P’un ai rhyw drydar gan rywun enwog neu bartïon pobl ifanc ar Facebook, nid yw’r cyfryngau cymdeithasol byth yn bell o’r newyddion. Yr hyn na ddangosir mor aml yw pa mor ddefnyddiol y maent i fusnesau.

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol mwyaf yn cyrraedd llawer mwy o bobl nag unrhyw gyfrwng traddodiadol fel gorsaf deledu neu gylchgrawn. Maent fel arfer yn rhad ac am ddim. Ac maent yn agor ffordd newydd o gyfathrebu â chwsmeriaid hen a newydd, yn ogystal â phobl eraill sydd â diddordeb yn eich busnes: cyfathrebu sy’n fwy fel sgwrs rhwng dau na neges un ffordd.

Fodd bynnag, mae llwyddiant yn y cyfryngau cymdeithasol (neu’r ‘cymdeithasol’ yn fyr) yn gofyn hefyd am ddull gwahanol i’r hyn sydd ei angen ar gyfer gwefannau, hysbysebion, neu ffurfiau eraill o gyfathrebu marchnata - a byddwn yn pwysleisio hynny yn y canllaw hwn.


Document

PDF icon

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen