Mae Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, neu CRM, yn ffordd o wneud busnes a all weddnewid perfformiad a rhagolygon elw sefydliad.

Ei nod yw rhoi blaenoriaeth i’r cwsmer – ond er y dylai’n sicr fod o gymorth wrth geisio gwella profiad y cwsmer, yn bendant nid yw’n golygu mai’r ‘cwsmer sy’n iawn bob tro’ yn unig.

Yn hytrach, addewid CRM yw y bydd deall eich cwsmeriaid presennol a rhai’r dyfodol, eu sefyllfaoedd, eu hanghenion a faint o werth allant gynnig i’ch busnes, yn eich galluogi i wneud penderfyniadau deallus.

Nid cynnyrch yw CRM, na thechnoleg ychwaith, er bod darparwyr systemau CRM yn cynnwys enwau mawr fel Microsoft, Sage a Salesforce. Ffordd o weithio ydyw: un a allai, mewn egwyddor, gael ei gyflawni gyda phapur a phensel, ond yn amlwg mae’n llawer haws os ceir cefnogaeth yr amryw o offer TG a ddatblygwyd i sicrhau CRM effeithiol.


DOCUMENT

Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM)

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen