Popeth roeddech chi eisiau ei wybod am ddigidol: Holi ac Ateb Cyflymu Cymru i Fusnesau

Drwy gydol y pandemig mae’r byd digidol wedi bod yn achubiaeth i berchnogion busnesau bach, gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid, gwerthu ar-lein a chadw eu busnes i fynd tra maen nhw wedi eu cyfyngu gan gyfyngiadau COVID-19.

Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y busnes tiwtora o Gaerffili, Educalis. Pan wnaeth y cyfnod cloi atal y cwmni rhag cyflwyno gwersi wyneb yn wyneb, ceisiodd help gan Cyflymu Cymru i Fusnesau i newid yn gyflym i ddysgu ar-lein. Roedd yn gam a “achubodd y busnes” yn ôl y perchennog, Emma Blewden. Darllen y stori'n llawn.

Os ydych chi eisiau goroesi COVID-19 gan ddefnyddio digidol, sgroliwch isod i ddarllen yr atebion i'n cwestiynau mwyaf cyffredin ac ymuno â pherchnogion busnes, fel Emma, fel y gallwn eich helpu chi i ddatblygu eich hyder digidol.

Dewch i wybod mwy am ein gweminarau am ddim ac archebu lle

Un o hyfforddwyr Cyflymu Cymru i Fusnesau, Austin Walters, yn ateb eich cwestiynau am y byd digidol.



Sut mae modd i mi farchnata fy musnes ar-lein?

Mae hyn yn dibynnu'n llwyr ar eich busnes. Mae angen i wahanol fathau o fusnesau edrych ar strategaethau ar gyfer eu sector yn hytrach nag ymagwedd “un ateb i bopeth”.

WGallai'r hyn a allai fod yn strategaeth wych i siop leol fod yn ofnadwy i gynghorydd ariannol. Un o'r camgymeriadau mae llawer o berchnogion busnes yn eu gwneud ar-lein yw copïo'r strategaeth mae busnes arall yn ei defnyddio'n llwyddiannus, ni waeth ym mha sector maen nhw. Nid oes sicrwydd y bydd hyn yn gweithio a gall hyd yn oed achosi niwed.

Camgymeriad cyffredin arall mae pobl yn ei wneud yw marchnata ar y platfform maen nhw'n fwyaf cyfforddus yn ei ddefnyddio, nad yw o reidrwydd yr un sy'n fwyaf addas i gyrraedd eu marchnad darged.

Felly, yn gyntaf, mae angen i chi nodi eich marchnad darged. Mae hyn yn rhywbeth rwy’n ymdrin ag ef yn fanylach yn ein gweithdai Marchnata Digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau.

Social media apps on a smartphone.


Pan fyddwch chi'n gwybod pwy rydych chi'n eu targedu, gallwch ddatblygu ymgyrch i'w cyrraedd gyda'r negeseuon priodol.

Mae sawl sianel ar gael i farchnata ar-lein, ond ar gyfer yr erthygl hon byddaf yn cadw pethau'n syml. Gadewch i ni ystyried Chwilio (e.e. Google Search) o’i gymharu â’r Cyfryngau Cymdeithasol.

Pan fydd rhywun yn chwilio ar y we, maen nhw'n llawer agosach at benderfynu prynu na rhywun sy'n digwydd gweld eich neges neu eich hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol. Gan hynny, mae angen i ni gael dulliau gwahanol. Ni allwn drin pawb fel cwsmer posibl.

Dychmygwch eich bod chi'n deffro ac yn penderfynu prynu peiriant golchi. Rydych chi eisiau gweld y cynnyrch cyn i chi brynu felly rydych chi'n mynd i siop drydanol leol. Pan rydych chi'n cyrraedd yno rydych chi eisiau i rywun werthu i chi: dyna pam aethoch chi yno, am help i ddewis y peiriant gorau ar gyfer eich anghenion. Rydych chi'n dewis un gyda chymorth gwerthwr, yn gwario eich arian, ac yn gadael ar ôl i chi drefnu bod y peiriant yn cael ei ddanfon. Mae hyn fel siopa ar-lein drwy chwilio.

Nawr dychmygwch nad eich bwriad chi wrth ddeffro oedd prynu peiriant golchi, ond yn lle hynny eich bod chi’n penderfynu mynd i'r parc gyda'ch teulu. Tra'r ydych chi yno mae rhywun yn dod atoch chi ar hap ac yn ceisio gwerthu peiriant golchi i chi; wel, mae hynny yn debyg i’r cyfryngau cymdeithasol: fe wnaeth rhywun darfu arnoch chi tra’r oeddech chi'n edrych ar fideos cathod.

TMae'r uchod yn enghraifft dda o fod angen gwybod sut mae eich marchnad darged (darpar gwsmeriaid) yn cychwyn ar eu taith i ddod o hyd i'ch cynnyrch neu wasanaeth. Sylwch, nid yw pob un sy'n dechrau drwy chwilio yn barod i brynu; fe allen nhw fod yn casglu gwybodaeth.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein gweminarau am ddim ar Farchnata Digidol a’r Cyfyngau Cymdeithasol

Dychwelyd i gwestiynau


Sut mae modd i mi werthu ar-lein?

Heddiw mae pob math o atebion o ran gwerthu ar-lein. Fe allech chi greu siop e-fasnach gyda WordPress a WooCommerce, neu fe allech chi ddefnyddio “siop ar-lein” barod fel Shopify. Mae manteision ac anfanteision i'r ddau. Mae Shopify wedi ei adeiladu'n barod, yn cael ei gynnal yn benodol ar eich cyfer chi, ac mae'n cynnwys llawer o nodweddion sydd wedi eu cynnwys yn barod. Y cyfan y mae'n rhaid i chi ei wneud yw sefydlu manylion eich cwmni, mewnbynnu'r cynnyrch, cadarnhau costau cludo a phostio, a mynd yn fyw. Darllenwch ein canllaw Shopify am ragor o wybodaeth.

A laptop screen showing the Shopify website.


Gyda WordPress a WooCommerce, rydych chi'n dechrau o'r dechrau ac yn adeiladu'r wefan yn gyntaf, yna rydych chi'n ychwanegu eich holl gynnyrch, ac ati.

Ni allwn anwybyddu platfformau fel Amazon, eBay, Etsy a marchnadoedd eraill sy'n dod i'r amlwg, chwaith. Anfantais ganfyddedig gwerthu eich cynnyrch drwy'r llwyfannau hyn yw eich bod yn talu comisiwn ar bob gwerthiant. Fodd bynnag, mae hynny’n cynnwys un fantais enfawr, sef bod bod torf barod o brynwyr awyddus yn gweld eich cynnyrch.

Os ydych chi'n gwerthu gwasanaethau yn hytrach na chynnyrch, mae'n bosibl y byddwch chi eisiau gwefan anfasnachol neu ddull gwerthu wedi ei hidlo, o bosibl. Ystyriwch farchnadoedd fel fiverr a People Per Hour hefyd.

Dewch i wybod mwy yn ein gweminarau marchnata digidol, gwefannau, ac optimeiddio peiriannau chwilio am ddim

Dychwelyd i gwestiynau


Sut mae modd i mi redeg fy musnes ar-lein?

Mae nifer o offer ar-lein ar gael a all eich helpu i newid o swyddfa bapur i un ddigidol. Mewn gwirionedd, wrth i feddalwedd cwmwl ddod yn fwy a mwy fforddiadwy ac yn hawdd ei ddefnyddio, mae'r rhan fwyaf o'r offer rwy'n eu defnyddio i redeg fy musnes yn awr ar-lein.

Er enghraifft, fy rhaglen gyfrifon yw Xero - rhaglen gyfrifo ac anfonebu yn y cwmwl sy'n caniatáu i mi, fy nghyfrifydd, a’m llyfrifydd gael mynediad at fy nghyfrifon ar unrhyw adeg o unrhyw le. Mae'n rhoi mynediad ar unwaith at eich cyfrifon mewn amser real ac mae'n ffordd haws o lawer i chi gadw rheolaeth ar y llyfrau.

Darllenwch sut sicrhaodd Colman Kayman HR Services gydbwysedd iachach rhwng bywyd a gwaith gyda Microsoft 365 heb gyfaddawdu ar nodau busnes.

A smartphone showing Google apps.


I'r rhai y mae'n well ganddyn nhw ddefnyddio Google, mae G-Suite wedi ei ail-lansio fel Google Workspace, sy'n cynnwys e-bost, storio ar-lein ac offeryn fideo-gynadledda gwych o'r enw Google Meet. Gellir cyrchu'r holl offer hyn o unrhyw le a'i gwneud hi'n hawdd i chi redeg eich busnes ar-lein. Unwaith eto, rwy'n ymdrin â llawer o'r rhain a mwy yn y weminar ar offer busnes ar-lein am ddim.

Ewch y tu hwnt i daenlenni a datgloi potensial llawn Microsoft 365 gyda'n gweminar wedi ei theilwra

Dychwelyd i gwestiynau


Sut mae modd i mi ddefnyddio digidol i arbed amser a bod yn fwy effeithlon?

Nid oes yr un perchennog busnes eisiau boddi dan waith papur pan allen nhw fod yn rhedeg y busnes. Dyma lle mae'r dewis digidol yn wirioneddol fuddiol. Gall offer digidol helpu i ysgafnhau’r llwyth drwy wneud y gwaith i chi, fel eich bod chi'n treulio llai o amser ar weinyddu a mwy o amser yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig.

Mae Microsoft Power Automate yn offeryn gwych sy'n helpu gyda thasgau ailadroddus. Mae Xero yn fodd i chi sefydlu anfonebu ar-lein yn awtomatig a mynd ar ôl taliadau anfonebau gan rai sy’n hwyr yn talu.

A calculator, pen and paper.


Mae Evernote yn offeryn defnyddiol arall sy'n gweithio fel cabinet ffeilio ar-lein. Gallwch sganio dogfennau fel dyfynbrisiau tasgau ac mae Evernote yn eu trosi i pdf ac yn eu cadw yn eich system ffeilio ar-lein mewn adran y gallwch chi ei henwi fel y mynnwch - e.e. dyfynbrisiau gwaith mis Tachwedd. Mae hyn nid yn unig yn lleihau gwaith papur, ond hefyd yn lleihau'r perygl o golli ffeiliau wrth i bopeth gael ei storio'n ddiogel ar-lein. Gall defnyddio'r rhain arbed oriau i chi mewn wythnos. Mewn gwirionedd, mae'n union fel cael pâr ychwanegol o ddwylo.

Cyfunwch hynny â system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid dda i gael mwy o drefn ar eich cysylltiadau â chwsmeriaid ac rydych chi’n dechrau dod yn berchennog busnes mwy effeithlon o ddifri. Darllenwch sut mae Walker Chiropractic yn defnyddio Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid i arbed amser a darparu gwell gwasanaeth i gleifion.

Cewch ragor o wybodaeth yn ein gweminarau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, Offer Ar-lein a Microsoft 365 am ddim

Dychwelyd i gwestiynau


Mae Austin Walters yn cyflwyno amrywiaeth i weminarau technoleg ddigidol ar gyfer Cyflymu Cymru i Fusnesau.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen