron Farm Yurts, sydd hefyd yn elwa o leoliad tawel gyda thri iwrt maint arferol ar gyfer grwpiau llai.

 

Inside an event marquee

 

Mae’r ymestyn hwn yn arwydd o gynnydd cyflym i’r busnes o Orllewin Sir Gaerfyrddin a lansiwyd dwy flynedd yn ôl. Mae meddiannaeth yn yr iwrt moethus yn 60 y cant, ac mae yna gynlluniau ar droed i osod pedwerydd iwrt yn 2018. 

 

Mae’r iwrt ar gyfer 90 o bobl  yn ddelfrydol ar gyfer priodasau a gynhelir yn yr eglwys ganoloesol ar y safle a adnewyddwyd gan rieni Natasha yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

Ac nid dyna ddiwedd y stori: Partner Natasha, Guy Cutler sydd wedi dylunio ac adeiladu’r iwrtau ei hun, ac erbyn hyn mae’n eu gwerthu i gwmnïau glampio ar draws y DU.

 

Bu i Natasha, oedd heb unrhyw brofiad o farchnata digidol o’r blaen, fynychu cyrsiau a gynhaliwyd gan Gyflymu Cymru i Fusnesau, a derbyniodd gymorth busnes un i un. Dywedodd: “Mae Brexit yn cynyddu nifer y bobl sy’n treulio’u gwyliau yn y DU, ac mae glampio yn mwynhau cynnydd mawr mewn diddordeb oherwydd ei fod yn cynnig rhywbeth i bawb. Mewn gwirionedd, erbyn 2020 disgwylir y bydd mwy na 21 miliwn o ymweliadau campio  a glampio yn y DU. 

 

“Roeddem yn gwybod bod ein presenoldeb ar-lein yn allweddol i’n llwyddiant, a dyna pam y bu i ni geisio cymorth gan Gyflymu Cymru i Fusnesau.

 

“Mynychais weithdai er mwyn gallu cyfrannu i’n gwefan, cyfryngau cymdeithasol a’n gweithgareddau SEO (optimeiddio peiriannau chwilio). Bu i’r dosbarth meistr roi lefel sylfaenol ragorol o wybodaeth i mi. Er enghraifft, ar ôl y gweithdai yma, bu i mi greu ein gwefan newydd yn Wordpress a’i optimeiddio ar gyfer peiriannau chwilio gan ddefnyddio’r cyngor a rannwyd yn cynnwys ysgrifennu teitlau tudalennau cywir, ailysgrifennu cynnwys a gosod ategion er mwyn cynorthwyo’r ochr dechnegol megis lleihau meintiau lluniau.

 

“Ar ôl hynny cefais gymorth un i un gan gynghorydd busnes a roddodd adborth ac arweiniad wedi ei deilwra i ni ynghylch beth i’w wneud nesaf.

 

“Roeddem yn awyddus i symud oddi wrth fodel busnes oedd yn dibynnu ar drydydd partïon yn cynnwys Airbnb a Pitch Up ar gyfer bwciadau, oherwydd roeddem yn talu rhwng pump a 15 y cant o gomisiwn. Yn ogystal â gweithgaredd hyrwyddo ar-lein, rydym wedi integreiddio freetobook, platfform bwcio ar-lein, i’n gwefan ac mae’r canlyniadau wedi bod y rhyfeddol. Erbyn hyn mae dwy ran o dair o’n bwciadau yn dod yn uniongyrchol drwy ein gwefan, ac mae hynny wedi helpu i greu cynnydd o 20 y cant mewn elw.”

 

Sefydlwyd yr encilfa, ar fferm 50 acer ei rhieni, er mwyn creu mwy o incwm i’r teulu, ac fe daflodd Natasha ei hun i’r gwaith marchnata a chyhoeddusrwydd tra’n parhau â’i gyrfa fel athrawes a bod yn fam i ddau fachgen 8 a 3 oed.

 

Ychwanegodd Natasha: “Mae’n waith caled, ond mae yna lawer o help ar gael. Fy nghyngor i bobl eraill mewn sefyllfa debyg yw mynd allan a dysgu cymaint â phosibl er mwyn troi eich diddordeb yn fusnes proffidiol.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen