Saith mlynedd ar ôl sefydlu 'Maid in North Wales', mae'r entrepreneur Alex Parkes wedi troi at dechnoleg i'w helpu gyda'i busnes rheoli tai haf sy'n ehangu'n gyflym. Gyda'r ansicrwydd ynglŷn â Brexit a hafau poethach yn y DU, mae rhagor o bobl yn penderfynu treulio'u gwyliau gartref ac mae cynnydd mawr yn y math hwn o wyliau. Mae'r buddsoddiad cynyddol mewn atyniadau lleol fel Zip World a Surf Snowdonia yn gyrru'r galw am dai haf ac mae diwydiant twristiaeth yng Ngogledd Cymru bellach werth £3.2 biliwn bob blwyddyn.

Gan fod ganddi 16 o staff, 60 o dai haf i'w rheoli yn Nyffryn Conwy a rhestr aros cynyddol o berchnogion tai, roedd jyglo archebion mewn mwy nag un dyddiadur papur ac ysgrifennu anfonebau ei hun wedi mynd yn ormod i Alex. Roedd hi'n gwybod fod yn rhaid i'w pherthynas â phapur ddod i ben felly trodd at Gyflymu Cymru i Fusnesau i chwilio am ateb ar-lein.

Alex of Maid in North Wales

Cyrhaeddais bwynt lle roeddwn i'n ei chael yn anodd delio â'r holl archebion oedd yn dod i mewn

"Roedd systemau papur wedi gweithio'n dda imi yn y gorffennol, ond cyrhaeddodd bwynt lle roeddwn i'n ei chael yn anodd delio â'r holl archebion oedd yn dod i mewn. Roeddwn i angen system ar-lein lle gallwn gofnodi dyddiadau cyrraedd a dyddiadau gadael yn rhwydd, a storio manylion cleientiaid ynghyd ag amseroedd cyrraedd ac amseroedd gadael y staff. Ar y pryd roeddwn i'n cael cymorth gan Fusnes Cymru ac fe wnaethon nhw fy nghyfeirio at eu cangen ddigidol arbenigol sef Cyflymu Cymru i Fusnesau," dywedodd Alex.

Cymrodd beth amser i ddod i arfer â Jobber CRM, ond fuaswn i a fy nghyfrifydd ddim yn gallu mynd yn ôl at bapur rŵan

"Doeddwn i ddim yn defnyddio cyfrifiaduron ryw lawer ac roedd fy sgiliau ar-lein yn wan ond roedd Adam Gerrard, fy nghynghorydd busnes yng Nghyflymu Cymru i Fusnesau yn wych. Roedd o mor ddeallus ac fe wnaeth fy helpu i ddeall pa dechnoleg allai fy helpu a sut i'w ddefnyddio. Rhoddodd y cyngor mai pecyn CRM Jobber fyddai orau i mi. Cymrodd beth amser i ddod i arfer ag o, ond fuaswn i ddim yn mynd yn ôl at fy nyddiaduron papur rŵan. Mae mor gyfleus, a hawdd i'w ddefnyddio. Rydw i'n gallu mewngofnodi o bell a gweld yr holl dai haf a'r gwaith glanhau mewn un lle, ac mae'n cysylltu â QuickBooks, felly mae fy nghyfrifydd yn gallu anfonebu'r gwaith yn rhwydd. Mae wedi arbed cymaint o amser."

The team of Maid in North Wales

Mae'r trosiant rhwng £20,000 a £24,000 y mis ac mae'n cynyddu felly mae angen i mi ystyried fy opsiynau

Mae Alex yn gyn farchoges a dechreuodd 'Maid in North Wales' yn 2012 ar ôl symud yn ôl i Gonwy ar ôl i'w phartner farw. Fel mam i blentyn bach, roedd angen gwaith arni a fyddai'n cyd-fynd â'i theulu ac felly dechreuodd lanhau tai. Saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae gan 'Maid in North Wales' drosiant o rhwng £20,000 a £24,000 y mis. Mae newydd agor golchdy yng Nghyffordd Llandudno i wasanaethu tai'r cwmni ond mae'n bwriadu symud i uned ddiwydiannol fwy yn 2020 er mwyn gallu ymdopi â'r galw.

Rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau yr hyder i mi ystyried y ffyrdd y gall adnoddau digidol helpu gydag effeithlonrwydd, cyflogresi a rheoli staff

"Rydw i eisiau manteisio ar dwf fy musnes wrth i'r diwydiant twristiaeth yng Ngogledd Cymru dyfu. Ac mae gweithio gydag Adam wedi rhoi llwyth o hyder i mi. Rydw i wedi diweddaru fy ngwefan ac rydw i'n edrych ar ffyrdd eraill y gall technoleg ddigidol helpu i wneud y busnes yn fwy effeithlon wrth iddo barhau i ehangu", dywedodd Alex. "Er fy mod wedi cyflogi cwmni adnoddau dynol i fonitro gwyliau, absenoldeb ac oriau staff; rydw i'n chwilio am rywun sydd â phrofiad digidol i edrych am gyflogres ac adnoddau dynol digidol.

Fel rhywun sy'n dysgu wrth fy ngwaith, mae'r cymorth gan Gyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn hanfodol

"Pan ddechreuais i, roeddwn i'n dysgu wrth fy ngwaith ac yn gweithio o'm hystafell fyw, cyn symud i'r ystafell amlbwrpas a'r sied. Bellach mae gan y cwmni adeiladau, tîm ardderchog sydd wedi bod trwy system hyfforddi fewnol a fy chwaer yw'r rheolwr. Rydw i wedi bod ar lawer o gyrsiau dros y blynyddoedd, ond mae'r cymorth a'r cyngor a gefais gan Gyflymu Cymru i Fusnesau ymysg y mwyaf buddiol. Dydw i ddim yn gwybod beth fuaswn i wedi'i wneud hebddo."
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen