Hawdd yw deall pam fod rhestrau aros hir er mwyn cymryd rhan yn y gweithdai celf creadigol a redir gan Beth Morris ac a ddisgrifiwyd fel “Celf sy’n iacháu” gan yr artist a gohebydd y BBC Adebanji Alade. Yma yng nghalon prifddinas Cymru, ffurfir cyfeillgarwch a chaiff cymuned ei iacháu drwy gelf.

Sefydlwyd Gweithdai Beth Morris yn 2017 gan y cyn uwch-ddarlithydd ffasiwn Beth, oedd â gweledigaeth o ddod â phawb ynghyd, yr ifanc a’r hen, drwy gelf gymunedol. Ymlaen â ni ddwy flynedd yn ddiweddarach ac mae The One Show wedi gwneud eitem ar Beth, mae’r galw am leoedd wedi ffrwydro, ac mae’r busnes wedi tyfu’n sylweddol. Erbyn hyn, mae’r gweithdai mor boblogaidd nes fod Beth wedi recriwtio tri thiwtor newydd a gwahoddir athrawon gwadd i gyflwyno sesiynau ychwanegol yn rheolaidd. Technoleg ar-lein a chyfryngau cymdeithasol penodedig sydd wedi ei helpu i gyrraedd y pwynt hwn.

Beth Morris in front of a sign promoting their workshops.

“Defnyddiais Facebook i hyrwyddo’r gweithdai, a gweithiodd hyn yn wych i ennyn diddordeb pobl a’u denu”

Meddai Beth: “Fe wnes i ddechrau drwy gynnal ambell i weithdy. Roeddwn i’n ymwybodol ar unwaith nad oedd y rhan fwyaf o’r oedolion oedd yn mynychu mewn sefyllfa i weithio am ba bynnag reswm, un ai am eu bod wedi ymddeol neu oherwydd problem iechyd, ac roedd llawer ohonynt yn teimlo’n unig. Hyd yn oed mewn dinas brysur fel Caerdydd, gall pobl deimlo eu bod ar eu pen eu hunain. Roeddwn i’n benderfynol o wneud mwy ac roedd arna’ i eisiau creu cymuned go iawn, lle mae pobl yn teimlo’n rhan o rywbeth. Fe wnes i ddefnyddio Facebook i hyrwyddo’r gweithdai, ac fe weithiodd hyn yn ardderchog i ennyn diddordeb a thynnu pobl i mewn. Ar ôl ymuno, roedd pobl yn dal i ddod yn ôl am eu bod wedi datblygu cyfeillgarwch go iawn. Mae hynny, ochr yn ochr â chael y cyfle i fod yn fwy creadigol, mor bwysig er mwyn gwella lles meddyliol a lleihau unigrwydd.

“Clywodd Elusen The Silverlinings am fy ngweithdai ac estyn gwahoddiad i mi gynnal sesiynau celf a chrefft creadigol i oedolion oedd wedi cael anaf i’r ymennydd. Rydw i bellach yn cynnal sesiynau wythnosol am ddim ar y cyd â’r elusen, gyda chefnogaeth busnesau lleol, ac yn defnyddio creadigrwydd i helpu gydag adferiad. Mae’r bobl hefyd yn cael lle i gyfarfod er mwyn cymdeithasu gydag eraill sydd mewn amgylchiadau tebyg.

Beth Morris conducting an art workshop.

“Roedd angen i mi droi i ganolbwyntio’n greadigol ar sut mae defnyddio technoleg i hyrwyddo’r busnes ymhellach a dod â phobl ynghyd”

“Fe ysgrifennais at The One Show ac er mawr syndod i mi, gwnaeth y rhaglen eitem ar fy ysgol gelf gymunedol. Ond gall y pethau hyn fod yn fyr eu parhad, ac roeddwn i’n gwybod bod angen cymorth arna i er mwyn gwneud yn fawr o’r amlygrwydd. Ar y pryd roeddem ni wedi bod yn cynnal y gweithdai ers 12 mis ac yn gwneud yn iawn ond roedd arna i eisiau tyfu’r busnes. Dyna pryd y sylweddolais fod angen i mi droi fy sylw creadigol at ddefnyddio technoleg i hyrwyddo’r busnes ymhellach a dod â phobl ynghyd.”

Aeth Beth at wasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael help a dywedodd mai’r catalydd ar gyfer ei llwyddiant oedd y cymorth a dderbyniodd gan ei mentor Cyflymu Cymru, Shawn Cullen. Dywedodd fod ei gyngor yn ‘amhrisiadwy’.

“Ar ôl i mi fod yn y gweithdy cyfryngau cymdeithasol a gynhaliwyd am ddim gan Gyflymu Cymru, manteisiais ar gyfarfodydd un i un dilynol, oedd yn agoriad llygad go iawn. Trafododd Shawn, fy nghynghorydd busnes, a minnau bod dwy ran i’r cwmni: y gweithdai celf a Beth Morris y brand. Felly fe aethom ni ati i lunio strategaeth farchnata ddigidol i wthio’r brand o ddifri. Diolch i’r cymorth hwnnw, rydw i wedi llwyddo i greu’r un teimlad cymunedol hwnnw ar-lein ac wedi magu cynulleidfa ddigidol sy’n gymorth i mi gyrraedd at bobl newydd.”

Beth Morris conducting an art workshop.

“Fe wnaeth Shawn fy helpu i bontio’r byd ar-lein ac all-lein er mwyn defnyddio creadigrwydd i drechu unigrwydd a gwella lles”

“Drwy roi’r newidiadau a argymhellwyd gan Gyflymu Cymru ar waith, gallaf weithio ar y busnes a chynyddu nifer y gweithgareddau a’r prosiectau celf cymunedol, megis y gwaith gydag Elusen Silverlinings a Chelfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr). Rhoddodd Shawn gymorth i mi gau’r bwlch rhwng y byd ar-lein a’r byd oddi ar-lein er mwyn defnyddio creadigrwydd i fynd i’r afael ag unigrwydd a gwella lles.”

Mae Beth bellach yn gobeithio ychwanegu system archebu ar-lein i’w gwefan er mwyn rheoli’r holl archebion a gostwng y gwaith gweinyddol er mwyn iddi gael mwy o amser rhydd i’w dreulio gyda’i theulu. “Mae gen i dair merch ac mae’n bwysig bod fy musnes yn gweithio o gwmpas fy nheulu,” meddai. “Weithiau mae’n rhaid i mi weithio o bell ac mae gostwng yr amser a dreulir ar waith gweinyddol a hyrwyddo fy ysgol gelf yn fy helpu i gyflawni hynny.

“Rydw i wrth fy modd yn addysgu, ond rwy’n sylweddoli nad oes modd i mi wneud popeth. Ar gyfer y gymuned, fe hoffwn i recriwtio mwy o diwtoriaid yn ogystal â chynyddu nifer gweithdai a gynhelir gan artistiaid gwadd arbenigol.

“Felly, yn nhrydedd flwyddyn y busnes byddaf yn gweithio gyda chrewyr, artistiaid a dylanwadwyr enwog, llawer ohonynt yn bobl yr wyf wedi dod i gysylltiad â hwy drwy’r cyfryngau cymdeithasol Rwy’n deall grym fy nghymuned gelf ar-lein a byddaf yn meithrin y perthnasau hyn er mwyn gwella’r brand ac i gyrraedd mwy o bobl a allai elwa o les creadigol.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen